Wrth i chi drefnu ffolderi a ffeiliau, cofiwch fod caniatâd yn cael ei etifeddu yn seiliedig ar leoliad.

Pan fyddwch yn ychwanegu ffolderi a ffeiliau at y Casgliad o Gynnwys, cofiwch pa ddefnyddwyr a rhestrau defnyddwyr y rhennir y cynnwys â nhw.

Efallai y bydd trefnu ffolderi mewn modd sy'n caniatáu i chi reoli caniatâd yn ôl ffolder, yn hytrach nag yn ôl ffeil yn help i chi. Efallai bydd yn anodd i chi reoli eitemau a rennir â'r un defnyddwyr, ond wedi'u lledaenu ar draws gwahanol ffolderi. Er enghraifft, crëwch ffolder sy'n cynnwys pob ffeil a ddefnyddir mewn prosiect grŵp. Fel hyn, gellir rhannu'r holl ffolder ag aelodau'r grŵp, ac ni fydd rhaid i chi reoli caniatâd ar eitemau unigol a gedwir mewn gwahanol ffolderi.

Rhagor am drefnu cynnwys mewn ffolderi

Mae ffeiliau ar gael yn awtomatig i'r defnyddiwr a ychwanegodd y ffeil ond mae rhaid i chi ei rhannu os ydych eisiau i ddefnyddwyr eraill weld y ffeil.

Mae ffeiliau yn etifeddu caniatâd o'r ffolder maent ynddi. Os yw ffeil yn cael ei ychwanegu i ffolder sydd eisiau â chaniatâd darllen ac ysgrifennu ar gyfer defnyddwyr penodol neu restri o ddefnyddwyr, yna bydd gan yr un defnyddwyr ganiatâd darllen ac ysgrifennu ar gyfer y ffeil sydd newydd gael ei hychwanegu hefyd.

Rhagor am sut i rannu ffeiliau a dod o hyd i gynnwys yn y Casgliad o Gynnwys

Caiff caniatadau ffolderi eu hetifeddu'n ddiofyn. Pan fyddwch yn diweddaru caniatâd defnyddwyr ar gyfer ffolder, defnyddir y caniatâd hwnnw hefyd yn awtomatig ar gyfer pob eitem (ffolder a ffeil) sydd yn y ffolder honno. Efallai y byddwch am gadarnhau nad oes gan ddefnyddwyr fynediad heb awdurdod i ffolderi penodol os ydych yn gwneud newidiadau i ganiatâd ffolder lefel uchaf.


Caniatadau

Mae caniatâd yn disgrifio gallu defnyddiwr neu grŵp i ryngweithio gyda ffeil neu ffolder yn y Casgliad o Gynnwys.

  • Mae Darllen yn golygu bod defnyddiwr yn gallu gweld, agor a lawrlwytho'r eitem yn unig.
  • Mae Ysgrifennu yn golygu bod gan ddefnyddiwr ganiatâd darllen a’i fod hefyd yn gallu golygu neu drosysgrifo'r eitem, gan gynnwys enw a gosodiadau'r ffeil. Os oes gan y defnyddiwr ganiatâd ysgrifennu ar gyfer ffolder, gall y defnyddiwr hefyd greu eitemau newydd (ffolderi a ffeiliau) o fewn y ffolder.
  • Mae Tynnu yn golygu bod gan ddefnyddiwr ganiatâd darllen ac ysgrifennu, a'i fod hefyd yn gallu dileu'r eitem.
  • Mae Rheoli yn golygu bod gan ddefnyddiwr reolaeth lawn o'r eitem a'i fod yn gallu rhoi caniatâd i ddefnyddwyr eraill.

Rhoi caniatâd i ddefnyddwyr unigol

Yn y Casgliad o Gynnwys, llywiwch i'r ffolder neu'r ffeil rydych am neilltuo caniatâd iddi.

  1. Yn rhes y ffeil neu ffolder, dewiswch yr eicon yng ngholofn Caniatâd.
  2. Ar dudalen Rheoli Caniatâd, dewiswch Dewis Defnyddwyr Penodol.
  3. Ar y dudalen Ychwanegu Defnyddiwr, teipiwch un enw defnyddiwr neu ragor, wedi'u gwahanu â choma, neu dewiswch Pori.
  4. I bori, teipiwch feini prawf chwilio yn y blwch Chwilio Am a dewiswch Chwilio.
  5. Dewiswch y blychau ticio nesaf at y defnyddwyr priodol a dewiswch Cyflwyno.
  6. Ar dudalen Ychwanegu Defnyddiwr, dewiswch y blychau ticio ar gyfer y caniatâd priodol.
  7. Dewiswch Cyflwyno.

Rhoi caniatâd i grwpiau

Er mwyn arbed amser, gallwch roi caniatâd i grwpiau o ddefnyddwyr:

  • Pob aelod o gwrs rydych yn ei addysgu
  • Pob defnyddiwr â rolau penodol mewn cwrs rydych yn ei addysgu, megis bob cynorthwyydd addysgu
  • Pob defnyddiwr a neilltuir i grwpiau penodol mewn cwrs rydych yn ei addysgu

Er gallwch ychwanegu caniatâd ar gyfer myfyrwyr, efallai byddwch yn caniatáu yn anfwriadol i fyfyrwyr gael mynediad at ffeiliau nad ydych eisiau iddynt eu gweld eto. Er enghraifft, yn eich cwrs, efallai byddwch yn “cuddio” ffeil rhag gwedd y myfyrwyr neu ddefnyddio rheol rhyddhau addasol/argaeledd amodol. Os ydych yn rhoi caniatâd i fyfyrwyr gael mynediad at y ffolder sy’n cynnwys y ffeil o'r Casgliad o Gynnwys, efallai byddant yn gallu gweld y ffeil yn gynharach na bwriadoch. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r pwnc Cwestiynau Cyffredin.

Pan fyddwch yn gosod caniatâd ar gyfer grŵp, mae'r opsiynau'n amrywio yn ôl y grŵp a ddewisir.

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, llywiwch i'r ffolder neu'r ffeil rydych am neilltuo caniatâd iddi.
  2. Yn rhes y ffeil neu ffolder, dewiswch yr eicon yng ngholofn Caniatâd.
  3. Ar y dudalen Rheoli Caniatâd, dewiswch Dewis Defnyddwyr Penodol yn ôl Lle.
  4. O’r rhestr, dewiswch grŵp.
  5. Ar y dudalen Ychwanegu Rhestr Defnyddwyr Cwrs, yn yr adran Dewis Cyrsiau, dewiswch y blychau ticio nesaf at y cyrsiau priodol.
  6. Yn yr adran Dewis Rolau—ar gael ar gyfer rhai grwpiau defnyddwyr yn unig—dewiswch y blwch ticio nesaf at y defnyddwyr priodol. Neu, lleihewch eich dewis yn ôl rôl.
  7. Yn yr adran Gosod Caniatâd, dewiswch y blychau ticio ar gyfer y caniatâd priodol.
  8. Dewiswch Cyflwyno.

Golygu caniatâd

Yn y Casgliad o Gynnwys, llywiwch i'r ffolder neu ffeil.

  1. Dewiswch eicon Caniatâd ar gyfer y ffeil neu ffolder.
  2. Ar dudalen Rheoli Caniatâd, nesaf at y rôl yng ngholofn Defnyddwyr/Rhestr Defnyddwyr, agorwch ddewislen yr eitem.
  3. Dewiswch Golygu.

    Mae dileu yn tynnu'r rôl a'r caniatâd ar gyfer y ffeil neu ffolder honno. Dewiswch swyddogaeth i adfer rôl a ddilëwyd.

  4. Ar dudalen Golygu Caniatâd, dewiswch neu gliriwch y blwch ticio nesaf at fath y Caniatâd. Ar gyfer ffolderi, dewiswch flwch ticio Disodli er mwyn gwneud y newidiadau caniatâd hyn ar gyfer holl gynnwys y ffolder a'r holl is-ffolderi ac i ddisodli'r holl ganiatâd cyfredol. Lle nad ydych yn dewis Disodli, caiff y caniatâd a ddewisir ei ychwanegu at holl gynnwys y ffolder a'r is-ffolderi, ond ni fydd caniatâd cyfredol yn cael ei dynnu.
  5. Dewiswch Cyflwyno.
  6. Dewiswch Iawn i ddychwelyd i'r Casgliad o Gynnwys.

Opsiwn i drosysgrifo caniatâd ffolder

Pan fyddwch yn golygu neu ychwanegu caniatâd i riant ffolder, bydd gennych yr opsiwn Trosysgrifo, sy'n gorfodi'r holl ffeiliau ac is-ffolderi i etifeddu'r caniatâd hwn. Er enghraifft, os ychwanegir caniatâd darllen ac ysgrifennu at y ffolder a'ch bod yn dewis Trosysgrifo, ailosodir yr holl ganiatâd ar eitemau yn y ffolder honno i ddarllen ac ysgrifennu. Byddai unrhyw eitem o fewn y ffolder sydd â chaniatadau eraill, fel dileu, yn dychwelyd i ganiatadau darllen ac ysgrifennu'n unig.

Os nad ydych yn dewis yr opsiwn Disodli, bydd y ffeiliau ac is-ffolderi'n derbyn unrhyw ganiatâd ychwanegol a roddwyd i'r rhiant ffolder yn awtomatig, ond ni chaiff y caniatâd cyfredol ei dileu. Er enghraifft, os ychwanegir caniatâd darllen, ysgrifennu a rheoli at y ffolder, ac mae eisoes eitem yn y ffolder â chaniatâd darllen, ysgrifennu a thynnu, byddai'r caniatâd darllen, ysgrifennu a thynnu ar gyfer y ffeil yn parhau, ac ychwanegir y caniatâd rheoli.

Ar ôl i chi olygu caniatâd ar ffolder, gallwch olygu'r caniatâd ar eitem, ond trosysgrifir y caniatâd hwn y tro nesaf y golygir caniatâd ar y rhiant ffolder. Rydym yn argymell cadw eitemau â'r un pwrpas a chynulleidfa mewn ffolder unigol. Wedyn, gallwch reoli caniatâd yn hawdd.