Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Ynghylch argaeledd cyrsiau

Mae'n rhaid i gwrs gael ei roi ar gael cyn y gall myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar y cwrs weld neu gyrchu'r cwrs a'i gynnwys. Fodd bynnag, efallai y byddwch eisiau gosod bod cwrs ddim ar gael yn ystod y broses adeiladu neu ar ôl i gwrs am gyfnod penodol ddod i ben.

Os nad yw cwrs ar gael, y rôl cwrs sy'n pennu'r mynediad. Gall gweinyddwyr, hyfforddwyr, adeiladwyr cwrs, cynorthwywyr dysgu a graddwyr Blackboard weld a chyrchu cyrsiau nad ydynt ar gael yn y tab Cyrsiau a'r rhestr cyrsiau, ond maent wedi'u marcio fel nad ydynt ar gael. Ni all myfyrwyr gael mynediad at gyrsiau nad ydynt ar gael beth bynnag yw hyd y cwrs. Nid yw cyrsiau nad ydynt ar gael yn ymddangos yn y catalog cyrsiau.

Gallwch reoli hyd cwrs o'r dudalen Gosodiadau Cwrs yn eich cwrs. Dewiswch Gosodiadau Cwrs yng nghornel dde uchaf eich cwrs. 

Rhagor am Osodiadau Cwrs


Gosod argaeledd cwrs

Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, dewiswch y ddolen Cyrsiau i gyrchu'ch rhestr o gyrsiau. Agorwch ddewislen cerdyn cwrs i newid argaeledd eich cwrs. Gallwch newid statws eich cwrs ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Gallwch wneud eich cwrs yn breifat wrth i chi ychwanegu neu arbrofi gyda chynnwys, ac wedyn ei agor i fyfyrwyr pan fyddwch yn barod. Mae myfyrwyr yn gweld cyrsiau preifat ar eu rhestrau cwrs ond ni allant eu cyrchu.

Ni allwch wneud cwrs yn breifat yn ystod tymor gweithredol. Os bydd defnyddiwr angen mynediad i gwrs preifat, cysylltwch â’ch gweinyddwr am osodiadau cwrs.

Marcio cwrs fel cyflawn

Gallwch ddewis gosod eich cwrs fel Cyflawn pan fydd y cwrs wedi dod i ben, ond ni allwch wneud newidiadau iddo mwyach. Gall myfyrwyr gyrchu’r cynnwys, ond ni allant gymryd rhan yn y cwrs mwyach. Er enghraifft, ni allant ymateb i drafodaethau neu gyflwyno aseiniadau. Mae'r opsiwn hwn ar gael dim ond ar gyfer y Wedd Cwrs Ultra.

Pan fydd cwrs yn gyflawn, gallwch newid y cwrs yn ôl i agored neu breifat. Ewch yn ôl i’ch cwrs ac ym mhanel Manylion a Gweithrediadau, dewiswch y ddolen Gall myfyrwyr weld y cynnwys, ond ni allant gymryd rhan. Gwnewch ddetholiad yn y ffenestr naid.

Os oes gan gwrs ddyddiad terfyn, ac mae'r dyddiad hwnnw wedi mynd heibio, ni all myfyrwyr gyrchu’r cwrs mwyach. Felly, os ydych yn cwblhau cwrs ac yn ei agor eto ar ôl y dyddiad gorffen, ni all myfyrwyr ei gyrchu.

Os ydych yn mynd yn ôl i’r dudalen Cyrsiau ac nid ydych yn gweld pob un o'r opsiynau mewn dewislen cwrs ar ôl y newidiad, adnewyddwch y dudalen Cyrsiau.

Os byddwch yn cwblhau cwrs, ni fyddwch yn gallu uwchlwytho ffeil i'r Llyfr Graddau bellach.