Cwestiynau Cyffredin am Ganiatâd
Mae’r cynnwys hwn ar gyfer myfyrwyr a hyfforddwyr.
Pam nad yw'n gallu gweld ffeil neu ffolder?
Mae'n debygol nad oes gennych ganiatâd darllen ar gyfer yr eitem. Cysylltwch â pherchennog yr eitem i ofyn a oes gennych y caniatâd cywir.
Efallai na fyddwch yn gallu gweld ffeil neu ffolder oherwydd rheolau eraill y system. Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod i weld a oes unrhyw un yn berthnasol i chi.
Rwyf wedi cofrestru ar gwrs. Pam nad ydw i'n gweld y ffolder cwrs yn y Casgliad o Gynnwys?
Nid yw ffolderi cyrsiau yn cael eu creu yn y Casgliad o Gynnwys nes i'r hyfforddwr, cynorthwyydd dysgu neu adeiladwr cwrs gyrchu'r Casgliad o Gynnwys. Mae rhaid i un o'r defnyddwyr hyn hefyd roi caniatâd darllen i chi weld y ffolder cwrs yn y Casgliad o Gynnwys.
Ar ôl i un o'r defnyddwyr hyn gael mynediad at y Casgliad o Gynnwys, bydd ffolder cwrs hefyd yn cael ei greu yn yr eGronfeydd. Mae gan bob defnyddiwr sydd wedi cofrestru ar gwrs ganiatâd darllen ar gyfer y ffolder cwrs cyfatebol yn yr eGronfeydd.
Ble mae ffolder fy mudiad yn yr eGronfeydd?
Nid oes gan sefydliadau ffolderi yn yr eGronfeydd. Ffolderi cwrs yn unig sy'n ymddangos yn yr eGronfeydd.
Mae fy nghyd-ddisgybl wedi rhannu portffolio â mi, ond pan rydw i'n dewis dolen, nid yw'n gweithio. Beth yw'r broblem?
Nid oes gennych ganiatâd darllen bellach ar gyfer yr holl eitemau a gysylltir yn y portffolio.
Pan grëwyd a rhannwyd y portffolio yn wreiddiol, ychwanegwyd y defnyddwyr y rhannwyd y rhestr â nhw at restr defnyddwyr y portffolio a roddwyd caniatâd darllen iddynt ar gyfer yr holl eitemau cysylltiedig yn y portffolio. Ers hynny, mae caniatâd darllen wedi cael ei dynnu ar gyfer un neu ragor o'r eitemau hyn. Pan fyddwch yn cael mynediad at eitemau trwy'r portffolio, ni fyddwch yn gallu eu gweld. Er mwyn i chi allu gweld yr eitemau, rhaid i ddefnyddwyr gyda chaniatâd darllen a rheoli ychwanegu caniatâd darllen ar gyfer rhestr defnyddwyr y portffolio at bob eitem ble mae'r caniatâd hwn wedi cael ei dynnu.
Pam nad ydw i'n gallu gweld yr holl gynnwys mewn ffolder?
Mae gennych ganiatâd darllen ar gyfer y ffolder, ond nid ar gyfer ei chynnwys. Cysylltwch â defnyddiwr â chaniatâd darllen a rheoli ar gyfer y ffolder i ofyn am ganiatâd darllen i chi ar gyfer cynnwys y ffolder.
Mae gennyf ganiatâd rheoli ar gyfer ffolder. Pam nad ydw i'n gallu copïo'r ffolder yma i ffolder newydd?
I gopïo ffolder i leoliad newydd, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifennu ar y ffolder derbyn.
Pam nad ydw i'n gallu cysylltu eitem â phortffolio?
Rhaid i chi gael caniatâd rheoli i gysylltu'r ffeil neu ffolder â phortffolio.
Nid oes angen i chi gael y caniatâd rheoli ar gyfer eitem rydych eisiau eu hychwanegu ar y ffolder /sefydliad gan fod gan Bob Cyfrif System ganiatâd darllen ar /sefydliad. Mae'r system yn cymryd, os oes gan Bob Cyfrif System ganiatâd darllen, bod unrhyw un yn gallu cysylltu ag ef.
Pam nad oes gan fyfyrwyr ganiatâd darllen ar ffolderi hafan cwrs?
Mae dolenni ffeiliau yn y cwrs yn cynnwys llinyn wedi’i fewnblannu. Mae’r system yn defnyddio'r llinyn i wirio a oes gan y defnyddiwr sydd eisiau cael mynediad at y ffeil ganiatâd i’w gweld.
Ni all myfyrwyr gael mynediad at ffeiliau cynnwys cwrs nac osgoi rheolau rhyddhau addasol nac argaeledd â WebDAV na “chamddefnyddio URL.” Os rhoddir caniatâd darllen uniongyrchol at ffolder hafan cynnwys cwrs neu ffeil cynnwys cwrs i fyfyrwyr, efallai byddant yn gweld cynnwys sy'n gallu peryglu cyfanrwydd asesiadau a deunyddiau eraill.
Oherwydd hyn, nid argymhellwn roi caniatâd darllen uniongyrchol at ffolderi hafan cwrs i fyfyrwyr. Os ychwanegir myfyrwyr at rôl sefydliad sydd â chaniatâd darllen, gallant gael mynediad at ffolder hafan y cwrs hyd yn oed os nad ydynt wedi cofrestru yn y cwrs yn yr un modd.