Bydd y dudalen llifau gwaith yn dangos pob un o’r llifau gwaith yr ydych chi’n gysylltiedig â nhw, naill fel cychwynnydd neu fel cyfranogwr. Gallwch chi wneud y canlynol:

  • Rheoli tanysgrifiadau llif gwaith
  • Golygu, dechrau neu stopio llifau gwaith rydych chi wedi eu creu
  • Gweld manylion am y llif gwaith
  • Ychwanegu sylwadau at lifau gwaith o’r dudalen hon

Dewiswch Cynnydd fy Llifoedd Gwaith yn newislen Cydweithio i weld tudalen Llifoedd Gwaith.

Os yw defnyddiwr yn cymryd rhan mewn llif gwaith sydd wedi ei drefnu ond sydd heb gyrraedd y defnyddiwr hwnnw eto, yna fydd dim modd iddo weld manylion am y llif gwaith.


Gweld llifau gwaith

I weld y llifau gwaith yr ydych chi’n gysylltiedig â nhw, dewiswch Cynnydd fy Llifoedd Gwaith yn newislen Cydweithio. Mae’r dudalen hon yn cynnwys y nodweddion canlynol:

  • Dileu - Dewiswch yr opsiwn hwn i ddileu’r llif gwaith am byth.
  • Tanysgrifio - Dewiswch yr opsiwn hwn i danysgrifio i’r llifau gwaith a ddewiswyd
  • Dangos y Llifoedd Gwaith - Defnyddiwch yr opsiynau arddangos i addasu’r rhestr o lifoedd gwaith a ddangosir.
  • Enw - Mae hyn yn dangos enw’r llif gwaith
  • Math - Mae hyn yn dangos y math o lif gwaith Anfonwyd neu Derbyniwyd.
  • Cynnydd - Mae hyn yn dangos cynnydd y llif gwaith
  • Terfyn Amser y Garreg Filltir Gyfredol - Mae hyn yn dangos dyddiad cau carreg filltir llif gwaith penodol.
  • Statws - Mae hyn yn dangos botwm Cychwyn/Stopio. Gall defnyddwyr ddewis Cychwyn i ddechrau llif gwaith y maent wedi ei greu a Stop i’w stopio. Gellir ailgychwyn llifau gwaith sydd wedi eu stopio gan ddewis Cychwyn. Os ydych chi wedi derbyn llif gwaith, bydd Ar Waith i’w weld yn y golofn hon.

Ydych chi am olygu model a greoch chi? Ewch i Creu a Golygu Modelau Llif Gwaith.


Tudalen Dyluniad Modelau

I weld pob un o’r manylion am fodel llif gwaith, gan gynnwys cerrig milltir a gweithrediadau, dewiswch enw’r model llif gwaith o’r rhestr ar dudalen Llifoedd Gwaith. Byddwch yn mynd i dudalen Dyluniad y Model.

Yn gyfleus, bydd tudalen Dyluniad y Model yn dangos manylion llif gwaith penodol. Mae pob carreg filltir wedi ei rhestru ar y dudalen hon, ac ar y dudalen mae gwybodaeth fanwl am y gweithrediadau sy’n rhan o’r garreg filltir. Mae cyfranogwyr llif gwaith yn gallu golygu gweithrediadau o fewn y garreg filltir ac ychwanegu sylwadau.

Os mai chi yw perchennog y llif gwaith, gallwch chi ddirymu gweithred er mwyn ei chwblhau neu nodi ei bod wedi methu. Er enghraifft, mae gweithred yng ngharreg filltir 1 wedi ei neilltuo i Huw ond mae’n sâl a does dim modd iddo ei chwblhau. Gallwch chi ddefnyddio Cymeradwyo Gweithred i symud y llif gwaith yn ei flaen i’r garreg filltir nesaf.

Mae tudalen Dyluniad y Model yn cynnwys y wybodaeth hon ynghyd â’r nodweddion canlynol:

  • Ehangu/Crebachu Carreg Filltir - Cliciwch ar y symbol plws/minws i ehangu neu gau’r manylion am y garreg filltir honno.
  • Eitemau Cynnwys - Gallwch chi weld pob eitem cynnwys sy’n gysylltiedig â charreg filltir trwy ddilyn y dolenni hyn.
  • Cymeradwyo Gweithred - Cliciwch ar y botwm hwn i gymeradwyo’r weithred hon a symud y llif gwaith yn ei flaen i’r garreg filltir nesaf.
  • Gweithred wedi Methu - Cliciwch ar y botwm hwn i nodi bod gweithred wedi methu.
  • Golygu Gweithred - Cliciwch ar y botwm hwn i ddangos tudalen Gweithred Llif Gwaith.
  • Sylwadau - Dewiswch yr opsiwn hwn i ychwanegu sylwadau at y weithred hon.
  • Ehangu'r Cwbl - Trwy glicio ar hwn, bydd testun pob sylw yn y maes yn ymddangos.
  • Cwympo'r Cwbl - Mae hyn yn cau’r testun ar gyfer pob sylw yn y maes isod.

Rhestr I’w Gwneud

Yn y Casgliad o Gynnwys, dewiswch Rhestr Tasgau yn newislen Cydweithio. Byddwch yn cyrraedd tudalen Gweithrediadau, sy’n trefnu ac yn arddangos pob un o’r gweithrediadau sy’n gysylltiedig â’r llifau gwaith yr ydych chi’n cymryd rhan ynddynt. Gallwch chi fynd i dudalen Llifoedd Gwaith ar y ‘Rhestr Tasgau’ hefyd trwy ddewis Llifoedd Gwaith yng nghornel uchaf y ffenestr.

Unwaith bod gweithred wedi ei chwblhau, caiff ei dileu’n awtomatig o dudalen Gweithrediadau. Gallwch chi fynd at y llif gwaith hwn (a’r weithred) ar dudalen Llifoedd Gwaith.

Mae tudalen Gweithrediadau yn cynnwys y wybodaeth hon a’r nodweddion hyn:

  • Dangos y Gweithrediadau - Gallwch chi ddefnyddio’r opsiynau arddangos i addasu’r rhestr o lifau gwaith a ddangosir
  • Enw'r Weithred - Mae hyn yn dangos enw’r weithred
  • Statws y Weithred - Mae hyn yn dangos statws y weithred
  • Terfyn Amser y Weithred - Mae hyn yn dangos dyddiad cau’r weithred
  • Enw'r Llif Gwaith - Mae hyn yn dangos enw’r llif gwaith sy’n gysylltiedig â’r weithred hon.
  • Cynnydd y Llif Gwaith - Mae hyn yn dangos y gwaith sydd wedi ei gwblhau yn y llif gwaith a’r gwaith sydd eto i gael i wneud.
  • Golygu - Ar ddewislen y weithred, dewiswch yr opsiwn hwn i weld tudalen Gweithrediadau Llif Gwaith.
  • Agor - Ar ddewislen y weithred, dewiswch yr opsiwn hwn i weld manylion am y llif gwaith.

Diweddaru’r weithred

I ddiweddaru gweithred, dewiswch Golyguar ddewislen y weithred ar dudalen Rhestr Tasgau. Gallwch chi wneud hyn trwy opsiwn Golygu'r Weithred Action hefyd ar dudalen Dyluniad y Model.

Mae tudalen Gweithrediadau Llif Gwaith yn rhestru’r holl fanylion a’r eitemau cynnwys sy’n gysylltiedig â gweithred llif gwaith benodol. Yn adran ‘Diweddaru'r Weithred’ ar y dudalen hon, gallwch chi newid statws y weithred ac ychwanegu sylwadau.

Gall unrhyw ddefnyddiwr sy’n rhan o lif gwaith ychwanegu sylwadau at weithred. Fodd bynnag, dim ond y defnyddiwr y mae’r weithred wedi ei neilltuo iddo sy’n gallu newid statws y weithred honno.

Mae tudalen Gweithrediadau Llif Gwaith yn cynnwys y nodweddion hyn:

  • Cyfarwyddiadau - Mae hyn yn dangos y cyfarwyddiadau ar gyfer gweithred.
  • Dyddiau Cau - Mae hyn yn dangos dyddiad cau’r weithred
  • Defnyddiwr - Mae hyn yn dangos enw’r defnyddiwr y mae’r weithred honno wedi ei neilltuo iddo.
  • Gofynnol - Mae hyn yn dangos a yw gweithred yn ofynnol ai peidio.
  • Eitemau Cynnwys - Mae hyn yn dangos y dolenni i unrhyw eitemau cynnwys sy’n gysylltiedig â’r weithred.
  • Statws - Dewiswch o’r rhestr o opsiynau i newid statws y weithred.
  • Pwnc - Teipiwch bwnc ar gyfer y diweddariad.
  • Sylw - Teipiwch sylw i ddisgrifio’r newid hwn mewn statws.
  • Hanes Statws - Mae hyn yn dangos hanes statws y weithred. Defnyddiwch Ehangu'r Cwbl a Cwympo'r Cwbl i ehangu neu i gau’r data hanesyddol.

Hysbysiadau llif gwaith

Os ydych chi am dderbyn hysbysiadau rheolaidd am lif gwaith, gallwch chi danysgrifio iddynt.

  1. Ar dudalen Llifoedd Gwaith, ticiwch y blwch wrth ymyl llif gwaith, wedyn dewiswch Tanysgrifio. Byddwch yn gweld tudalen Hysbysiadau Llifoedd Gwaith, ble mae modd ichi reoli’ch hysbysiadau.
  2. O danHysbysiadau, dewiswch un o’r opsiynau hyn.
    • Mae’n rhaid imi gwblhau gweithred: Gallwch chi dderbyn hysbysiadau ynghylch gweithrediadau a cherrig milltir y mae’n rhaid ichi eu cwblhau.
    • Os bydd unrhyw ddigwyddiad: Gallwch chi dderbyn pob hysbysiad am lif gwaith, gan gynnwys hysbysiadau am statws gweithrediadau a cherrig milltir.
    • Os caiff llif gwaith ei gwblhau neu os bydd yn methu: Gallwch chi dderbyn hysbysiadau dim ond pan fo llif gwaith yn cael ei gwblhau neu’n methu.
    • Byth: Gallwch chi ddewis peidio â derbyn unrhyw hysbysiadau am y llif gwaith dan sylw.
  3. Dewiswch Cyflwyno.

I ddewis peidio â derbyn unrhyw hysbysiadau o gwbl am lifau gwaith, ewch i Gosodiadau Personol ar ddewislen Offer. Ticiwch flwch Optio allan o Hysbysiadau Llifoedd Gwaith a chlicio ar Cyflwyno.