Gallwch gysylltu eitemau neu ffeiliau'r Casgliad o Gynnwys o ddisg galed leol â llif gwaith, a hynny ar lefelau carreg filltir a gweithred.

Bydd eitemau a gysylltir ar lefel y model llif gwaith hefyd ar gael i bob carreg filltir yn y model. Pan fyddwch yn cysylltu eitem ar lefel y garreg filltir, bydd yr eitem ar gael hefyd ymhob gweithred mewn carreg filltir.

Bydd yr eitemau yn ymddangos yn y model lle cawsant eu cysylltu, ond o ran y llif gwaith, byddant yn ymddangos ar y lefel gweithred.

Dim ond os byddwch yn stopio’r llif gwaith y bydd modd ychwanegu eitemau ato, neu os nad yw gweithrediadau neu gerrig milltir wedi eu dechrau eto.

Mae eitemau a ychwanegwyd i lifoedd gwaith sydd eisoes ar waith yn berthnasol i’r achos hwnnw yn unig.


Cysylltu eitemau'r Casgliad o Gynnwys â llif gwaith.

Lefel Llif Gwaith

  1. Yn y Casgliad Cynnwys, ewch i dudalen Creu Model Llif Gwaith.
  2. Ar ddewislen y model llif gwaith, dewiswch Golygu.
  3. O dan Cynnwys, dewiswch Pori'r Casgliad o Gynnwys i ddod o hyd i’r eitem yr hoffech ei chysylltu.
  4. Unwaith y byddwch wedi dewis yr eitem, dewiswch Cyflwyno.
  5. Ticiwch y blychau i roi’r hawl i ddefnyddwyr weld yr eitem.
  6. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.

Lefel Carreg Filltir

  1. Yn y Casgliad Cynnwys, ewch i dudalen Creu Model Llif Gwaith.
  2. Ar ddewislen y model llif gwaith, dewiswch Adeiladu.
  3. Dewch o hyd i’r cerrig milltir yr hoffech ychwanegu cynnwys atynt. DewiswchGolygu ar ddewislen y garreg filltir.
  4. O dan Cynnwys Cysylltiedig, dewiswch Pori'r Casgliad o Gynnwys i ddod o hyd i’r eitem yr hoffech ei chysylltu.
  5. Unwaith y byddwch wedi dewis yr eitem, dewiswch Cyflwyno.
  6. Ticiwch y blychau i roi’r hawl i ddefnyddwyr weld yr eitem.
  7. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.

I ychwanegu eitem o'r Casgliad o Gynnwys at y lefel gweithred, dilynwch y camau y byddech yn eu dilyn ar gyfer cerrig milltir, ond dewiswch Golygu ar ddewislen y weithred dan sylw.


Ychwanegu ffeiliau lleol at lif gwaith.

Ydych am ychwanegu ffeil at y llif gwaith, ond nid yw’r ffeil yn y Casgliad o Gynnwys eto? Gallwch uwchlwytho ffeiliau’n uniongyrchol o ffenestr Pori'r Casgliad o Gynnwys os oes hawl gennych i ychwanegu ffeiliau at y ffolder presennol. Wedyn caiff yr eitem ei huwchlwytho i’r Casgliad o Gynnwys, a byddwch yn ei hychwanegu at y llif gwaith, carreg filltir neu weithred yn y dull arferol.