Mewn trafodaethau, mae edefynnau’n tyfu wrth i ddefnyddwyr ymateb i’r postiadau cychwynnol a dilynol. Mae ymatebion yn adeiladu ar ben ei gilydd i lunio sgwrs. Wrth i nifer y postiadau dyfu, mae defnyddwyr yn gallu hidlo, sortio, casglu a thagio postiadau, os caniateir tagio.
Moesau trafodaethau
I helpu myfyrwyr i ddeall eich disgwyliadau, sefydlwch foeseg trafodaeth ar unwaith. Gallwch fodelu ryngweithio ar-lein cywir ac atgyfnerthu ymddygiad priodol gyda chydnabyddiaeth gyhoeddus. Yn ogystal, gallwch ddarparu canllawiau penodol:
- Defnyddiwch linellau pwnc disgrifiadol i wneud edefynnau yn hawdd i’w dilyn a sganio.
- Cadwch bostiadau yn gryno a defnyddio iaith seml. Mae’ch cynulleidfa yn darllen ar sgrin ac efallai y bydd sawl neges i’w darllen.
- Cefnogwch eich datganiadau gyda thystiolaeth pan rydych yn cytuno neu'n anghytuno gydag eraill.
- Defnyddiwch iaith broffesiynol, yn cynnwys gramadeg cywir, mewn postiadau academaidd. Ni chaniateir defnyddio slang, gwenogluniau, nac acronymau sgwrsio.
- Defnyddiwch atodiadau neu ddolenni i wefannau i roi gwybodaeth hir, fanwl.
- Byddwch yn berthnasol. Os ydych eisiau cyflwyno pwnc newydd, edrychwch am fforwm addas neu cychwynnwch drywydd newydd os caniateir i chi wneud hyn.
- Parchwch farn pobl eraill a chofiwch y rheol euraidd - dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddyn nhw eich trin chi.
Ar gyfer fforymau a thrywyddion graddedig, esboniwch i fyfyrwyr yr hyn a ddisgwyliwch yn benodol o ran nifer ac ansawdd postiadau. Gallwch hyd yn oed rannu esiamplau o bostiadau da. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfarwyddebau i helpu myfyrwyr i ddeall eich amcanion.
Ymateb i edefyn
Gall defnyddwyr ymateb i drywyddion a gyhoeddwyd, ond ni allant ymateb i drywyddion wedi'u cloi neu rai cudd.
- Agor trywydd y tu mewn i fforwm.
- Ar dudalen y trywydd, gallwch weld testun y postiad ynghyd â gwybodaeth, megis yr awdur a'r dyddiad postio. Mae'r holl atebion yn ymddangos ar yr un dudalen ynghyd â'r cyhoeddiad wreiddiol.
- Pwyntiwch at y postiad i weld swyddogaethau megis Ymateb, Dyfynnu, Golygu, Dileu, ac E-bostio'r Awdur. Mae'r nodwedd Dyfynnu yn cynnwys testun y postiad fel rhan o'ch ymateb. Dewiswch Ymateb. Os ydych eisiau gweld dim ond y postiadau heb eu darllen yn yr edefyn, dewiswch Heb eu Darllen. Bydd y postiadau heb eu darllen yn ymddangos ar un dudalen.
- Bydd y dudalen yn ehangu o dan y postiad rydych yn ymateb iddo. Gallwch weld y postiad a chael mynediad at y golygydd.
- Os oes angen, gallwch olygu'r Pwnc. Teipiwch eich ymateb yn y blwch Neges. Gallwch hefyd atodi ffeil.
- Ar ôl y blwch Neges, gallwch atodi ffeil. Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur. Gallwch hefyd uwchlwytho ffeil o ystorfa ffeiliau'r cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.
Nid yw ffeiliau mae myfyrwyr yn eu huwchlwytho'n cael eu cadw yn yr ystorfa ffeiliau.
- Dewiswch Cadw Drafft i storio drafft o'r postiad neu ddewiswch Cyflwyno i gyhoeddi’ch ateb.
Ar y dudalen edefyn, mae’ch ateb yn ymddangos ar ddiwedd y rhestr. Os ydych chi wedi atodi ffeil, bydd eicon clip papur yn ymddangos wrth ochr teitl y postiad. Os ddefnyddioch swyddogaeth Mewnosod/Golygu Delwedd, bydd y ddelwedd yn ymddangos gyda'r testun.
Sgorio postiadau
Gellir hefyd defnyddio'r bwrdd trafod ar gyfer adolygiad gan gyfoedion. Mae myfyrwyr yn dechrau edefynnau ac yn cynnwys eu gwaith yn eu postiadau cychwynnol. Mae defnyddwyr eraill yn adolygu’r gwaith, yn rhoi graddiad i’r post cychwynnol, ac yn cynnwys sylwadau mewn ymateb.
Mae sgorio postiadau'n helpu defnyddwyr i ganolbwyntio ar y negeseuon mae eraill yn eu hystyried i fod yn arbennig o ddiddorol neu ddefnyddiol. Os ydych chi wedi galluogi sgorio, gall defnyddwyr sgorio postiadau gyda system pum seren. Gallwch hefyd raddio postiadau.
Rhaid i chi alluogi Caniatáu i Aelodau Sgorio Postiadau mewn gosodiadau fforwm er mwyn i'r opsiwn hwn ymddangos.
- Agor trywydd y tu mewn i fforwm.
- Ar dudalen y trywydd, pan fyddwch yn pwyntio at at ardal sgorio trywydd, mae'n newid i ddangos Eich Sgôr.
- Dewiswch un i bum seren. Gallwch ychwanegu a thynnu sêr ar unrhyw bryd.
- Caiff eich sgôr ei gynnwys yn y Sgôr Cyffredinol - cyfuniad o sgôr pob defnyddiwr.