Hysbysiadau Ffolder
Gallwch danysgrifio i gyfeiriadur i dderbyn hysbysiad pan mae ffolder yn cael ei ychwanegu neu ei golygu, gan gynnwys newidiadau i ganiatâd neu fetaddata. Gallwch danysgrifio i ffolderi lle mae gennych ganiatâd rheoli yn unig.
I danysgrifio, dewiswch Hysbysiadau yn newislen y ffolder. Mae'r dudalen hon yn dangos gwybodaeth am hysbysiadau sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys tanysgrifwyr, amlder, math o hysbysiadau a dyddiadau gorffen. I ddileu hysbysiad, dewiswch y blwch ticio a dewiswch Dileu.
Tanysgrifio i ffolder
- Ar dudalen Hysbysiadau, dewiswch Creu Hysbysiadau.
- Dewiswch y math o hysbysiad i’w dderbyn: Addasu Ffolder, Cynnwys a Gyrchwyd, a/neu Addasu Sylw. Gallwch ddewis un o'r rhain neu'r cwbl.
- Dewiswch amlder yr hysbysiadau. Dewiswch Ar unwaith i dderbyn e-bost bob tro mae rhywbeth yn newid o fewn y ffolder. Dewiswch Bob dydd i dderbyn e-bost dyddiol yn nodi newidiadau'r ffolder.
- Gosodwch ddyddiad gorffen ar gyfer yr hysbysiad hwn trwy ddewis Dyddiad a Nodwyd a defnyddio'r meysydd mis, dyddiad, a blwyddyn.
- Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.