Os oes gan eich sefydliad fynediad at reoli cynnwys, gallwch storio, rhannu, a chyhoeddi cynnwys. Gallwch storio a dod o hyd i gynnwys mewn ffolderi personol, cwrs, a sefydliad yn y Casgliad o Gynnwys, a chreu dolenni i'r ffeiliau hyn mewn ardaloedd eraill o'ch cwrs. Gallwch gadw ffeiliau rydych yn eu llwytho i fyny i'ch cwrs yn y Casgliad o Gynnwys a chysylltu â nhw eto.

Ffeiliau'r Cwrs o'i gymharu â'r Casgliad o Gynnwys

Ffeiliau Cwrs yw'r storfa ffeiliau ar gael ar gyfer holl gyrsiau Blackboard Learn. Fodd bynnag, os oes gan eich sefydliad fynediad at yr offeryn rheoli cynnwys, y Casgliad o Gynnwys yw'r storfa ffeiliau. Gallwch benderfynu'n hawdd pa un y mae'ch sefydliad yn ei ddefnyddio drwy edrych ar y Control Panel mewn cwrs. Os bydd yr eitem gyntaf yn dweud Ffeiliau, mae eich sefydliad yn defnyddio Ffeiliau Cwrs. Os bydd yn dweud Casgliad o Gynnwys, mae eich sefydliad yn defnyddio Casgliad o Gynnwys fel ei storfa.

Ffeiliau Cwrs

  • Cedwir cynnwys ar gyfer cwrs unigol.
  • Ni allwch rannu cynnwys ar draws cyrsiau.
  • Nid oes gan fyfyrwyr fynediad i storio neu rannu ffeiliau.

Mwy am ddefnyddio Ffeiliau Cwrs

Casgliad o Gynnwys

  • Gallwch gadw cynnwys ar gyfer cyrsiau lluosog rydych yn eu haddysgu.
  • Gallwch rannu cynnwys ar draws cyrsiau a gyda defnyddwyr eraill.
  • Mae'n bosib bod gan fyfyrwyr fynediad i storio neu rannu ffeiliau.