Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Ychwanegu pecynnau cynnwys i ddefnyddio'r chwaraewr cynnwys
Enw un math o gynnwys dysgu seiliedig ar y we gallwch ei ddefnyddio yn eich cwrs yw SCO, neu Wrthrych Cynnwys Rhanadwy. Mae'r SCOs hyn yn cael eu casglu at ei gilydd mewn ffeil wedi'i chywasgu a'i sipio, o'r enw pecyn cynnwys. Gellir dadbacio a chwarae'r ffeil wedi'i sipio trwy chwaraewr cynnwys. Yn gyffredinol, darperir cydrannau unigol neu becynnau cyfan i chi gan ysgolion, cyhoeddwyr, cwmnïau masnachol, neu o ffynonellau eraill.
Eich sefydliad sy’n rheoli a alluogwyd y Peiriant SCORM. Os alluogwyd gan eich sefydliad, Peiriant SCORM B2 fydd y chwaraewr cynnwys diofyn ar gyfer pob pecyn cynnwys a uwchlwythir o'r newydd, ynghyd ag unrhyw becyn cynnwys presennol sy'n cael ei ail-uwchlwytho. I wirio pa chwaraewyr sydd mewn ardaloedd cynnwys, ewch i'r Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Argaeledd yr Offer.
Anghymeradwywyd y Chwaraewr Cynnwys Safonau Agored, chwaraewr SCORM sy'n seiliedig ar Java, yn Ebrill 2015. Cynhwysir y Bloc Adeiladu fel rhan o Blackboard Learn o hyd i sicrhau y gellir chwarae hen gynnwys, ond nid yw'n argymelledig. Mae'n bwysig bod gweinyddwyr a hyfforddwyr yn cwblhau symud, ail-uwchlwytho a phrofi cynnwys presennol i ddefnyddio'r Peiriant SCORM yn ei lle.
Cynnwys SCORM
Mae'r Peiriant SCORM yn cefnogi cynnwys sy'n cydymffurfio â'r safon SCORM 1.2, safon SCORM 2004, yn ogystal ag AICC a chwarae pecynnau API Tin Can. Ar hyn o bryd nid yw Blackboard Learn yn cynnwys Storfa Cofnod Dysgu Tin Can (LRS) er hynny bydd data syml a drosglwyddir yn weladwy yn y Ganolfan Raddau Dysgu.
Nid oes angen i chi bennu ymlaen llaw pa fath o gynnwys y mae, gan fod yr opsiwn ychwanegu cynnwys yn defnyddio'r un broses ar gyfer pob math o gynnwys a gefnogir. Er enghraifft, yn achos uwchlwytho pecynnau cynnwys IMS, bydd y llif-gwaith Ychwanegu Cynnwys yn dangos neges sy’n dweud Canfuwyd rhai problemau gyda'r cwrs hwn a allai effeithio ar y gallu i chwarae'r ffeil ac is-neges sy’n dweud nid yw'r pecyn yn fformat SCORM a chaiff ei ystyried fel pecyn Cynnwys IMS.
Ychwanegu pecyn cynnwys
- Cyrchwch faes cynnwys neu ffolder.
- Pwyntiwch at Adeiladu Cynnwys a dewiswch Pecyn Cynnwys (SCORM).
- Ar y dudalen Ychwanegu Pecyn Cynnwys, atodwch ffeil sy’n cydymffurfio â'r safonau gofynnol. Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur. Gallwch hefyd uwchlwytho o storfa’r cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.
Ar ôl i'r ffeil gael ei huwchlwytho a'i gwirio, mae ail dudalen Ychwanegu Pecyn Cynnwys yn dangos ble y gallwch osod manylion y pecyn cynnwys.
- Ar yr ail dudalen Ychwanegu Pecyn Cynnwys yn yr adran Gwybodaeth SCORM, teipiwch Teitl.
- Fel arall, teipiwch Disgrifiad.
- Dewiswch yr opsiynau Argaeledd SCORM. Mae'r dewisiadau'n eich galluogi i bennu p'un a yw'r chwaraewr cynnwys ar gael i fyfyrwyr ai beidio, rheoli'r nifer o ymgeisiau, a phennu argaeledd cynnwys y cwrs.
- Dewiswch Ie iGwneud SCORM Ar Gael.
- Ar gyfer Nifer o Ymgeisiau, gallwch ddewis Caniatáu ymgeisiau unigol, Caniatáu ymgeisiau diddiwedd, neu teipiwch rif ar gyfer y Nifer o Ymgeisiau a ganiateir.
- Dewiswch y blychau ticio Arddangos Ar Ôl ac Arddangos Hyd i alluogi'r dewisiadau dyddiad ac amser. Nid yw'r cyfyngiadau arddangos yn effeithio ar argaeledd pecyn cynnwys, dim ond pan fydd yn ymddangos
- Dewiswch Ie i Olrhain Nifer o Weliadau.
- Dewiswch yr opsiynau Graddio.
- Ar gyfer Graddio SCORM, gallwch ddewis Dim Graddio neu deipio rhif ar gyfer Graddio: Pwyntiau Posibl, yn seiliedig ar y Sgôr SCORM, Cwblhad SCORM, neu Cyflawnhad SCORM.
- Dewiswch Ydw i Graddio SCOS, ac wedyn dewiswch yr eitemau unigol i'w graddio.
Gweld manylion ymgeisiau SCORM
Pan fydd pecyn SCORM wedi'i osod i'w raddio, gallwch weld manylion ymgeisiau mewn perthynas â rhyngweithio'r defnyddwyr â'r cynnwys. Mae'n bosibl y bydd y manylion yn cynnwys cyfanswm yr amser y mae'r defnyddiwr wedi edrych ar y cynnwys, y statws cwblhau, ymatebion i unrhyw gwestiynau a gynhwyswyd yn y pecyn, a ph'un ai oedd yr ymatebion yn gywir. Mae'r data ymgais yn eich helpu i benderfynu ar sgôr ar gyfer eitem y Ganolfan Raddau. Nid yw pob pecyn yn olrhain yr holl ddata. Os nad yw'r pecyn yn darparu gwybodaeth i Blackboard Learn, dangosir y data fel Ddim yn berthnasol. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â data sydd ar goll, cysylltwch â chrëwr y pecyn i bennu pa ddata y cafodd ei ddylunio i'w olrhain.
I weld ymgeisiau unigol:
- Ar y Panel Rheoli, cyrchwch y Ganolfan Raddau Llawn a dewch o hyd i'r golofn ar gyfer yr eitem cynnwys y cwrs.
- Dewiswch yr ymgais defnyddiwr.
- Ar y dudalen Golygu Gradd, dewiswch Gweld. Mae’r dudalen Manylion Ymgais yn ymddangos.
I redeg adroddiad i weld y manylion ar bob ymgais:
- Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Arfarniad a dewiswch Adroddiadau SCORM.
- Ar y dudalen Adroddiadau SCORM, agorwch ddewislen eitem a dewiswch Rhedeg.
Golygu opsiynau uwch ar gyfer y chwaraewr SCORM
Y rhan fwyaf o'r amser, nid oes angen arnoch gyrchu neu newid Opsiynau Uwch y chwaraewr SCORM oherwydd gosodir y gosodiadau diofyn am gydnawsedd a chyflawniad uchaf. Dylai fod eisoes gan y pecyn cynnwys y llywio, llif ac ymddygiad a fwriedir, ac mae'r gosodiadau diofyn yn debygol o'u dangos yn gywir ac yn gyson. Mae’n debyg y bydd y Rheolyddion Llywio ac Ymddygiad Lansio yn nodweddion mwyaf defnyddiol ar gyfer hyfforddwyr ar lefel sylfaenol o ddealtwriaeth am sut mae cynnwys SCORM yn gweithio, er y gall Opsiynau Dadfygio ac Opsiynau Hanes helpu cywiro problemau. Os ydych yn teimlo bod angen i chi eu newid, yn gyntaf dylech gysylltu â'ch sefydliad am gymorth ac arweiniad.
I gyrchu Opsiynau Uwch y chwaraewr SCORM, mae’n rhaid i chi olygu pecyn cynnwys SCORM sydd eisoes yn bodoli.
- Cyrchwch faes cynnwys neu ffolder lle mae pecyn cynnwys SCORM wedi ei lwytho i fyny'n barod.
- Agorwch ddewislen y pecyn cynnwys SCORM a dewiswch Golygu.
- I gyrchu Opsiynau Uwch y chwaraewr SCORM sydd fel arfer wedi’u cuddio, gosodwch Golygu Ymddygiad y Chwaraewr SCORM i Ie. Bydd Opsiynau Uwch y gyriant SCORM yn ymddangos mewn dwy neu dair colofn. Mae'r golofn chwith yn caniatáu i chi ddewis categori'r rheolyddion opsiynau uwch, tra bod y colofnau ar y dde yn rhestru'r dewisiadau a'r gosodiadau a gyd-gysylltir â'r categori a ddewisir:
- Rheolyddion Llywio
- Ymddygiad Lansio
- Dilyniant Elfennol
- Casgliad Elfennol
- Gosodiadau Cydweddiad
- Gosodiadau Cyfathrebu
- Opsiynau Difa Chwilod
- Opsiynau Hanes
- Opsiynau Ymddygiad Eraill
-
Dewiswch Cyflwyno. Os nad ydych eisiau cyflwyno unrhyw newidiadau rydych wedi'u gwneud, dewiswch Canslo.
Rheolyddion llywio
Mae’r Rheolyddion Llywio yn caniatáu i chi gynnwys botymau, bariau, a chymhorthion llywio eraill y bydd myfyrwyr yn eu gweld ac yn gallu eu defnyddio wrth gyrchu cynnwys y cwrs gan ddefnyddio'r chwaraewr SCORM.
Opsiwn | Swyddogaeth |
---|---|
Dangos y Bar Llywio | Mae’n penderfynu a fydd chwaraewr SCORM yn arddangos bar llywio i fyfyrwyr. Mae rhaid galluogi'r bar llywio er mwyn i unrhyw un o'r gosodiadau hyn fod yn weithredol:
|
Dangos y Bar Teitl | Mae’n penderfynu a fydd y chwaraewr SCORM yn dangos bar teitl i fyfyrwyr. Mae rhaid galluogi'r opsiwn Dangos y Bar Llywio er mwyn i'r gosodiad gael effaith. |
Atal De-Glicio | Mae'n atal myfyriwr rhag de-glicio yn ffenestri'r chwaraewr SCORM. Os clicir botwm de y llygoden, ni fydd unrhyw beth yn digwydd. Gall hyn fod yn ddefnyddiol mewn asesiadau pwysig neu le nad ydych eisiau i fyfyrwyr allu gweld y strwythur mewnol neu gynnwys yn y chwaraewr. Mae'r gosodiad hwn yn effeithio ar ffenestri'r chwaraewr SCORM yn unig, gan gynnwys strwythur y cwrs a'r bar llywio (os yn bresennol), ac nid yw'n effeithio ar unrhyw gynnwys arall, ffenestri'r porwr neu swyddogaethau bwrdd gwaith cyfrifiadur. |
Dangos Strwythur y Cwrs | Mae'n penderfynu a ddylai chwaraeydd SCORM arddangos strwythur y cwrs. Os yw wedi ei ddewis, mae strwythur y cwrs yn arddangos i'r chwith o'r cynnwys, mewn fformat amlinell. Gall hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyrsiau sy'n cynnwys gwrthrychau cynnwys lluosog. Mae rhaid galluogi'r opsiwn hwn er mwyn i unrhyw un o'r gosodiadau hyn fod yn weithredol:
|
Ymddygiad lansio
Mae’r opsiynau Ymddygiad Lansio yn rheoli ymddangosiad cyntaf y cynnwys pan gaiff ei lansio gan fyfyrwyr am y tro cyntaf.
Opsiwn | Swyddogaeth |
---|---|
Math o Lansio SCO | Mae'r gosodiadau hyn yn penderfynu sut y lansir pob SCO. Y gwerthoedd posib yw:
|
Dull Lansio’r Chwaraewr | Mae'r gosodiadau hyn yn penderfynu sut y lansir chwaraeydd SCORM. Y gwerthoedd posib yw:
|
Opsiynau Ffenestr Newydd | Mae'r gosodiadau hyn yn penderfynu dimensiynau naill ai'r chwaraewr cynnwys pan y'i lansir mewn ffenestr newydd. Nid oes gan y gosodiadau hyn unrhyw effaith oni bai bod opsiwn ffenestr newydd wedi'i ddewis fel Math o SCO I'w Lansio neu Math o Chwaraewr I'w Lansio.
|
Atal Ailfeintio Ffenestr | Mae'n penderfynu p'un ai atal ffenestri'r chwaraewr cynnwys rhag eu hailfeintio gan fyfyrwyr. |
Dilyniannu elfennol
Mae’r opsiynau Dilyniannu Elfennol yn eich caniatáu i reoli beth dylid digwydd nesaf, o dan amodau arferol a gwall, pan fydd myfyriwr naill ai’n cwblhau neu’n gadael Pecyn Cynnwys SCORM cyn ei gwblhau. Yn seiliedig ar y gosodiadau hyn, bydd chwaraewr SCORM yn pennu beth ddylai ddigwydd nesaf.
Mae sawl ffactor yn allweddol i benderfynu sut i weithredu:
- P'un ai yr SCO yw'r un cyntaf (ac o bosibl yr unig un), SCO canol, neu'r un olaf
- Statws yr SCO, yn unigol yn ogystal â fel rhan o gwrs cyflawn y Pecyn Cynnwys
- Statws gadael yr SCO sydd wedi ei gwblhau neu ei atal
Mae'r gosodiadau hyn yn gymwys i Becynnau Cynnwys SCORM 1.2 yn unig, ac yn darparu modd o ddynwared y dilyniant uwch a adeiladwyd i mewn i safonau SCORM 2004. Yn SCORM 2004 (pob cyhoeddiad), mae Dilyniant Syml yn caniatáu i'r cynnwys benderfynu sut y trinnir dilyniant SCO.
Opsiwn | Swyddogaeth |
---|---|
SCO Canolog | Dyma'r gosodiadau sy'n gymwys i Wrthrychau Cynnwys Rhanadwy (SCOs) sydd ar ddechrau neu yng nghanol dilyniant cwrs sy'n cynnwys SCOs lluosog, hynny yw, pob SCO oni bai am yr un olaf. P’un ai Cwrs Wedi’i Gyflawni neu Cwrs Heb ei Gyflawni yn berthnasol, gallwch reoli beth sy’n digwydd nesaf ar gyfer pob un o'r amodau posibl:
Y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer pob amod gadael a boddhad cwrs:
|
SCO olaf | Dyma'r gosodiadau sy'n gymwys i'r SCO olaf mewn cwrs. Os yw cwrs yn cynnwys SCO unigol, fe’i trinnir fel yr SCO terfynol. P’un ai Cwrs Wedi’i Gyflawni neu Cwrs Heb ei Gyflawni yn berthnasol, gallwch reoli beth sy’n digwydd nesaf ar gyfer pob un o'r amodau posibl:
Y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer pob amod gadael a boddhad cwrs:
|
Diweddaru elfennol
Mae’r opsiynau Pecynnau Elfennol yn eich caniatáu i bennu sut rydych am fesur sgoriau a statws SCO ar gyfer myfyriwr penodol. Mae'r term diweddaru'n cyfeirio ar y broses o gywain sgorau a statws cwblhau SCO unigol a defnyddio'r data hwnnw i gyfrifo ac aseinio gradd derfynol gronnus a statws cwblhau cyffredinol ar gyfer y cwrs Pecyn Cynnwys SCORM. Mae sawl gwahanol ffordd o ddewis meini prawf, sgorau prawf cyfartalog, ac i gyfrifo gradd a statws cwblhau.
Mae'r gosodiadau hyn yn berthnasol i gynnwys SCORM 1.2 yn unig, ac yn darparu ffordd i efelychu'r sgôr ac ymddygiad statws pecyn a adeiladwyd i mewn i SCORM 2004 safonol. Nid ydynt yn berthnasol i gynnwys SCORM 2004 gan fod Dilyniant Syml SCORM 2004 yn caniatáu i'r cynnwys benderfynu sut y trinnir pecynnau.
Opsiwn | Swyddogaeth |
---|---|
Modd Sgorio Pecyn | Mae'n penderfynu'r modd y bydd chwaraeydd SCORM yn casglu sgoriau SCO unigol, eu dadansoddi ac yn rhoi adroddiad sgôr gyffredinol wedi ei chyfrifo. Y gwerthoedd posib yw:
Nifer o Wrthrychau Sgorio: Mae'n nodi sawl SCOs ddylai fod yn dweud am sgôr. Mae’r werth yn berthnasol os osodwyd Modd Pecyn Sgôr i Cyfartaledd Sefydlog. |
Modd Statws Pecyn | Mae'n penderfynu sut y penderfynir statws cwblhau cyffredinol. Y gwerthoedd posib yw:
Sgôr Trothwy Cwblhau: 0.0-1.0: Mae’n pennu trothwy cwblhau cwrs, ac yn berthnasol ond os osodwyd y Modd Pecyn Statws i Cwblhau Pan Gyrrhaeddir y Sgôr Trothwy neu Cwblhau Pan Fydd Pob Uned yn Gyflawn a Chyrrhaeddir y Sgôr Trothwy. Y gwerth yw rhif degol rhwng 0.0 ac 1.0. (Ar gyfer gwerth canran cyfatebol, lluoswch gyda 100; er enghraifft, os yw wedi ei osod i 0.8, mae hyn yn golygu mai'r sgôr trothwy gofynnol yw 80%. |
Defnyddio Statws Pecyn Ar Gyfer Statws Llwyddiant | Mae dewis yr opsiwn hwn yn defnyddio’r Modd Pecyn Statws ar gyfer y statws llwyddiant, yn lle'r statws cwblhau yn unig. |
SCO Cyntaf yn Gyn-Destun | Bydd galluogi'r opsiwn hwn yn nodi y bydd gweddill y SCO yn y Pecyn Cynnwys SCORM yn cael eu marcio'n gyflawn os yw'r SCO cyntaf mewn dilyniant gwers yn cyflawni statws pasio. Mae hyn yn ei gwneud yn bosib i chi ddylunio set o gyrsiau sy'n caniatáu i fyfyrwyr sgipio pynciau lle maen nhw'n gallu dangos eu bod wedi eu meistroli. |
Gosodiadau cydnawsedd
Er nad oes angen i chi newid y gosodiadau hyn o'r rhai diofyn fel arfer, gall y Gosodiadau Cydnawsedd helpu trwsio problemau gyda phecynnau cynnwys cwrs sydd â gwallau, yn methu â lansio, neu'r rhain sydd â phroblemau eraill. Fel gyda phob gosodiad uwch, ond yn enwedig yma, os ydych yn teimlo bod angen addasu'r Gosodiadau Cydnawsedd, dylech gysylltu â'ch sefydliad yn gyntaf am gefnogaeth ac arweiniad.
Wrth ail-uwchlwytho cynnwys cwrs a oedd yn defnyddio chwaraewr cynnwys hŷn yn flaenorol, os oes problemau neu wallau, dyma'r gosodiadau y gallai fod angen eu newid, yn enwedig ar gyfer cynnwys hŷn ac ansafonol. I gynorthwyo pennu’n union ble mae’r broblem, argymhellir galluogi’r Opsiynau Dadfygio manwl, ac adolygu'r logiau neges dilynol.
Opsiwn | Swyddogaeth |
---|---|
Mae Gorffen yn Achosi Cadw ar Unwaith | Darperir y gosodiad hwn i ddelio â chyrsiau SCO unigol lle ceir anhawster i gipio statws gadael. Efallai y byddwch am geisio galluogi'r opsiwn hwn os yw cwrs SCO unigol yn methu cofnodi cwblhau'n gywir. |
Lapio Ffenestr SCO gydag API | Pan fydd SCO yn cael ei lansio mewn ffenestr newydd, efallai na fydd rhai cynnwys nad sy'n safonol neu sydd wedi ei godio'n wael yn methu â chanfod a chyfathrebu'n gywir gydag Injan SCORM. Bydd galluogi'r gosodiad hwn yn rhoi fath o lapiwr - API, neu ryngwyneb rhaglen - o gwmpas y chwaraewr, ac mae'r API hwn yn gwybod yn awtomatig sut i siarad â'r Peiriant SCORM. |
Caniatáu Llifo i’r SCO Cyntaf | Os yw wedi ei alluogi, mae chwaraeydd SCORM bob amser yn llwytho'r cwrs cyntaf mewn SCO, waeth a yw'r rheolau dilyniant yn pennu'r ymddygiad hwn ai peidio. |
Mae'r Sgôr Meistrolaeth yn Gwrthwneud Statws y Wers | Pan fydd wedi ei alluogi, os yw'r sgôr meistrolaeth yn nodi bod yr SCO wedi ei gwblhau neu heb ei gwblhau, mae hyn yn gwrthwneud beth bynnag y bo statws y wers ei hun. |
Caniatáu Newid Statws Gwers Wedi’i Chwblhau | Yn gymwys i SCORM 1.2, mae'r gosodiad hwn yn penderfynu a ellir newid gwers a nodir fel wedi ei chwblhau i rywbeth nad yw wedi ei gwblhau'n hwyrach. |
Pecyn Set Gwag i Anhysbys | Ar gyfer cyrsiau SCORM 2004, mae'r gosodiad hwn yn penderfynu statws y pecyn pan na fydd gweithgareddau'n darparu gwybodaeth i osod y statws. Os cânt eu dewis, gosodir statws wedi cwblhau a boddhad i anhysbys. |
Analluogi Gweithgarwch Gwraidd | Mae'n atal myfyriwr rhag creu ymgais newydd wrth orfodi coeden lywio'r cwrs ac unrhyw ddolenni eraill a allai ailddechrau'r cwrs neu SCO o'i fewn i gael eu hanalluogi a pheidio ag ymateb i'r cliciau. |
Pecynnu wrth Ddadlwytho SCO | Mae'n gorfodi sgôr pecyn pan fydd yr SCO yn dadlwytho, i drin yr SCOs hynny sy'n methu galw am berfformio pecyn yn benodol. |
Gwrthwneud Amcan a Chwblhau a Osodwyd gan Gynnwys i Wir | Gall y rhagosodiad ar gyfer SCORM 2004 a'r rhagosodiad ar gyfer chwaraewr SCORM 1.2 weithiau arwain at nodi SCO fel wedi ei gwblhau a boddhaol os yw'r SCO yn methu dweud am y data statws amser rhedeg cywir. Mae'r gosodiad hwn yn gwrthwneud yr ymddygiad diofyn ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn gosod y rheolau dilyniant diofyn priodol. |
Gwneud Dewisiadau Myfyrwyr yn Gyffredinol i'r Cwrs | Mae'n achosi unrhyw beth sy'n well gan fyfyrwyr a osodwyd mewn SCO penodol i fod yn gymwys i bob SCOs mewn cwrs Pecyn Cynnwys SCORM penodol. |
Lansio Cofrestriadau wedi’u Cwblhau fe Dim Credyd | Mae'n penderfynu a lansir cofrestriadau cwrs sydd wedi eu cwblhau ar ôl hynny fel arferol neu fel dim credyd. |
Statws Cwblhau Statws Llwyddiant a Fethwyd | Gosod gwerth gwrthwneud ar gyfer statws cwblhau SCO y mae myfyriwr wedi ei fethu:
|
Modd Dilyniannu Lookahead | Mae prosesu Lookahead yn galluogi Injan SCORM i ddiweddaru strwythur llywio'r cwrs yn ddeinamig sy'n weladwy ac ar gael gan ddibynnu ar gyflwr yr SCO cyfredol. Yn ôl rhagosodiad, dylid galluogi'r gosodiad hwn. Ar gyfer cyrsiau mawr iawn, gall hyn achosi arafu amlwg mewn porwyr gwe ac os yw hyn yn annerbyniol, gallwch ei osod i wedi ei analluogi. Y gosodiadau sydd ar gael yw:
|
Ailosod Amseru Data Amser Rhedeg | Mae'n penderfynu pryd fydd chwaraewr SCORM yn ailosod amseru data'r CMI (hyfforddiant a reolir gan gyfrifiadur). Y dewisiadau yw:
|
Dychwelyd i Weithgaredd LMS | Gan fod y 4ydd Cyhoeddiad SCORM 2004 yn gofyn i gynnwys dysgu ddarparu rhyngwyneb sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddewis math o adael wrth adael cwrs, gall y chwaraewr SCORM ddangos hysbysiad pan fydd myfyrwyr yn clicio ar Gadael Cwrs. Gan ei bod yn bosibl troi'r hysbysiad hwn ymlaen ac i ffwrdd, mae'r opsiwn hwn yn caniatáu i chi ddewis y weithred i weithio'n awtomatig pan fydd yr hysbysiad wedi’i ddiffodd. Mae'r gosodiad yn penderfynu a yw'r cwrs yn gohirio ac yn cadw'r cyflwr cyfredol neu'n dod â'r cwrs i ben yn llwyr wrth adael. Y dewisiadau sydd ar gael yw:
|
Gosodiadau cyfathrebu
Mae'r Gosodiadau Cyfathrebu yn pennu sut mae’r Chwaraewr Cynnwys yn rhyngweithio â'r gweinydd. Efallai bydd angen addasu'r gosodiadau hyn os oes seibiannau neu fethiannau cyfathrebu'n cael eu hadrodd rhwng cyfrifiaduron y myfyrwyr a'r gweinydd, ond dylid eu newid gan weinyddwr neu ddatblygwr SCORM profiadol yn unig.
Opsiwn | Swyddogaeth |
---|---|
Uchafswm o Ymgeisiau a Fethwyd | Mae'n gosod uchafswm nifer yr ymgeisiau i geisio diweddaru data amser rhedeg i'r gweinydd cyn datgan methiant. Os eir dros y rhif hwn, arddangosir neges methiant. |
Ymrwymo Amlder | Mae'n penderfynu pa mor aml, mewn milieiliadau, y diweddarir y data amser rhedeg i'r gweinydd. Mae rhai digwyddiadau megis cwblhau cwrs yn gorfodi diweddariad. |
Opsiynau difa chwilod
Mae’r Opsiynau Dadfygio yn pennu a caiff gwybodaeth logio ei recordio a chymaint gaiff ei recordio o fewn y wahanol is-systemau SCORM.
Wrth brofi problemau neu wallau gyda chwarae neu gyflwyno cynnwys cyrsiau, mae galluogi'r Opsiynau Difa Chwilod fel y gallwch chi, neu y gall eich gweinyddwr neu gynrychiolydd cefnogi SCORM arbenigol adolygu'r cofnodion neges yn aml yn gam hanfodol mewn adnabod problemau a datrys y mater. Gall defynddio'r Opsiynau Hanes i recordio manylion statws arferol (dim gwall) hefyd ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol.
Opsiwn | Swyddogaeth |
---|---|
Opsiynau Difa Chwilod | Mae'n penderfynu lefel y cofnodi i'w berfformio o fewn pob un o'r is-systemau SCORM cydgysylltiedig: Rheoli (swyddogaethau cyffredinol y system), Amser Rhedeg (lansio a gweithredu SCO), neu Dilyniannu (beth sy'n digwydd y tu allan i a rhwng SCO)
|
Cynnwys Stampiau Amser | Mae'n penderfynu a gofnodir stampiau amser gyda'r digwyddiadau yn y ffeiliau cofnodi difa chwilod. |
Opsiynau Hanes
Mae’r Opsiynau Hanes yn rheoli a caiff gwybodaeth statws arferl (dim gwall) ei logio a chymaint o'r wybodaeth caiff ei logio am gynnwys cwrs y Pecyn Cynnwys SCORM.
Opsiwn | Swyddogaeth |
---|---|
Hanes Cipio | Yn pennu a ddylai'r Pecyn Cynnwys anfon gwybodaeth yn ôl am bob ymgais. |
Cipio Hanes Mewn Manylder | Mae'n penderfynu a ddylai'r Pecyn Cynnwys anfon gwybodaeth mewn manylder yn ôl am bob ymgais. |
Opsiynau ymddygiadol eraill
Opsiwn | Swyddogaeth |
---|---|
Terfyn Amser | Cyfanswm yr amser, mewn munudau, y caniateir i fyfyrwyr dreulio yn y Pecyn Cynnwys. Os yw'r amser dynodedig yn dod i ben, bydd rhaid i fyfyrwyr adael yn awtomatig, gyda sgoriau a statws yn cael eu cyfrifo o gyflwr cyfredol y cwblhau. Os gosodir y gwerth hwn i sero (0), nid oes terfyn amser. |