Cychwyn Llif Gwaith

Gellir defnyddio llifau gwaith â llaw neu'n awtomatig. Gallwch gychwyn llif gwaith â llaw gan ddefnyddio’r dulliau hyn:

  • Crëwch Lif Gwaith Parod (model llif gwaith newydd ac enghraifft o ddim).
  • Cychwynnwch lif gwaith newydd o fodel llif gwaith a rennir.
  • Dewiswch eitem y Casgliad o Gynnwys a decrheuwch neu crëwch fodel llif gwaith o’i hamgylch..

Creu Llif Gwaith Parod

Gall defnyddwyr greu Llif Gwaith Parod, sy'n arwain y defnyddiwr trwy broses di-dor o greu llif gwaith newydd a'i weithredu.

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, dewiswch Cydweithio. Dewiswch y saeth i fynd i’r dudalen lanio Cydweithio.
  2. Dewiswch Cychwyn Arni.
  3. Dewiswch Creu Llifau Gwaith Parod neu Copïo Model Llif Gwaith sydd Eisoes yn Bodoli . Os ydych chi’n copïo model, dewiswch Pori i ddewis y model yr hoffech chi ei gopïo.
  4. Enwch y llif gwaith newydd a theipiwch gyfarwyddiadau dewisol. Dyma’r cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddwyr eraill. Er enghraifft, os mai llif gwaith a rennir yw hwn, gellid defnyddio'r adran hon i esbonio sut dylai eraill ddefnyddio'r llif gwaith hwn.
  5. Diffiniwch y termau Statws Gweithgaredd i'w defnyddio yn y llif gwaith hwn: Ar y Gweill, Cymeradwywyd, a Heb ei Gymeradwyo.
  6. Dewiswch Pori i gysylltu eitemau cynnwys i’r llif gwaith hwn.
  7. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.

Defnyddiwch fodel llif gwaith a rennir

Gall defnyddwyr gychwyn llif gwaith yn seiliedig ar fodel llif gwaith a rennir.

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, dewiswch Cydweithio. Dewiswch y saeth i fynd i’r dudalen lanio Cydweithio.
  2. Dewiswch Cychwyn Arni.
  3. Copïo Model Llif Gwaith Presennol
  4. Dewiswch Pori i gopïo’r model yr hoffech chi ei gopïo.
  5. Dewiswch Cyflwyno.
  6. Os hoffech chi, teipiwch sylwadau ychwanegol ynghylch y llif gwaith yn y maes Sylwadau.
  7. Dewiswch Pori'r Casgliad o Gynnwys i ychwanegu eitem at y llif gwaith hwn.
  8. Ehangwch bob rhestr carreg filltir i neilltuo terfynau amser ac eitemau cynnwys.
    • Pennwch derfyn amser ar gyfer y garreg filltir trwy ddewis Pennu Dyddiad a defnyddio’r meysydd dyddiad ac amser.
    • Dewiswch Pori'r Casgliad o Gynnwys i ychwanegu eitem at y weithred hon.
  9. I dderbyn e-bost pan fydd y llif gwaith wedi gorffen, dewiswch Anfonwch e-bost ar ôl cwblhau.
  10. Dewiswch pryd i gychwyn y llif gwaith hwn gan ddefnyddio un o'r opsiynau canlynol:
    • Dewiswch yr opsiwn Dechrau â Llaw i gychwyn y llif gwaith hwn yn ôl eich disgresiwn.
    • Dewiswch yr opsiwn Dechrau Nawr i ddechrau’r llif gwaith hwn cyn gynted ag y bo modd.
    • Cliciwch yr opsiwn Nodi Dyddiad Cychwyn a defnyddiwch y meysydd dyddiad ac amser i ddewis dyddiad ac amser penodol i gychwyn y llif gwaith hwn.
  11. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.

Creu Llif Gwaith yn Seiliedig ar Eitem

Gall defnyddwyr greu llif gwaith newydd gan ddefnyddio eitem y Casgliad o Gynnwys fel man cychwyn. Mae'r dull hwn yn sicrhau y cynhwysir eitem benodol yn y llif gwaith.

  1. O unrhyw ffolder Content Colection, dewiswch eitem a dewiswch Dechrau Llif Gwaith.
  2. Dewiswch greu Llif Gwaith Parod neu defnyddiwch fodel llif gwaith presennol.
  3. Os byddwch chi’n creu llif gwaith parod, enwch y llif gwaith a theipiwch ddisgrifiad.
  4. Golygwch i labeli gweithredoedd fel y dymunwch chi.
  5. Os hoffech, atodwch eitemau Casgliad o Gynnwys ychwanegol a phennwch hawliau.
  6. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.

Golygu llif gwaith gweithredol

Gall defnyddwyr rheoli cynnwys olygu unrhyw lif gwaith maent yn berchen arnynt ac sydd ar y gweill. Ni allwch olygu llif gwaith os byddwch yn ei stopio, neu os na fydd y cerrig milltir a’r gweithredoedd heb gael eu dechrau eto.

Mae'n rhaid i'r system rhoi terfyn ar y llif gwaith cyn y gellir ei olygu; mae neges yn ymddangos gyda'r rhybudd hwn. Dewiswch Iawn i stopio’r llif gwaith.

Rhagor ynghylch golygu llif gwaith