Ynglŷn â rhagolwg myfyriwr
Rydych am deimlo'n hyderus bod eich cwrs wedi'i gynllunio'n dda ac yn gweithredu fel y disgwyliwch - cyn i'ch myfyrwyr ei weld. Gyda rhagolwg myfyriwr, gallwch adolygu cynnwys y cwrs o safbwynt myfyriwr. Gallwch hefyd ddilysu ymddygiadau cwrs. Er enghraifft, gallwch adolygu'r rhyddhad amodol o gynnwys a sut mae graddau yn ymddangos.
Tra’ch bod yn y rhagolwg myfyriwr, gallwch wneud y gweithgareddau myfyriwr hyn:
- Cyflwyno aseiniadau
- Sefyll profion
- Lawrlwytho ac uwchlwthyo ffeiliau
- Cyfrannu at sgyrsiau
- Cyfrannu at drafodaethau a dyddlyfrau
- Anfon negeseuon cwrs
- Gweld graddau fel myfyriwr
- Profi aelodaeth grŵp
Ni allwch ddefnyddio'r rhagolwg myfyriwr neu wneud newidiadau eraill mewn cwrs a gwblhawyd.
Dechrau'r rhagolwg myfyriwr
I ddechrau arni, dewiswch y modd Rhagolwg Myfyrwyr.
Mae rhagolwg myfyriwr yn creu cyfrif myfyriwr, a enwir yn gyfrif defnyddiwr y rhagolwg. Rydych wedi'ch mewngofnodi fel y defnyddiwr rhagolwg ac wedi cofrestru yn y cwrs presennol. Bydd bar y rhagolwg myfyriwr yn ymddangos ar frig pob tudalen.
Gadael y Rhagolwg
Gallwch ddychwelyd i'r wedd hyfforddwr ar unrhyw adeg. Er enghraifft, efallai byddwch yn dod o hyd i gynnwys i’w ddiweddaru. Pan fyddwch yn gadael y rhagolwg myfyrwyr gallwch ddewis a ydych eisiau cadw neu ddileu myfyriwr y rhagolwg a'r data.
Mae'r opsiwn dileu yn tynnu defnyddiwr y rhagolwg a'r data o'r ardaloedd hyn:
- rhestr
- llyfr graddau
- hidlydd llyfr graddau
- negeseuon
- derbynnydd negeseuon
- trafodaethau
- dyddlyfrau
- sgyrsiau
Eich defnyddiwr rhagolwg
Ar ôl i chi alluogi’r rhagolwg myfyriwr, bydd eich defnyddiwr rhagolwg yn ymddangos yn y gofrestr. Mae'ch defnyddiwr rhagolwg yn weladwy i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar y cwrs. Gall unrhyw andabod eich defnyddiwr rhagolwg yn ôl yr enw. Y cyfenw yw'ch cyfenw gyda _PreviewUser wedi’i atodi ar y diwedd. Yr enw defnyddiwr yw’ch enw defnyddiwr gyda _previewuser wedi’i atodi ar y diwedd.
Os ydych yn addysgu cwrs gyda hyfforddwr arall, bydd gan bob un ohonoch gyfrif defnyddiwr rhagolwg. Bydd eich defnyddiwr rhagolwg yn parhau yn y cwrs nes i chi dynnu'r defnyddiwr o'r gofrestr.
Fel defnyddiwr rhagolwg, cipir eich holl weithgarwch gan Blackboard Learn. Ni chynhwysir gweithgarwch eich defnyddiwr rhagolwg yn adroddiadau dadansoddiadau a chyrsiau. Mae myfyrwyr eraill yn gallu rhyngweithio â'ch defnyddiwr rhagolwg.
Efallai y byddwch yn drysu’ch myfyriwr os ydych yn ychwanegu defnyddiwr rhagolwg at grŵp sy’n eu cynnwys. Os ydych yn ychwanegu'r defnyddiwr rhagolwg, argymhellwn nad ydych yn cyflwyno aseiniad grŵp fel y defnyddiwr rhagolwg. Ar ôl i chi ailosod y rhagolwg, efallai na fydd modd i chi gyrchu cyflwyniad y grŵp oherwydd tynnir y defnyddiwr rhagolwg o'r grŵp. Os ydych yn creu grwpiau hunangofrestru, cofrestrir eich defnyddiwr y rhagolwg yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod cofrestru dewisol.
Enghraifft: Trafodaethau
Mae’ch defnyddiwr rhagolwg yn ymddangos yn yr ardal bwnc ac yn y rhestr Cyfranogwyr. Os ydych yn creu ymateb, gall myfyriwr arall ei ymateb.
Os ydych yn ailosod y rhagolwg, bydd gweithgarwch trafodaethau'r defnyddiwr rhagolwg yn parhau, ond bydd Dienw yn ymddangos fel enw'r defnyddiwr rhagolwg. Gallwch ddileu unrhyw atebion ac ymatebion at drafodaethau.
Gadael y rhagolwg a thynnu'ch defnyddiwr rhagolwg
Os na ddewisoch ddileu defnyddiwr y rhagolwg myfyrwyr a'r data pan adawoch, gallwch dynnu defnyddiwr y rhagolwg yn nes ymlaen.
Rydym yn argymell eich bod yn tynnu defnyddiwr y rhagolwg o'r gofrestr. Ar ôl ei dynnu, bydd tipyn o’i weithgarwch cwrs yn parhau. Newidir enw'ch defnyddiwr rhagolwg ym mhostiadau trafodaethau a sgyrsiau i Dienw. Mae negeseuon eich defnyddiwr rhagolwg yn parhau yn cwrs. Gallwch ddileu'r holl weithgarwch hwn.
Os ydych yn cadw’r defnyddiwr rhagolwg a’i weithgarwch, bydd eich defnyddiwr rhagolwg yn ymddangos yn y gofrestr, y llyfr graddau ac unrhyw le rhyngweithioch fel y defnyddiwr hwnnw.
Neges Atgoffa: Gall eich myfyriwr rhagolwg ddrysu myfyrwyr sy’n gweld y myfyriwr hwn yn ardaloedd cwrs megis trafodaethau neu sgyrsiau.
Tynnu'r defnyddiwr o'r gofrestr
Ar y dudalen Cofrestr, ewch i ddewislen y defnyddiwr rhagolwg. Dewiswch Golygu gwybodaeth aelod i agor y panel Gwybodaeth Aelod.
Dewiswch yr eicon Tynnu Aelod i dynnu’ch defnyddiwr rhagolwg o’ch cwrs. Eich sefydliad sy’n rheoli a allwch dynnu aelodau.
Ar ôl tynnu’r defnyddiwr rhagolwg, gallwch ddechrau'r rhagolwg myfyriwr eto. Crëir achos newydd o'r defnyddiwr rhagolwg.
Archifo ac adfer cyrsiau sydd â defnyddiwr rhagolwg
Os ydych yn archifo cwrs sydd â defnyddiwr rhagolwg a’i weithgarwch, ni fydd y cwrs a adferwyd yn cynnwys y defnyddiwr rhagolwg neu ei raddau nac ymgeisiau. Bydd trafodaethau, negeseuon a sgyrsiau'r defnyddiwr rhagolwg yn parhau. Os ydych yn cynnwys y defnyddiwr rhagolwg mewn grwpiau, tynnir ei aelodaeth, ond bydd sgyrsiau’r defnyddiwr rhagolwg yn parhau.