Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Beth yw swp-dileu?
Gallai fod yn ddefnyddiol dileu deunyddiau cwrs mewn swp ar ddiwedd cwrs. Gallwch ddewis adnoddau rydych am eu dileu a chadw'r gweddill i'w defnyddio yn y dyfodol. Er enghraifft, gallwch ddileu myfyrwyr a graddau o gwrs, ond cadw'r cynnwys.
Ni allwch adfer deunyddiau y dewiswch eu swp-dileu.
Os ydych yn dewis swp-dileu "Defnyddwyr," tynnir pob defnyddiwr sydd â rôl Myfyriwr o'ch cwrs. Ni thynnir y rolau Cynorthwy-ydd Addysgu, Graddiwr nac Adeiladydd Cwrs.
Archifwch eich cwrs yn gyntaf fel bod modd ei adfer i’w union gyflwr cyn swp-dileu.
Y broses swp-ddileu
Panel Rheoli > Offer a Gwasanaethau > Swp-ddileu
- Yn yr adran Dewis Deunyddiau Cwrs i'w Dileu, dewiswch y blychau ticio ar gyfer yr ardaloedd cynnwys yn y cwrs rydych eisiau eu dileu.
- Yn yr adran Dewis Deunyddiau Eraill i'w Dileu, dewiswch y blychau ticio ar gyfer cynnwys y daethpwyd o hyd iddo mewn ardaloedd eraill o'r cwrs rydych eisiau ei ddileu. Er enghraifft, os byddwch yn dewis Cysylltiadau, bydd yr holl ddata sy'n gysylltiedig â gwybodaeth staff yn cael ei ddileu.
- Yn yr adran Cadarnhad, teipiwch "Dileu" yn y blwch i gadarnhau'r swp-dileu.
- Dewiswch Cyflwyno.