Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Cyrchu Gosodiadau Cwrs

Mae Gosodiadau Cwrs yn caniatáu i chi addasu eich cwrs i ddiwallu eich anghenion chi ac anghenion eich myfyrwyr. Mae Gosodiadau Cwrs yn ymddangos yng nghornel dde uchaf cwrs Ultra os oes gan y defnyddiwr freintiau i weld neu reoli gosodiadau.

The new Course Settings option appears at the top of the course when the user has appropriate privileges

Rheoli Hyd Cwrs

Mae Hyd Cwrs yn diffinio’r cyfnod y gall myfyrwyr ryngweithio â chwrs ynddo. Caniateir i fyfyrwyr gael mynediad at rai cyrsiau trwy'r amser. Mae gan gyrsiau eraill gyfyngiadau er mwyn i fyfyrwyr ddim ond cael mynediad atynt am gyfnod penodol yn unig. Mae hyn yn cael ei bennu gan osodiadau Hyd Cwrs
Yn ogystal â gweinyddwyr system, gallwch (neu unrhyw ddefnyddiwr sydd â'r breintiau cywir, fel cynorthwywyr dysgu), addasu gosodiadau hyd cwrs ar gyfer eich cyrsiau Ultra.
Dewiswch Gosodiadau Cwrs yng nghornel dde uchaf eich cwrs Ultra. Mae'r gosodiadau Hyd Cwrs yn ymddangos fel cwymplen sy'n cynnwys y gosodiadau hyn: 

  • Parhaus. Dim cyfyngiad ar fynediad.
  • Cyfyngu yn ôl dyddiadau. Nodi dyddiadau ac amseroedd dechrau neu orffen mynediad myfyrwyr neu'r ddau opsiwn.
  • Cyfyngu yn ôl nifer y diwrnodau o gofrestru. Dewiswch nifer y diwrnodau ar ôl cofrestru pan na fydd modd i fyfyriwr gael mynediad at gwrs mwyach.
  • Cyfyngu yn ôl dyddiadau dechrau a gorffen y tymor cysylltiedig. Mae'r opsiwn hwn yn ymddangos dim ond pan fydd tymor wedi'i ddiffinio ar gyfer y cwrs.

Ni all myfyrwyr gael mynediad at gyrsiau nad ydynt ar gael beth bynnag yw hyd y cwrs. Nid yw cyrsiau nad ydynt ar gael yn ymddangos yng y Catalog Cyrsiau.
Gallwch reoli argaeledd cwrs o'r dudalen Cyrsiau

Rhagor am Argaeledd Cyrsiau

Rheoli offer cwrs

Gallwch reoli gwahanol offer gan ddefnyddio Gosodiadau Cwrs. Mae ffurfweddiad offer sefydliadol/nod yn gosod a allwch alluogi neu analluogi offeryn.

Dewiswch Gosodiadau Cwrs yng nghornel dde uchaf eich cwrs Ultra. Gallwch reoli:

  • Offeryn Rhestr. Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr weld y rhestr trwy ddewis y botwm toglo. Gallwch hefyd reoli a all myfyrwyr gyrchu gwelededd y rhestr ar dudalen y Rhestr ei hun.

Ar gyfer gweinyddwyr: Mae'r nodwedd hon ar gael ar gyfer pob cwrs Ultra. Mae rhaid bod gan ddefnyddwyr freintiau Rôl System neu Rôl Cwrs priodol i reoli hyd cwrs ac offeryn y cwrs. Mae dim ond modd rheoli yr offeryn Rhestr mewn cwrs os yw'n cael ei ganiatáu gan y gosodiadau yn y Panel Gweinyddydd > Offer.

  • Braint i gael mynediad i'r panel Gosodiadau Cwrs: Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Priodweddau
  • Braint i addasu Hyd y Cwrs: Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Priodweddau, Hyd
  • Braint i weld adran offer cwrs: Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Priodweddau Argaeledd Offer