Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Beth yw baneri cwrs a sut maent yn gweithio?

Fel hyfforddwr, gallwch chi a defnyddwyr gweinyddol uwchlwytho delwedd i'w defnyddio fel mân-lun ar y dudalen Cyrsiau yn y Llywio Sylfaenol. Hefyd, gellir ei defnyddio fel y Faner Cwrs fewnol o fewn eich cyrsiau Ultra.

Gyda baneri cwrs, rydych yn:

  • Gwella golwg tudalennau glanio'r Wedd Cwrs Ultra.
  • Gwella ymgysylltiad a phrofiad myfyrwyr.
  • Cael cysondeb rhwng yr hyn mae'r Llywio Sylfaenol yn ei ddangos a'r cwrs ei hun.
  • Helpu eich myfyrwyr i wahaniaethu rhwng cyrsiau a dod o hyd i fanylion cyrsiau.
  • Ei gwneud yn haws i chi ychwanegu amserlen cwrs, ac i'ch myfyrwyr adnabod aelodau staff addysgu cwrs a diwrnodau, amseroedd a lleoliadau cyfarfodydd y dosbarth.

Gosod baner ar gyfer eich cwrs

  1. Dewiswch ddelwedd sy'n ddeniadol ac ystyrlon ar gyfer eich cwrs. Y maint isaf a argymhellir ar gyfer y delwedd y faner yw: 1200 x 240 picsel. Gweler y Meintiau a argymhellir isod
  2. Yn eich cwrs, ewch i Delwedd y Cwrs yn y ddewislen ar yr ochr chwith.
    Select course image from the main menu to create or edit a course banner
  3. Fel arall, gallwch agor panel Delwedd y Cwrs drwy ddewis y ddewislen tri dot yng nghornel de uchaf eich cwrs. Dewiswch Golygu Delwedd y Cwrs a pharhau: 
    Open the Course Image panel from your course three dot menu at the top right corner
  4. Uwchlwythwch y ddelwedd newydd.
    Upload a new image for a course banner
  5. Rhowch y ddelwedd yn y safle o'ch dewis gan ddefnyddio botymau'r llygoden neu'r bysellau saethau. Gallwch hefyd bellhau a nesáu gan ddefnyddio'r llithrydd ar waelod y ffenestr foddol. Bydd y swyddogaeth hon yn gweithio hyd yn oed os byddwch yn penderfynu nad ydych eisiau cynnwys baner yn eich cwrs Ultra.
    Reposition an image to create a new course banner and make it look its best
  6. Dewiswch y botwm Wedi Gorffen pan fyddwch yn barod.
  7. Bydd y ddelwedd yn llwytho ymhen ychydig eiliadau, gan ddibynnu ar eich cysylltiad â'r rhyngrwyd.
  8. Trowch y togl yn y cornel de uchaf ymlaen i ddangos y ddelwedd yn eich cwrs fel baner.
    Select all final settings for the image to become a course banner and save it
  9. Gallwch ddefnyddio'r blwch ticio i farcio eich delwedd fel addurniadol neu ddarparu disgrifiad o'r ddelwedd ar gyfer darllenyddion sgrin. Gweler eu pwysigrwydd yn yr adran isod.
  10. Dewiswch y botwm Cadw pan fyddwch yn barod.
  11. Gallwch olygu eich delwedd unrhyw bryd, gan ddefnyddio'r eicon pensil (Golygu) yng nghornel de uchaf y faner. Gallwch hefyd ddewis Golygu'r gosodiadau dangos dan Delwedd y Cwrs ym mhrif wedd y cwrs.
    A course banner displaying within a course's main page
  12. Defnyddir y ddelwedd yng ngherdyn eich cwrs.
    A course card with an image that doubles for course banner as well

Gallwch ddefnyddio delwedd y cerdyn cwrs o'r Llywio Sylfaenol fel baner cwrs yng nghyrsiau Ultra.


Meintiau a argymhellir*

  • Y maint isaf a argymhellir ar gyfer y delwedd y faner yw: 1200 x 240 picsel.
  • Nid yw delweddau â thestun yn cynyddu nac yn lleihau'n dda.
  • Ar gyfer baneri, mae'r lled gweladwy a argymhellir yn amrywio o 950 i 1200 o bicseli. Mae'r uchder gweladwy a argymhellir yn amrywio o 150 i 240 o bicseli.
  • Ar gyfer cardiau cyrsiau, mae'r uchder gweladwy a argymhellir yn 240 o bicseli bob amser. Mae'r lled gweladwy yn amrywio o 550 i 1100 o bicseli.
  • Cadwch y prif gynnwys yn y canol, ar 550 x 150 o bicseli o faner 1200 x 240 o bisceli, i sicrhau gweladwyedd. Efallai caiff unrhyw beth y tu allan i'r ardal 550 x 150 o bicseli ganolog ei docio ar wahanol feintiau sgrin ar gyfer cerdyn y cwrs neu'r faner.
  • Byddai delwedd haniaethol neu ddelwedd gyda ffocws yn y canol yn gweithio'n orau fel baner, oherwydd amrywioldeb tocio.

*A ddarparwyd yn garedig gan Stephanie Richter, aelod o'n Cymuned Blackboard.

Disgrifiad o'r ddelwedd a delweddau addurniadol

Mae elfennau gweledol cyrsiau yn ddefnyddiol at ddibenion esthetig ac adnabod. Gan ystyried eu pwysigrwydd, mae'n hanfodol sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag arferion gorau a safonau hygyrchedd. Drwy wneud hyn, gallwch ymgysylltu â phob un o'ch myfyrwyr a sicrhau profiad dysgu teg i bawb.

  • Gallwch gynnwys disgrifiad delwedd wrth uwchlwytho delwedd baner yn y cwrs, neu wrth olygu delweddau baner cwrs sydd eisoes yn bodoli.
  • Marciwch ddelweddau fel addurniadol, pan nid yw'r delweddau'n brif gynnwys ac nid oes angen i chi ychwanegu disgrifiad ar gyfer darllenyddion sgrin, i gael rhagor o reolaeth dros eich cwrs.