Dwy ffordd o ryddhau cynnwys

Pan fyddwch yn personoli rhyddhau cynnwys, rydych yn creu cwrs sy'n fwy rhyngweithiol ac wedi'i deilwra i anghenion myfyrwyr unigol. Yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, gallwch ddefnyddio rhyddhau addasol i ddangos y cynnwys priodol, i unigolion penodol, ar adeg briodol.

Gallwch ddefnyddio dau fath o ryddhau addasol:

Gyda rhyddhau addasol sylfaenol, gallwch roi un rheol ar waith ar y tro i eitem o gynnwys. Gall y rheol hon gynnwys y pedwar math o feini prawf, ond ni all gynnwys yr un math mwy nag unwaith. Rhaid bodloni pob maen prawf yn y rheol cyn y rhyddheir yr eitem. Po fwyaf y meini prawf a ychwanegir at reol, y mwyaf y cyfyngiadau ar ryddhau'r eitem honno. Mae rhagor o feini prawf yn ei gwneud yn anoddach i fyfyrwyr gael mynediad.

Gyda rhyddhau addasol uwch, gallwch osod mwy o feini prawf cymhleth yn ymwneud â'r rhyddhau. Er enghraifft, gallwch ychwanegu mwy o feini prawf at reol, neu gallwch bennu gwahanol opsiynau er mwyn rhyddhau'r cynnwys. Rhaid i fyfyrwyr fodloni holl feini prawf un o'r rheolau er mwyn cael mynediad.

Er enghraifft, mae un rheol yn caniatáu i aelodau Grŵp A gyda sgôr dros 85 ar brawf weld yr eitem o gynnwys. Mae rheol arall ar gyfer yr un eitem yn caniatáu i aelodau Grŵp B weld yr un eitem o gynnwys ond ar ôl dyddiad penodol yn unig.

Gallwch ychwanegu un maen prawf aelodaeth ac un maen prawf dyddiad ar gyfer pob rheol. Gallwch ychwanegu amryw feini prawf ar gyfer y Ganolfan Raddau a'r statws adolygu ar gyfer pob rheol.


Rheolau a meini prawf

Meini prawf yw'r rhannau sy'n diffinio rheol rhyddhau addasol. Gallwch ddefnyddio un neu ddau faen prawf ar gyfer bob rheol. Er enghraifft, gall un rheol sicrhau fod cynnwys ar gael wedi dyddiad penodol. Gall rheol arall, yn cynnwys meini prawf niferus, sicrhau fod cynnwys ar gael i grŵp cwrs wedi dyddiad penodol.

Gallwch chi ychwanegu pedwar math o faen prawf pan fyddwch chi’n creu rheolau:

  • Dyddiad
  • Aelodaeth
  • Gradd
  • Statws Adolygu

Mwy ar reolau

Mwy ar feini prawf


Rhyddhau cynnwys yn seiliedig ar golofnau graddau lluosog

Mae gennych ddarlleniadau manwl ar gyfer myfyrwyr sy’n derbyn 85% neu fwy ar eu dau aseiniad yn y tymor cyntaf a’u harholiadau canol tymor. Gallwch sefydlu rheol sy'n cynnwys meini prawf gradd ar gyfer y ddwy eitem. Mae’r llwybr i'r cynnwys hwn yn fwy cyfyng oherwydd bod rhaid bodloni'r ddau faen prawf.


Rhyddhau cynnwys pan fydd myfyrwyr wedi adolygu nifer o eitemau cynnwys

Gwnewch brawf uned yn hygyrch pan fydd myfyrwyr wedi adolygu tri eitem cynnwys yn yr uned. Ychwanegwch dri maen prawf statws adolygu, un ar gyfer pob eitem cynnwys. Mae’r llwybr i'r cynnwys hwn yn fwy cyfyng oherwydd bod rhaid i fyfyrwyr fodloni pob un o'r tri maen prawf ar gyfer y rheol.


Ychwanegwch ddwy neu fwy o reolau i’r un eitem cynnwys

Trefnwch fod eitem gynnwys ar gael i bob myfyriwr yn Wythnos 5, ac ar gael yn gynt i fyfyrwyr sy'n nodi pob eitem gynnwys flaenorol fel wedi ei hadolygu. Ychwanegwch un rheol gyda maen prawf statws adolygu ac ail reol gyda maen prawf dyddiad. Gall myfyrwyr ddilyn dau lwybr i gael mynediad i'r eitem gynnwys oherwydd bod rhaid iddynt fodloni un rheol yn unig.


Rhyddhau cynnwys ar ddau ddyddiad neu ystodau dyddiad

Os ydych am drefnu bod canllaw astudio ar gael yr wythnos cyn yr arholiadau canol tymor yn ogystal â'r rhai terfynol, ychwanegwch ddwy reol dyddiad, un ar gyfer pob wythnos. Rydych yn creu dau lwybr i'r un eitem gynnwys, a reolir gan ddyddiad.


Rhyddhau cynnwys ar waith

Tri athro yn trafod y gwahanol ddulliau maen nhw'n eu defnyddio i ryddhau cynnwys yn eu cyrsiau.

Shelby M.

"Rwy'n trefnu fy nghwrs mewn unedau sy'n cyd-fynd â phenodau gwerslyfrau.

Dydw i ddim eisiau i fyfyrwyr weithio ymlaen, felly rwy'n trefnu rhyddhau pob uned ar ddyddiad penodol. Er enghraifft, bydd Uned 1 yn barod i’w agor pan fydd y tymor yn dechrau. Ni all myfyrwyr agor Uned 2 tan yr wythnos nesaf.”


Maria R.

"Rwy'n creu deunyddiau cwrs ychwanegol at ddibenion adfer. Rwyf am i'r deunydd hwn fod yn barod ar gyfer fyfyrwyr sydd angen help ychwanegol ar fy nghwrs.

Gall myfyrwyr sy’n derbyn gradd o 65% neu’n is ar eu harholiadau hanner tymor agor y deunydd adferol."


Tom K.

"Mae fy nghwrs wedi trefnu yn ffolderi wythnosol. Mae pob ffolder yn cynnwys trosolwg, trafodaeth, darllen gofynnol a phrawf.

Rwyf am i fyfyrwyr ddarllen y deunydd cyn iddynt allu agor y cwis. Rwy’n defnyddio rhyddhau addasol fel bod angen i fyfyrwyr nodi eu bod wedi darllen y deunydd cyn iddynt gymryd y cwis.”