Tair lefel o becynnau iaith

Mae pecynnau iaith yn cyflwyno Blackboard Learn gan ddefnyddio iaith a normau cymdeithasol ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol. Diffinnir dewisiadau pecyn iaith ar lefel y system, lefel y cwrs neu sefydliad, ac yn olaf ar lefel y defnyddiwr.

Lefel y system

Mae'ch sefydliad yn diffinio un pecyn iaith fel pecyn diofyn y system. Dyma’r pecyn iaith sy’n ymddangos pan nad oes unrhyw becyn iaith arall yn cael ei bennu ar lefel y cwrs nac ar lefel y defnyddiwr.

Lefel y cwrs

Gall eich sefydliad osod pecyn iaith sy’n wahanol i’r un diofyn, fel bod pob defnyddiwr ar gwrs yn gweld yr un iaith. Os ydych chi’n dysgu dosbarth Sbaeneg er enghraifft, efallai y byddwch chi am ddewis Sbaeneg fel yr iaith a ddangosir ar lefel y cwrs.

Lefel y defnyddiwr

Caiff unigolion ddewis becyn iaith, oni bai bod pecyn iaith wedi ei ddewis drostynt eisoes.

Ni chaiff enwau personoledig ar feysydd cynnwys ac adnoddau eu newid wrth osod pecyn iaith newydd. Mae'r gwerthoedd hyn yn aros yr un peth ar gyfer pob pecyn iaith. Caiff yr enwau diofyn yn y system eu cyfieithu ac maen nhw'n ymddangos yn wahanol ym mhob pecyn iaith.


Dewiswch becyn iaith

Ar hyn o bryd, all hyfforddwyr ddim newid pecynnau iaith ar lefel y cwrs yn fersiwn Ultra. Gall gweinyddwyr osod yr ieithoedd ar gyfer y cwrs, a gall defnyddwyr ddewis pa iaith hoffent ei defnyddio.

I newid yr iaith ar lefel y defnyddiwr:

  1. Dewiswch Iaith ar eich proffil.
  2. Dewiswch becyn iaith o'r ddewislen.
  3. Dewiswch Cyflwyno.