Gallwch reoli'r bwrdd trafod a'r cynnwys yn y fforymau a'r edeifion. Er enghraifft, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i ganolbwyntio wrth i'r tymor symud ymlaen, golygwch osodiadau fforymau neu trefnwch fforymau ac edeifion i ddenu eu sylw eto. Gallwch hefyd ychwanegu fforymau i leoliadau eraill, golygu cynnwys, a dileu fforymau neu edefynnau diangen. I helpu myfyrwyr i leoli postiadau pwysig, gallwch alluogi tagio ac atodi tagiau.
Gallwch aseinio rolau fforwm i gyfyngu mynediad i fforwm neu i helpu gyda gweinyddu fforymau. I helpu rheoli cynnwys y bwrdd trafod a gyflwynir i'ch myfyrwyr, gallwch aseinio rôl cymedrolwr i ddefnyddiwr cyfrifol.
Golygu fforwm
Wrth i drafodaeth symud yn ei blaen, gallwch olygu gosodiadau'r fforwm i ddatrys unrhyw broblemau. Er enghraifft, os yw myfyrwyr yn postio i’r pwnc anghywir, gallwch fireinio enw neu ddisgrifiad y fforwm i egluro diben y fforwm. Hefyd, gallwch ddewis creu pob fforwm ar ddechrau'r tymor a gosod nhw i gyd fel heb fod ar gael. Pan fyddwch angen fforwm, golygwch y fforwm fel ei bod ar gael.
- Ar y Bwrdd Trafod, agorwch ddewislen fforwm a dewiswch Golygu.
- Ar y dudalen Golygu Fforwm, newidiwch enw, disgrifiad, argaeledd, neu osodiadau'r fforwm.
- Dewiswch Cyflwyno.
Argaeledd trafodaethau ar apiau symudol
I drefnu na fydd trafodaethau cwrs Gwreiddiol ar gael i ddefnyddwyr ap symudol, gallwch ddefnyddio'r dulliau hyn:
- Fforwm Unigol: Ar y Cylch Trafod, agorwch ddewislen fforwm. Dewiswch Golygu a newidiwch yr argaeledd.
- Cylch Trafod Cyfan: Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Argaeledd yr Offer. Cliriwch y blwch ticio ar gyfer Cylch Trafod. Bydd defnyddwyr ar yr ap yn gweld yr offeryn Trafodaethau, ond bydd yn wag.
Nid yw cuddio'r ddolen i’r Cylch Trafod ar ddewislen y cwrs neu dudalen offer yn gwahardd defnyddwyr apiau symudol neu defnyddwyr y wedd we rhag cael mynediad at yr offeryn.
Golygu trywydd
Gallwch olygu postiadau mewn unrhyw edefyn. Os yw myfyriwr yn ychwanegu cynnwys amhriodol neu anghywir, gallwch olygu’r post. Pan fyddwch yn creu neu'n golygu fforwm, rydych yn rheoli p'un a all myfyrwyr olygu'r postiadau y maent wedi'u cyhoeddi ai beidio.
- Agorwch fforwm a dewiswch drywydd.
- Ar dudalen y trywydd, pwyntiwch i bostiad fel bod yr holl swyddogaethau'n ymddangos a dewiswch Golygu.
- Bydd y golygydd yn ymddangos. Gwnewch eich golygu pan fyddwch yn edrych ar y postiad gwreiddiol.
- Dewiswch Cyflwyno. Bydd eich golygiadau yn ymddangos yn y postiad.
Dileu fforymau a thrywyddau
Pan fyddwch yn dileu fforwm neu edefyn, mae’r holl gynnwys yn cael ei ddileu’n barhaol. Ni fyddwch yn gallu cyfeirio at y postiadau os yw myfyriwr eisiau herio gradd. Ar gyfer datrysiad llai parhaol, gallwch wneud fforwm yn un nad yw ar gael. Pan fyddwch yn dileu cynnwys trafodaeth wedi'i raddio, rydych yn rheoli p'un a ddileer y golofn a'r sgorau yn y Ganolfan Raddau ai beidio hefyd.
- Agorwch ddewislen fforwm neu drywydd a dewiswch Dileu.
- Dewiswch Iawn yn y ffenestr naid.
- Ar y dudalen Cadarnhau Dileu, mae gennych ddau opsiwn:
- Cadw colofnau'r Ganolfan Raddau (peidiwch â dewis y blychau ticio): Os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn, bydd y fforwm neu drywydd wedi'i raddio'n cael ei ddileu, ond caiff y golofn a sgorau a aseinioch yn y Ganolfan Raddau eu cadw. Dewiswch yr opsiwn hwn os ydych eisiau cadw colofn y Ganolfan Raddau ar gyfer y cyfrifiadau gradd terfynol. Os byddwch yn dileu fforwm neu drywydd, ond yn cadw colofn y Ganolfan Raddau, gallwch ddileu’r golofn honno o’r Ganolfan Raddau ar unrhyw adeg.
- Dileu colofnau'r Ganolfan Raddau (dewiswch y blychau ticio): Mae'r golofn raddau yn y Ganolfan Raddau a'r fforwm neu drywydd yn cael eu dileu. Os nad ydych eisiau cynnwys y golofn raddau ar gyfer y postiadau trafod yn y radd derfynol, gallwch ddileu'r ddau'n ddiogel.
- Dewiswch Dileu.
Dileu postiad
I ddileu postiadau unigol, pwyntiwch i'r postiad ar dudalen y trywydd a dewiswch Dileu. Mae'r weithred hon yn barhaol. Bydd unrhyw atebion i'r postiad a dilëwch yn cael eu dileu'n barhaol hefyd.
Cadw trefn ar fforymau
Gallwch aildrefnu'ch trafodaethau i helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar y cynnwys mwyaf perthnasol. Pan fyddwch yn creu fforwm, mae'n ymddangos ar waelod y rhestr. Gallwch symud y fforwm presennol i’r brig neu ddileu fforymau nad ydynt bellach yn berthnasol.
Aildrefnu fforymau gyda'r swyddogaeth llusgo a gollwng. Gallwch hefyd ddefnyddio'r offeryn aildrefnu bysellfwrdd hygyrchedd.
Llusgo a gollwng
- Agorwch y bwrdd trafod a phwyntiwch i'r fforwm rydych eisiau ei symud. Dewiswch a daliwch y saethau drws nesaf i fforwm rydych eisiau ei symud. Mae’r eitem wedi’i ei hamlygu.
- Llusgwch y fforwm i leoliad newydd yn y rhestr.
- Rhyddhewch y fforwm i’w osod yn ei leoliad newydd.
Offeryn aildrefnu bysellfwrdd hygyrchedd
Gallwch ddefnyddio offeryn hygyrchedd i aildrefnu eitemau.
- Yng nghornel yr ardal drafodaethau ar dop y dudalen, dewiswch yr eicon Aildrefnu bysellfwrdd hygyrchedd.
- Yn y blwch Aildrefnu: Fforymau, dewiswch deitl fforwm.
- Defnyddiwch yr eiconau Symud I Fyny a Symud I Lawr i addasu'r drefn.
- Ar ôl i chi gyflwyno, bydd blwch naid yn datgan: Mae’r eitemau wedi’u haildrefnu.
- Dewiswch Iawn.
Copïo fforwm
Gallwch gopïo fforymau trafod a'u hychwanegu at y bwrdd trafod cyfredol neu at fwrdd trafod grŵp yn yr un cwrs. Gallwch gopïo fforwm, y gosodiadau a'r postiadau, neu gopïo dim ond gosodiadau fforwm.
I gopïo fforymau bwrdd trafod i gwrs arall, defnyddiwch gyfleuster copïo cwrs.
Enghraifft: Copïo’r fforwm cyfan
Os bydd dau bwnc penodol yn codi yn ystod trafodaeth, gallwch greu fforymau unigol ar gyfer y pynciau hyn. Copïwch y fforwm a dileu’r postiadau amherthnasol o bob fforwm.
Wrth i chi gopïo cynnwys, mae’r holl edefynnau ac atebion yn ymddangos yn y lleoliad newydd, ynghyd ag unrhyw atodiadau ffeil.
Enghraifft: Copïo gosodiadau’r fforwm yn unig
Gallwch seilio fforwm newydd ar y gosodiadau o fforwm arall. Os ydych chi eisiau i fyfyrwyr gyflwyno ail bapur ymchwil, copïwch osodiadau fforwm y papur ymchwil cyntaf. Mae’r fforwm yn cael ei hychwanegu heb unrhyw edefynnau.
- Ar y Bwrdd Trafod, agorwch ddewislen fforwm a dewiswch Copïo.
- Ar y dudalen Copïo Fforwm, teipiwch enw.
- Dewiswch yr opsiwn i gopïo'r Fforwm cyfan neu Gosodiadau'r fforwm yn unig.
- Yn y blwch Lleoliad, dewiswch fwrdd trafod fel y cyrchfan. I ddewis bwrdd trafod y cwrs, dewiswch rif adnabod y cwrs.
- Dewiswch Cyflwyno.
- Ar dudalen y Bwrdd Trafod, mae'r fforwm wedi'i gopïo'n cael ei ychwanegu at waelod y rhestr.
Pan fyddwch yn copïo fforwm trafod i fwrdd trafodaeth grŵp, mae'r copi'n cynnwys dim ond y negeseuon sydd wedi'u hawduro gan aelodau'r grŵp.
Ychwanegu dolen trafodaeth ar ddewislen y cwrs
Gallwch gynnwys dolen ar ddewislen y cwrs am fynediad ar unwaith at yr offeryn trafodaethau. Gallwch hefyd bersonoli enw'r ddolen.
- Dewiswch yr eicon Ychwanegu Eitem Ddewislen uwchben dewislen y cwrs i agor y ddewislen.
- Dewiswch Dolen Offer.
- Teipiwch Enw ar gyfer y ddolen.
- O ddewislen Math, dewiswch Bwrdd Trafod.
- Dewiswch y blwch ticio Ar gael i Ddefnyddwyr.
- Dewiswch Cyflwyno.
Mae’r ddolen offeryn newydd yn ymddangos olaf yn y rhestr dewislen cwrs. Gwasgwch a llusgo’r eicon saethau i symud y ddolen i safle newydd. Yn newislen y ddolen, gallwch ailenwi, dileu neu guddio'r ddolen o fyfyrwyr.
Ychwanegu dolen i'r drafodaeth mewn ardal cwrs
Gallwch ymgorffori'r bwrdd trafod mewn ardaloedd cynnwys, gan ganiatáu i fyfyrwyr gael mynediad at yr offeryn ochr yn ochr â'r cynnwys.
Mewn ardal gynnwys, ychwanegwch ddolen at fforwm ar ôl nodiadau darlith er mwyn casglu cwestiynau ar y deunydd a gyflwynwyd neu ar ôl aseiniad er mwyn casglu canfyddiadau myfyrwyr o'u perfformiad. Gallwch ychwanegu rheolau rhyddhau addasol neu gyfyngiadau argaeledd dyddiad i gyfyngu mynediad myfyrwyr. Yna, bydd myfyrwyr yn cael gafael at y cynnwys mewn trefn benodol, megis darllen PDF cyn iddynt ychwanegu postiadau at fwrdd trafod.
- Ewch i'r ardal gynnwys neu ffolder lle rydych eisiau creu dolen i'r bwrdd trafod neu fforwm.
- Ewch i'r ddewislen Offer a dewiswch Bwrdd Trafod,
- Fan hyn, bydd gennych chi dri opsiwn:
- Ar y dudalen Creu Dolen: Bwrdd Trafod, dewiswch opsiwn Dolen i Dudalen Bwrdd Trafod i greu dolen i'r bwrdd trafod ei hun.
- Defnyddiwch Dewis Fforwm Bwrdd Trafod a dewiswch fforwm o'r rhestr.
- Dewiswch Creu Fforwm Newydd i ychwanegu dolen at y fforwm byddwch yn creu ar yr adeg hon. Rydych yn dewis yr holl osodiadau fforwm pan fyddwch yn ei chreu. Mae’r fforwm sydd newydd ei chreu yn ymddangos yn y rhestr o fforymau i ddewis ohonynt wrth ychwanegu'r ddolen yn eich cwrs.
- Dewiswch Nesaf.
- Ar y dudalen Creu Dolen: Bwrdd Trafod nesaf, teipiwch Enw'r Ddolen. Nid yw Enw'r Ddolen yn gallu bod yn hwy na 50 nod.
- Gallwch ddewis teipio cyfarwyddiadau neu ddisgrifiad yn y blwch Testun.
- Ar gyfer opsiwn Ar gael, dewiswch Ie.
- I alluogi olrhain, dewiswch Ie. Bydd y system yn cofnodi sawl tro mae'r ddolen wedi cael ei weld, pryd mae'n cael ei weld a gan bwy.
- Dewiswch y blychau ticio Arddangos Ar Ôl ac Arddangos Hyd i alluogi'r dewisiadau dyddiad ac amser. Mae cyfyngiadau dangos yn effeithio ar welededd y bwrdd trafod neu fforwm.
- Dewiswch Cyflwyno. Mae’r ddolen trafodaeth yn ymddangos yn ardal y cwrs.
Cwestiynau cyffredin
Gallwch wneud rhai newidiadau syml i helpu rheoli cynnwys eich trafodaethau'n llwyddiannus.
Mae fforwm trafod wedi bod ar gael ers pythefnos heb lawer o gyfraniadau. Pa newidiadau allaf i wneud i’r fforwm i annog cyfranogiad?
Gallwch wneud dau newid:
- Os yw’n bosibl fod y pwnc yn ddadleuol, dylid caniatáu postiadau dienw.
- Os nad ydych yn graddio trywyddau, caniatewch i fyfyrwyr greu trywyddau newydd. Gallai’r hyblygrwydd hwn annog myfyrwyr i gyhoeddi eu syniadau a chwestiynau.
Erbyn diwedd y tymor, mae fy mwrdd trafod yn cynnwys dwsinau o fforymau. Beth alla i wneud i ddarparu gwell trefn a llif?
I gadw trefn ar eich bwrdd trafod, gallwch chi:
- Newid trefn y fforymau a symud y fforymau mwyaf cyfredol i dop y rhestr.
- Dileu fforymau heb eu graddio nad oeddent yn cael eu defnyddio, neu yr oedd ganddynt ddim ond ychydig o bostiadau.