Hunan-Gofrestru

Os yw hunan-gofrestru wedi'i alluogi gan weinyddwr eich system, gallwch ganiatáu i fyfyrwyr hunan-gofrestru yn eich cwrs.

  1. O'ch porwr, copïwch unrhyw URL o'r tu mewn i'ch cwrs. 
  2. Anfonwch yr URL fel dolen o fewn Learn i ddefnyddwyr rydych eisiau iddynt gofrestru ar y cwrs.

Mae derbynyddion y ddolen yn dewis y ddolen, sy'n eu harwain at y dudalen hunan-gofrestru. O'r fan honno, gall myfyrwyr ymuno â'r cwrs trwy ddewis Cyflwyno. Os anfonir y ddolen y tu allan i Learn, bydd angen i'r derbynnydd fewngofnodi i Learn. 

Os oes angen cod mynediad gan weinyddwr y system, anfonwch y cod hwn gyda'ch dolen URL. Mae angen i fyfyriwr roi'r cod mynediad cyn dewis Cyflwyno.

Bydd yn rhaid i weinyddwyr ddewis yr opsiwn hunan-gofrestru ar gyfer cyrsiau cyn i hyfforddwyr rannu URL y cwrs. Gall gweinyddwyr hefyd ddewis yr opsiwn "angen cod mynediad i gofrestru".


Rheoli a chofrestru defnyddwyr

Ar y dudalen Rhestr, ewch i ddewislen person. Dewiswch Golygu gwybodaeth aelod i agor y panel Gwybodaeth Aelod. Gallwch newid rôl unrhyw un, gwrthod mynediad i’ch cwrs neu dynnu unigolyn o’ch cwrs. Eich sefydliad sy’n rheoli’r hyn y gallwch ei wneud.

Yn y panel, gallwch hefyd ddiweddaru eich gwybodaeth bersonol. Caiff eich newidiadau eu hadlewyrchu yn eich proffil a thrwy’r holl system. Gall myfyrwyr olygu eu gwybodaeth yn yr un modd.

Newid rolau. Pan fyddwch yn newid rôl unigolyn, caiff yr unigolyn ei adleoli yn y rhestr os rydych yn y wedd Graddau. Mae rolau yn ymddangos yn y drefn hon: hyfforddwyr, cynorthwywyr addysgu, graddwyr, adeiladyddion cwrs a myfyrwyr. Yn y wedd Eitemau Graddadwy, bydd pob aelod yn ymddangos yn nhrefn yr wyddor.

Gwrthod mynediad. Cliriwch y tic Caniatáu mynediad i’r cwrs i wrthod mynediad i’r cwrs ond cadw cofnod a gweithgarwch yr unigolyn ar y cwrs. Mae’r rhestr yn dangos statws yr unigolyn gyda llun proffil llwyd gyda chroeslinell. Nid yw’r unigolyn yn gweld eich cwrs ar y dudalen Cyrsiau bellach.

Mae gweinyddwyr yn gwrthod argaeledd defnyddwyr ar lefel y system, sy’n wahanol i ban fyddwch yn gwrthod mynediad defnyddiwr i’ch cwrs o’r gofrestr. Ni all defnyddwyr nad ydynt ar gael ar lefel y system fewngofnodi ar y system.

Tynnu pobl. Dewiswch Tynnu Aelod i dynnu unigolyn o’ch cwrs. Mae’r weithred hon hefyd yn dileu’r holl data a’r graddau sy’n gysylltiedig â’r unigolyn. Byddwch yn derbyn ffenestr naid i gadarnhau. I gadw’r data, gallwch ganslo a gwrthod mynediad i’ch cwrs i’r unigolyn yn lle.

Dim ond Gweinyddwr System sy'n gallu tynnu Hyfforddwr neu rôl cwrs bersonol sydd wedi'i gosod i weithredu fel Hyfforddwr.

Cofrestru pobl

Os yw eich sefydliad yn caniatáu i chi ei wneud, gallwch gofrestru pobl ar eich cwrs. Dewiswch fotwm yr arwydd plws ar frig y rhestr i agor y panel Cofrestru Pobl.

  1. Yn y blwch chwilio, rhowch enw, enw defnyddiwr, neu o leiaf ddwy lythyren i ddatgelu rhestr o gyfatebiadau. Nid yw pobl sydd eisoes wedi cofrestru ar eich cwrs yn ymddangos yn y canlyniadau chwilio.
  2. Dewiswch un unigolyn neu fwy. Maent yn ymddangos ar unwaith ar restr y gofrestr. I ddadwneud dewisiad, dewiswch enw’r unigolyn eto.
  3. Dewiswch rôl am bob unigolyn a ddewiswyd.
  4. Dewiswch Cadw. Mae’r panel yn cau. Ar waelod y rhestr, mae neges yn ymddangos gydag enwau’r bobl yr ychwanegoch.

Ni ellir cofrestru defnyddwyr nad ydynt ar gael ar lefel y system ar gyrsiau ac nid ydynt yn dangos mewn canlyniadau chwilio.


Cymwysiadau

Gallwch osod cymwysiadau ar gyfer myfyrwyr a’u heithrio rhag gofynion cwrs penodol, megis dyddiadau cyflwyno ar gyfer cyflwyno aseiniadau neu derfynau amser. Defnyddiwch gymwysiadau i helpu myfyrwyr i symud ymlaen ar y cwrs er y bydd ganddynt anawsterau gyda rhai o’r gofynion.

Ar y dudalen Rhestr, agorwch ddewislen myfyriwr a dewiswch Cymwysiadau.

Accomodations option in the menu for a student on Roster page

Yn y panel, dewiswch y cymwysiadau ar gyfer y myfyriwr hwn:

Cymhwysiad Dyddiad Cyflwyno: Ni fydd gwaith myfyrwyr â’r cymhwysiad hwn byth yn cael ei nodi’n hwyr.

Cymhwysiad terfyn amser: Mae gan fyfyrwyr sydd â chymhwysiad terfyn amser fwy o amser i orffen eu gwaith yn ystod asesiadau a amserir. Ar ôl i chi ddewis y cymhwysiad hwn, dewiswch faint o amser ychwanegol:

  • + 50% o amser ychwanegol
  • + 100% o amser ychwanegol
  • Amser diderfyn

Nid yw myfyriwr â'r cymhwysiad Amser diderfyn byth yn gweld y terfyn amser ar gyfer yr asesiad, sy'n leihau'r pwysau neu'r gofid sy'n dod â gwaith cwrs.