Cyrchu opsiynau eitem

Ar ôl i chi adeiladu cynhwysyddion cynnwys, fel ardaloedd cynnwys, modiwlau dysgu, cynlluniau gwers, a ffolderi, rydych yn creu cynnwys o'u mewn. Rydych yn golygu a rheoli pob un o'r eitemau a meysydd cwrs, ar wahân i feysydd cynnwys, yn yr un modd. Ni allwch chi gopïo na symud maes cynnwys i fes cynnwys arall neu bennu meini prawf rhyddhau.

Sicrhewch fod y Modd Golygu YMLAEN er mwyn i chi allu cael mynediad at holl swyddogaethau hyfforddwr.

Pan fyddwch chi’n cyrchu dewislen eitem, gallwch newid gosodiadau, addasu argaeledd, a chreu metadata. Gallwch newid gosodiadau, addasu argaeledd, creu metadata, a throi opsiynau ymlaen fel statws adolygu, rhyddhau addasol, ac olrhain ystadegau. Gallwch hefyd gopïo, symud a dileu cynnwys. Gallwch aildrefnu cynnwys a chuddio manylion cynnwys i arbed lle ar y sgrîn.

  1. Cyrchwch ddewislen gyd-destunol eitem ar gyfer rhestr o opsiynau, megis golygu. Os nad yw'r opsiwn yn ymddangos, nid yw ar gael ar gyfer y math hwnnw o gynnwys. Ar gyfer maes cynnwys, cyrchwch y ddewislen wrth ochr y teitl a dewiswch Golygu a Dileu.
  2. Defnyddiwch y swyddogaeth llusgo a gollwng i aildrefnu modiwlau cwrs.
  3. Fel arall, defnyddiwch yr offeryn aildrefnu hygyrch i'r bysellfwrdd i aildrefnu'r modiwlau.
  4. Dewiswch Cuddio Manylion i gwympo’r disgrifiad ac arbed lle ar y sgrîn. Dewiswch yr eicon eto i ehangu’r disgrifiad. Mewn maes cwrs â sawl eitem a disgrifiad, mae'n rhaid chi sgrolio i weld y tudalen cyfan. Mae disgrifiad wedi ei gwympo'n aros wedi cwympo hyd yn oed ar ôl allgofnodi a mewngofnodi eto. Ni all myfyrwyr gwympo disgrifiadau.

Os byddwch chi’n gweld eicon mesurydd wrth ymyl eich ffeiliau, mae eich sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally i fesur hygyrchedd cynnwys eich cwrs. I ddysgu mwy, ewch i Cymorth Ally ar gyfer hyfforddwyr.


Golygu cynhwyswyr cynnwys a chynnwys

I newid yr enw, disgrifiad, golwg, opsiynau neu argaeledd ar gyfer eitem, cyrchwch ddewislen yr eitem a dewiswch Golygu. Ar gyfer meysydd cynnwys, cyrchwch y ddewislen wrth ymyl y teitl a dewiswch Golygu.

Yn y dudalen Golygu, gwnewch eich newidiadau.

Ally yn Learn - Hyfforddwr

Gweld a gwella hygyrchedd ffeil

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch i fyfyrwyr yn golygu eu bod pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.

Mae Ally yn sganio cynnwys eich cyrsiau'n awtomatig ac yn cwblhau camau i wneud ffeiliau'n fwy hygyrch.

Dechrau arni gydag Ally

  1. Yn eich cwrs, dewch o hyd i'r ffeil rydych am ei gwella.
  2. Nesaf at enw'r ffeil, bydd eicon yn ymddangos i ddangos sgôr hygyrchedd y ffeil yn sydyn. Hofrwch dros yr eicon i weld y sgôr. Lleolir eiconau hygyrchedd ffeiliau yn agos at eich ffeil bob amser, ond bydd y lleoliad penodol yn amrywio ar draws gwahanol feysydd yn eich cwrs. Trwy gydol Blackboard Learn, bydd mwyafrif yr eiconau hygyrchedd i'r chwith o'r ffeil.
  3. I ddysgu sut i wella hygyrchedd y ffeil, dewiswch eicon y sgôr.
  4. Bydd Ally yn agor ac yn dangos camau i chi am sut i olygu'ch ffeil er mwyn gwella'i hygyrchedd a'i hoptimeiddio ar gyfer fformatau amgen.

Sut mae gwella hygyrchedd yng nghynnwys cyrsiau

Nid yw myfyrwyr yn gweld sgôr hygyrchedd y ffeil. Yn hytrach, gall myfyrwyr ddewis y fformatau amgen mae Ally yn cynhyrchu ar gyfer y ffeil. Gallwch helpu Ally i greu fformatau amgen gwell trwy ddilyn arferion gorau ar gyfer creu ffeiliau hygyrch.

Gweld fformatau amgen

Ar ôl ichi atodi ffeiliau at gwrs, bydd Ally yn creu fformatau amgen o'r ffeil yn seiliedig ar y ffeil wreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r ffeil wreiddiol, bydd Ally yn creu fformat sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r ffeil wreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.

Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar fath y ffeil wreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, nid yw Ally wedi'i alluogi ar gyfer y cwrs hwnnw neu ni chefnogir y math hwnnw o gynnwys.

Dod o hyd i ffeil yn eich cwrs. Dewiswch y ddewislen nesaf at y ffeil a dewiswch Fformatau Amgen. Dewiswch y fersiwn sydd orau i'ch anghenion chi! Dewiswch Lawrlwytho i gadw'r fformat amgen ar eich dyfais.

student view of Download alternative formats modal

Rhagor am fformatau amgen cynnwys cyrsiau


Rheoli argaeledd cynnwys

Gallwch olygu gosodiadau eitem i drefnu nad yw ar gael i fyfyrwyr neu i ddefnyddio cyfyngiadau dyddiad ac amser i reoli pryd fydd yn ymddangos. Gallwch hefyd bennu rheolau ar gyfer eitem i reoli pa fyfyrwyr a all ei gyrchu a phryd.

Rhagor ynghylch rhyddhau cynnwys

Gallwch bennu argaeledd eitemau fesul eitem unigol. Gallwch hefyd sicrhau fod cynhwyswyr cynnwys cyfan ar gael. Er enghraifft, os byddwch chi’n golygu modiwl dysgu, cynllun gwers neu ffolder ac yn dewis Na ar gyfer Caniatáu i Ddefnyddwyr Weld y Cynnwys Hwn, ni fyd yn cynhwysydd yn weladwy i fyfyrwyr. Mae hyn yn golygu bod yr holl eitemau o fewn y maes cwrs nad yw ar gael hefyd heb fod ar gael i fyfyrwyr, waeth beth yw eu gosodiadau argaeledd unigol. Felly, mae arddangos eitem i fyfyrwyr yn amodol ar argaeledd ei phrif ffolder.

Rydych yn trefnu nad yw meysydd cynnwys ar gael gael mewn ffordd wahanol na meysydd cwrs eraill. Yn newislen y cwrs, cyrchwch ddewislen y maes cynnwys a dewiswch Cuddio Dolen.

Nid yw eitemau mewn cynhwysydd sydd ddim ar gael yn weladwy i fyfyrwyr yn y lleoliad hwnnw. Fodd bynnag, mae myfyrwyr yn gallu cyrchu'r eitemau hynny os oes dolenni ychwanegol iddynt yn bodoli mewn meysydd cwrs gwahanol. Er enghraifft, os oes gennych URL ar gael ym maes cwrs A a gopïoch i faes cwrs B, mae'r ddolen yn bodoli yn y ddau leoliad. Os byddwch yn pennu na fydd maes cynnwys A ar gael, bydd myfyrwyr yn dal i allu cyrchu’r URL ym maes cynnwys B. Mae dolenni i offer yn gweithio yn yr un ffordd. Os byddwch chi’n cysylltu i fforwm trafod ym maes cynnwys A a phennu na fydd maes cynnwys A ar gael, bydd myfyrwyr yn dal yn gallu cyrchu’r fforwm trafod wedi’i chysylltu ym maes cynnwys B.


Aildrefnu Cynnwys

Mae cynnwys yn ymddangos yn y trefn y gaiff ei ychwanegu, ond gallwch newid y drefn. Defnyddiwch y swyddogaeth llusgo a gollwng ar yr offeryn aildrefnu hygyrch i'r bysellfwrdd i aildrefnu cynnwys.

Swyddogaeth llusgo a gollwng

I symud eitem gan ddefnyddio'r swyddogaeth llusgo a gollwng, gwasgwch y saethau nesaf at yr eitem.

Gwasgwch a llusgwch yr eitem i mewn i'r lleoliad newydd.

Aildrefnu hygyrch o'r bysellfwrdd

Gallwch ddefnyddio offeryn hygyrchedd i aildrefnu eitemau.

  1. Yn y maes cynnwys, dewiswch eiconOfferyn Aildrefnu Hygyrch y Bysellfwrdd.
  2. Yn y blwch Aildrefnu: Cynnwys, dewiswch eitem yn y rhestr.
  3. Defnyddiwch yr eiconau Symud I Fyny a Symud I Lawr i addasu'r drefn.
  4. Ar ôl i chi gyflwyno, bydd blwch naid yn datgan: Mae’r eitemau wedi’u haildrefnu.
  5. Dewiswch Iawn.

Copïo a Symud Cynnwys

Gallwch gopïo a symud cynhwysyddion cynnwys fel ffolderi, modiwlau dysgu, a chynlluniau gwers o un ardal neu gwrs i ardal neu gwrs arall. Os byddwch yn copïo neu'n symud rhwng cyrsiau, mae'n rhaid eich bod wedi eich cofrestru ar y ddau gwrs.

  • Nid yw copïo cynnwys yn ei ddileu o'r lleoliad gwreiddiol yn eich cwrs.
  • Mae symud cynnwys yn ei dynnu o'i leoliad gwreiddiol yn eich cwrs.

Defnyddiwch y camau hyn i gopïo a symud cynhwyswyr cynnwys.

  1. Yn Modd Golygu, cyrchwch ddewislen cynhwysydd cynnwys a dewiswch Copïo neu Symud.
  2. Yn y dudalen Copïo neu Symud, dewiswch y Cwrs Cyrchfan o’r ddewislen. Y rhagosodiad yw'r cwrs cyfredol. Dim ond cyrsiau lle mae gennych rôl caniatáu copïo cynnwys sy'n ymddangos ar y rhestr.
  3. Dewiswch Pori a dewiswch y Ffolder Derbyn. Ar gyfer copïo yn unig, dewiswch Ie neu Na ar gyfer Creu dolenni ar gyfer eitemau na ellir eu copïo.
    • Os yw cynhwysydd yn cynnwys eitemau na allwch eu copïo, fel prawf, arolwg, neu aseiniad, crëir dolen iddo yn lle hynny. Pan ddaw'r weithred o gopïo i ben, bydd neges yn ymddangos: Mae rhai eitemau wedi’u copïo. Mae’r eitemau canlynol wedi’u creu fel dolenni: Fe restrir yr eitemau penodol.
    • Os yw cynhwysydd yn cynnwys eitemau na allwch eu symud i gwrs arall, fel prawf, mae neges yn ymddangos: Mae'r weithred symud wedi ei chwblhau ond nid oedd modd symud yr eitemau canlynol yn llwyddiannus. Fe restrir yr eitemau penodol.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Copïo a Symud Cynnwys

Gallwch gopïo a symud cynnwys i drefnu ac aildrefnu eich deunyddiau cwrs. Er enghraifft, os yw maes eich cwrs yn cynnwys nifer fawr o eitemau, trefnwch nhw gyda ffolderi i helpu defnyddwyr i lywio eich cynnwys. Os byddwch yn creu ffolderi ar ôl i chi greu eitemau cynnwys, gallwch symud eitemau i'r ffolderi newydd.

Mae gan rai eitemau cynnwys gyfyngiadau copïo a symud. Er enghraifft, gallwch gopïo a symud dolen cwrs i faes arall yn unig o fewn yr un cwrs. Ni allwch gopïo aseiniadau, profion, ac arolygon, ond gallwch eu symud o fewn yr un cwrs.

  • Nid yw copïo cynnwys yn ei ddileu o'r lleoliad gwreiddiol yn eich cwrs.
  • Mae symud cynnwys yn ei dynnu o'i leoliad gwreiddiol yn eich cwrs.

Ar gyfer eitemau na allwch chi eu copïo, megis prawf, arolwg neu aseiniad, ni fydd yr opsiwn copïo yn ymddangos yn newislen yr eitem.

Os yw cynhwysydd yn cynnwys eitemau na ellir eu symud i gwrs arall, megis prawf, ni fydd yr opsiwn i'w symud i'w symud i gwrs arall yn ymddangos ar y dudalen Symud.

  1. Yn Modd Golygu, cyrchwch ddewislen eitem a dewiswchCopïo neu Symud. Os na fydd Copïo neu Symud ar gael ar gyfer yr eitem, ni fydd yn ymddangos yn y ddewislen.
  2. Yn y dudalen Copïo neu Symud, dewiswch y Cwrs Cyrchfan o’r ddewislen. Y rhagosodiad yw'r cwrs cyfredol. Dim ond cyrsiau lle mae gennych rôl caniatáu copïo cynnwys sy'n ymddangos ar y rhestr. Ar gyfer eitemau na allwch eu symud allan o'r cwrs presennol, mae Cwrs Derbyn wedi'i rhestru eisoes fel y cwrs presennol ac ni fydd y fwydlen yn ymddangos.
  3. Dewiswch Pori a dewiswch y Ffolder Derbyn.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Rhagor ynghylch copïo cyrsiau


Dileu cynhwyswyr a chynnwys

Rydych yn dileu ffolderi, modiwlau dysgu, cynlluniau gwers, ac eitemau cynnwys yn yr un modd. Byddwch yn ymwybodol fod hyn weithiau'n golygu y tynnir y cynnwys yn barhaol o'r system. Pan fyddwch chi’n dileu cynhwysydd cynnwys, byddwch yn ei ddileu yn barhaol.

  1. Yn Modd Golygu, cyrchwch ddewislen cynhwysydd neu eitem a dewiswch Dileu.
  2. Dewiswch Iawn i gadarnhau’r penderfyniad hwn. Mae'r weithred hon yn derfynol.

Gallwch drefnu nad yw asesiad ar gael yn hytrach na'i ddileu.

Beth sy’n digwydd i eitemau mewn cynhwysydd cynnwys y byddaf yn ei ddileu?

  • Os ydych yn dileu ffolder cynnwys mewn ardal cynnwys sy’n cynnwys eitemau a raddir sydd heb ymgeisiau, dilëir y colofnau cyfatebol o'r Ganolfan Raddau hefyd.
  • Mae ffeiliau yr ychwanegoch at gynhwysydd o Ffeiliau'r Cwrs yn aros yn Ffeiliau'r Cwrs ac ni chânt eu dileu o'r system.
  • Cedwir unrhyw ffeiliau a lwythoch i fyny o'ch cyfrifiadur i gynhwysydd yn awtomatig yn Ffeiliau'r Cwrs. Gallwch gysylltu â nhw eto.
  • Caiff eitemau y gwnaethoch eu creu o fewn cynhwysydd â’r ddewislen Adeiladu Cynnwys eu dileu yn barhaol.
  • Dilëir dolenni prawf neu arolwg, ond mae'r prawf neu arolwg yn dal ar gael yn yr offeryn profion. Gallwch gysylltu â nhw eto.
  • Ar gyfer aseiniadau, bydd tudalen Cadarnhau Dilead yn ymddangos. Chi sy’n penderfynu beth i’w ddileu: yr aseiniad, cyflwyniadau, a cholofn y Ganolfan Raddau.
  • Dilëir dolenni i offer, fel y bwrdd trafod, blogiau, wikis, neu ddyddlyfrau, ond ni ddilëir yr offer eu hun.
  • Dilëir dolenni i werslyfrau a neilltuir yn barhaol.

Ynghylch metadata

Mae metaddata yn storio gwybodaeth am eitem o gynnwys, gan gynnwys gwybodaeth llyfryddiaeth, cylch oes a hawlfraint. Mae metadata'n caniatáu i gynnwys gael ei fewngludo a’i allgludo i raglenni eraill sy’n defnyddio safonau IMS (Systemau Rheoli Hyfforddiant), gan greu rhyngweithredu ar gyfer cynnwys dysgu.

Ni allwch olrhain neu adrodd ar y wybodaeth a roddwyd yn y metadata. Gallwch edrych arno ar y tudalen Metadata Cynnwys a'i ddefnyddio fel gwybodaeth gyfair ar gyfer yr eitem gynnwys. Gallwch olygu metadata ar gyfer eitem gynnwys.

Gallwch ychwanegu bedwar math o fetadata at eitem:

  • Gwybodaeth Gyffredinol Mae’n cynnwys y teitl, cofnod catalog, ffynhonnell, cofnod, iaith, a disgrifiad o eitem.
  • Gwybodaeth Cylch Oes: Mae’n cynnwys y dyddiad ac amser creu, cyfranwyr, enw a rôl yr awdur neu’r golygydd, mudiad a dyddiad y newidiadau neu’r diweddariadau diweddaraf.
  • Gwybodaeth Dechnegol: Yn cynnwys fformat eitem o gynnwys a'i leoliad.
  • Gwybodaeth Rheoli Hawliau: Mae’n arddangos cyfyngiadau hawlfraint a disgrifiad o unrhyw amodau ar ddefnyddio’r eitem.

Creu metadata ar gyfer cynnwys

  1. Yn Modd Golygu, cyrchwch ddewislen eitem a dewiswch Metadata.
  2. Yn y dudalen Metadata Eitem Cwrs, teipiwch Cofnod Catalog Newydd:
    • Teipiwch Ffynhonnell: Enw'r catalog neu ffynhonnell y cynnwys.
    • Teipiwch Neges Gofnod. Rhif neu fersiwn y catalog.
    • Dewiswch Ychwanegu Cofnod Catalog i weithredu eich newidiadau
    • Dewiswch Marcio i’w Ddiddymu i ddileu’r cofnod catalog
  3. Dewiswch becyn iaith o'r ddewislen.
  4. Teipiwch ddisgrifiad a gwybodaeth ar gyfer Cyfrannwr Newydd. Yn rhestru enw, rôl, mudiad y person ynghyd â'r dyddiad o gyfrannu'r eitem o gynnwys. Dewiswch Ychwanegu Modiwlau. Mae'r wybodaeth am y cyfrannwr nawr wedi ei rhestru. Dewiswch Marcio i’w Ddiddymu i ddileu cyfrannwr pan fyddwch chi’n cyflwyno’r dudalen.
  5. Dewiswch becyn iaith o'r ddewislen.
  6. Yn yr adran Gwybodaeth Rheoli Hawliau, dewiswch Ie ar gyfer Adnodd am Ddim i ddynodi fod y cynnwys am ddim. Ar gyfer Hawlfraint/Cyfyngiad, nodwch a oes hawlfraint ar y cynnwys neu gyfyngiadau ar ei ddefnydd. Defnyddiwch y blwch Disgrifiad i wneud sylwadau ar amodau i ddefnyddio'r eitem hon.
  7. Dewiswch Cyflwyno.

Pan fyddwch yn atodi eitemau o’r Casgliad o Gynnwys i'ch cwrs, gallwch ddewis metaddata cysylltiedig o’r Casgliad o Gynnwys i’w dangos gyda’r eitem gysylltiedig. Ni allwch addasu metaddata y Casgliad o Gynnwys.


Olrhain ystadegau ac adroddiadau

Mae ystadegau eitem yn rhoi gwybodaeth mewn manylder ynghylch defnydd eich cynnwys, fel sawl gwaith roedd defnyddwyr wedi edrych ar eitem a phryd y'i cyrchwyd. Gallwch alluogi olrhain ystadegau ar unrhyw adeg, a dechrau casglu data o'r funud honno ymlaen. Os bydd defnyddwyr yn cyrchu eitem cyn i chi alluogi olrhain ystadegau, ni chofnodir eu mynediad.

Os dadgofrestrir defnyddwyr, dilëir eu data o holl ystadegau'r cwrs. I gadw eu hystadegau, newidiwch eu hargaeledd i Na yn hytrach na'u dadgofrestru.

Mae olrhain ystadegau yn fath o adroddiad cwrs ar gyfer eitemau o gynnwys unigol. I gael adroddiadau cyrsiau am weithgarwch cyffredinol gan ddefnyddwyr yn ogystal â gweithgarwch mewn meysydd cynnwys, fforymau, a grwpiau: Panel Rheoli > Gwerthuso > Adroddiadau Cyrsiau.

  1. Yn y Modd Golygu, cyrchwch ddewislen eitem a dewiswch Olrhain Ystadegau.
  2. Dewiswch Ymlaen i alluogi olrhain ystadegau ar gyfer yr eitem.
  3. Dewiswch Cyflwyno. Wedi’i alluogi: Mae Olrhain Ystadegauyn ymddangos yn dilyn enw'r eitem.

Adroddiadau Ystadegau

Mae'r adroddiad yn dangos tair adran o ddata:

  • Cyrchu yn ôl Dyddiad.
  • Cyrchu yn ôl Awr y Dydd
  • Cyrchu yn ôl Diwrnod yr Wythnos

Mae’r adran Cyrchu yn ôl Dyddiad yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer pob defnyddiwr sydd wedi cofrestru. Arddangosir gwybodaeth mynediad ar gyfer gwesteion system a gwesteion na gofrestrwyd (defnyddwyr wedi eu cofrestru'n flaenorol a ddilëwyd o'ch cwrs) o dan y defnyddiwr sy'n westai. Ni olrheinir mynediad arsyllwr i eitemau cynnwys.

  1. Yn Modd Golygu, cyrchwch ddewislen eitem a dewiswch Gweld Adroddiad Ystadegau. Nid yw'r ddolen hon yn ymddangos os na alluogoch olrhain ystadegau ar gyfer yr eitem gynnwys.
  2. Yn y dudalen Adroddiadau Cyrsiau, cyrchwch y ddewislen Ystadegau Defnyddio Cynnwys a dewiswch Rhedeg.
  3. Ar y dudalen Rhedeg Adroddiadau, dewiswch fformat ar gyfer yr adroddiad a gynhyrchir o'r ddewislen.
  4. Dewiswch ddyddiadau.
  5. Os na fyddwch yn dewis defnyddwyr, mae'r adroddiad yn rhedeg yn awtomatig gan ddefnyddio pob defnyddiwr. Neu, gallwch bennu defnyddwyr yn y rhestr Dewis Defnyddwyr.

    I ddewis nifer o ddefnyddwyr mewn rhestr yn Windows, gwasgwch y bysell Shift a dewiswch y defnyddiwr cyntaf a’r olaf. I ddewis defnyddwyr ar hap, gwasgwch y bysell Ctrl a dewiswch bob defnyddiwr sydd ei angen. Ar gyfer cyfrifiaduron Mac, pwyswch y fysell Command yn lle’r fysell Ctrl.

  6. Dewiswch Cyflwyno i redeg yr adroddiad.
  7. Yn y dudalen Rhediad Llwyddiannus: Ystadegau Defnyddio Cynnwys, dewiswch Lawrlwytho’r Adroddiad i weld y canlyniadau. Gan ddibynnu ar y fformat a ddewisoch, efallai y gofynnir i chi agor neu gadw ffeil gan eich porwr. Defnyddiwch swyddogaeth argraffu eich porwr i argraffu'r adroddiad. Neu, dewiswch Rhedeg Adroddiad Newydd i newid paramedrau’r adroddiad a’i redeg eto.

Statws Adolygu

Pan fyddwch yn galluogi statws adolygu ar gyfer eitem, gallwch wirio pwy sydd wedi adolygu'r eitem, a gallwch ddefnyddio statws adolygu fel meini prawf rhyddhau addasol. Gall myfyrwyr ddefnyddio statws adolygu i gadw golwg ar eu cynnydd.

Ar gyfer myfyrwyr, bydd dolen Adolygwyd Marc yn ymddangos gyda’r eitem. Ar ôl iddynt adolygu’r eitem, bydd myfyrwyr yn dewis y ddolen i’w nodi yn Adolygwyd. Gallwch wirio statws adolygu eitem ar y tudalen Cynnydd Defnyddiwr.

Os byddwch chi neu eich sefydliad yn analluogi'r offeryn statws, ni ddangosir y dolenni Adolygwyd Marc ar gyfer pob eitem a affeithir mwyach. Os galluogir statws adolygu eto, mae'r dolenni'n ailymddangos ac adferir unrhyw ddata cydgysylltedig â statws adolygu, fel cynnydd unigolyn.

  1. Yn Modd Golygu, cyrchwch ddewislen eitem a dewiswch Gosod Statws Adolygu.
  2. Ar y dudalen Creu Neges, dewiswch I. I ddiffodd statws adolygu, dewiswch Analluogi.
  3. Dewiswch Cyflwyno. Yn eich gwedd, bydd Galluogwyd: Adolygu yn ymddangos wedi teitl eitem cynnwys.

Cynhwysir gosodiadau a gwybodaeth statws yn ystod copi cwrs llawn gyda defnyddwyr, ac yn ystod gweithrediadau archifo ac adfer. Ni chedwir gosodiadau a gwybodaeth statws yn ystod copi o ddeunyddiau cwrs i mewn i gwrs newydd neu gwrs cyfredol, neu ar gyfer allgludo neu fewngludo.


Gwirio cynnydd defnyddwyr

Gallwch wirio a yw myfyrwyr yn gallu cyrchu eich cynnwys.

Os gwnaethoch chi eitem i beidio â bod ar gael, mae’r dudalen Cynnydd Defnyddiwr yn dangos nad yw’r eitem yn weladwy i fyfyrwyr. Mae'r tudalen Cynnydd Defnyddiwr hefyd yn rhestru rheolau rhyddhau addasol sy'n affeithio gwelededd eitem. Os byddwch yn galluogi statws adolygu ar gyfer eitem, gallwch wirio pa fyfyrwyr sydd wedi ei hadolygu a phryd.

  1. Yn Modd Golygu, cyrchwch ddewislen eitem a dewiswch Cynnydd Defnyddwyr.
  2. Ar y dudalen Cynnydd Defnyddiwr , dewiswch deitl colofn i roi trefn ar y cynnwys.
  3. Pan fyddwch wedi gorffen yr adolygiad, defnyddiwch y bar cyfeiriadaeth i lywio i dudalen blaenorol.

Tudalen Cynnydd y Defnyddiwr

Mae’r eiconau yn y golofn Gweladwy yn dynodi a yw’r eitem yn weladwy i fyfyrwyr neu beidio. Mae’r eicon Ddim yn Weladwy yn dynodi nad yw eitem yn weladwy i fyfyrwyr oherwydd rheol rhyddhau addasol neu osodiadau argaeledd yr eitem.

Mae tic yn y golofn Adolygwyd yn dynodi fod y myfyriwr wedi dewis dolen Adolygwyd Marc yr eitem.

Gwirio cynnydd y defnyddiwr o'r Dangosfwrdd Perfformiad

Mae statws adolygu hefyd ar gael ar y Dangosfwrdd Perfformiad.

Panel Rheoli > Gwerthuso > Dangosfwrdd Perfformiad

Mae'r rhifau yng ngholofn Statws Adolygu yn dynodi nifer yr eitemau y mae myfyriwr wedi’u nodi fel Adolygwyd.

Neu, dewiswch yr eicon rhyddhau addasol ar gyfer unrhyw fyfyriwr. Yn y ffenestr naid, edrychwch pa gynnwys y cwrs sydd ar gael i’r myfyriwr hwnnw, a pha eitemau y gwnaeth y myfyriwr eu hadolygu.

Rhagor ynghylch y Dangosfwrdd Perfformiad