Gall y cynnwys digidol iawn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich cyrsiau.

Gwnewch eich cwrs Blackboard Learn hyd yn oed yn fwy gwerthfawr trwy integreiddiadau a dolenni i gynnwys digidol. Gall gweinyddwr Blackboard Learn eich sefydliad awdurdodi adnoddau sydd â thechnoleg Gallu Offer Dysgu i Ryngweithredu (LTI) a LTI 2.0. Mae LTI yn fenter a reolir gan Gonsortiwm Dysgu Byd-eang IMS i integreiddio offer dysgu a gynhelir yn allanol ar y we i gyrsiau yn ddidrafferth.

Efallai bod gennych fynediad i'r Content Market hefyd, siop un stop y gall hyfforddwyr ei defnyddio i gael mynediad at gynnwys allanol y maent eisiau ei ddefnyddio yn eu cyrsiau. Gall hyfforddwyr ac adeiladwyr cyrsiau gyrchu deunyddiau parod gan gyhoeddwyr gwerslyfrau i wella'u cwricwlwm a darparu deunyddiau atodol ar gyfer myfyrwyr sy'n cynorthwyo dysgu.

Gyda datrysiad cynnwys integredig, gallwch gyflwyno cynnyrch ar-lein gan gyhoeddwyr blaenllaw y farchnad o fewn eich cyrsiau Blackboard Learn. Darparwch fynediad di-dor i'r cynnwys gwerth uchel y mae arnoch ei angen, y ffordd yr ydych ei eisiau.

Mwy yn ein Canolfan Cynnwys Digidol

Content Market

Mae llif gwaith y Content Market yn symleiddio darganfod ac ychwanegu cynnwys ac offer o ffynonellau allanol. Gallwch gyrchu deunyddiau dysgu gwerthfawr gan gyhoeddwyr partner Blackboard, fel Macmillan neu Cengage. Gallwch ddewis o blith adnoddau masnachol ac anfasnachol, gwersi, e-lyfrau, adnoddau addysgol agored, offer ac apiau.

 

Mewn ardal gynnwys eich cwrs, dewiswch Content Market o'r ddewislen Cynnwys Partner.

Porwch y Content Market i ychwanegu cynnwys at eich cwrs. Mae'r rhestr o Bartneriaid Cysylltiedig yn dangos cyhoeddwyr rydych wedi'u cysylltu â'ch cwrs. Mae Partnerion Sydd Ar Gael yn dangos cyhoeddwyr nad ydych wedi’u cysylltu â'ch cwrs eto, ond sydd ar gael i chi.

I ddysgu mwy am ein partneriaid integreiddio, ewch i'r Catalog Apiau Anthology.


Ychwanegu offer dysgu o wefan y darparwr

Mae technoleg LTI yn agor eich cwrs i gyfoeth o gynnwys cyhoeddwyr yr ymddiriedir ynddynt a all helpu i'ch arbed amser wrth i chi adeiladu'ch cwricwlwm. Gellir defnyddio offer LTI fel offer ar gyfer eich cwrs, neu fel marchnadle i chi ddewis ac ychwanegu cynnwys ble bynnag y byddwch am iddo ymddangos.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Os yw'ch sefydliad wedi ychwanegu'r darparwr fel offeryn cwrs, gallwch ei gyrchu yn y ddewislen Offer lle byddwch yn adeiladu cynnwys. Dewch o hyd i'r darparwr offer yn y rhestr a dewiswch ef i lansio'r offeryn. Os yw'r darparwr offer yn caniatáu, gallwch ychwanegu darnau lluosog o'u cynnwys i'ch cwrs gyda nifer bach o gliciau.

Mae cynnwys pob darparwr offer wedi'i ffurfweddu'n wahanol. Efallai y byddwch yn gweld blwch ticio drws nesaf i ddarnau o gynnwys i'w dethol a'u hychwanegu i gyd ar yr un pryd. Cysylltwch â'ch sefydliad i ddysgu rhagor am ychwanegu cynnwys trydydd parti at eich cwrs.