Agorwch y llinell gyfathrebu ac ennyn diddordeb eich myfyrwyr mewn trafodaethau ar-lein.
Mae trafodaethau'n ffordd dda o annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am eu gwaith cwrs a rhyngweithio â syniadau myfyrwyr eraill. Gallwch greu trafodaethau o gwmpas gwersi cwrs unigol neu ar gyfer eich cwrs yn gyffredinol. Fel hyfforddwr, chi sy'n berchen ar y trafodaethau. Ar ôl i chi gychwyn trafodaeth, gallwch bostio'ch sylwadau eich hun i dywys myfyrwyr.
Y ffurf mwyaf cyffredin o ryngweithio mewn cwrs ar-lein yw trwy drafodaeth a gychwynnir gan hyfforddwr. Nid yw cyfranogiad a rhyngweithio mewn trafodaethau yn digwydd yn naturiol. Mae angen i chi ei gynllunio’n fwriadol yn rhan o’ch cwrs. I annog trafodaethau dengar o ansawdd, lluniwch eich cwestiynau'n ofalus a chreu ymholiad.
Datblygu trafodaethau ar-lein llwyddiannus
Helpwch eich myfyrwyr i deimlo'n gyfforddus a rhowch gyfarwyddiadau iddynt wrth iddynt gychwyn cymryd rhan mewn trafodaethau.
Dyma phedwar cam cyffredinol at ddatblygu trafodaethau llwyddiannus ar-lein i helpu i adeiladu cymuned a chyflawni aseiniadau.
- Diffiniwch ofynion y cyfranogiad.
- Rhannwch eich disgwyliadau. Crëwch drafodaeth lle gall y myfyrwyr ddarllen am foesau a chael mynediad at wybodaeth ar raddio.
- Modelwch ryngweithio ar-lein cywir ac atgyfnerthu ymddygiad priodol gyda chydnabyddiaeth gyhoeddus.
- Gofynnwch gwestiwn effeithiol
- Ymgorfforwch adnoddau amlgyfrwng yn eich cwestiynau i leihau undonedd rhyngweithio gyda thestun yn unig. Gyda phoblogrwydd gwasanaethau fel YouTube™, gallwch ofyn i fyfyrwyr wylio clip a gofyn am ymatebion.
- Anogwch syniadau newydd.
- Os yw postiadau trafodaeth yn cynnwys gormod o gytuno a dim digon o gwestiynu syniadau, dywedwch wrth fyfyrwyr gyda chyfenw yn dechrau gyda A-M i gefnogi un ochr a gyda chyfenw yn dechrau gyda N-Z i gefnogi'r llall.
- Cymedrolwch.
- Sefydlwch eich presenoldeb. Gofyn am eglurhad, adnoddau, neu fewnbwn gan gyfranogwyr distaw.
Cael mynediad at drafodaethau
Gallwch ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at drafodaethau mewn sawl ffordd. Gallwch ychwanegu dolen benodol i ddewislen y cwrs ac i ardal y cwrs. Pan fyddwch yn darparu dolen i drafodaethau mewn ardal cwrs, gall myfyrwyr gael mynediad at yr offeryn ochr yn ochr â chynnwys arall y cwrs.
Fel hyfforddwr, ar y Panel Rheoli, ehangwch adran Offer y Cwrs a dewiswch Bwrdd Trafod. O’r ddolen hon, ewch i fwrdd trafod y cwrs a'r byrddau trafod grŵp ar gyfer y grwpiau yn eich cwrs.
Strwythur y bwrdd trafod
Mae'n hanfodol cynllunio a strwythuro cynnwys eich cwrs ac yn yr un modd, mae hefyd angen i chi ddarparu strwythur ar gyfer trafodaethau ar-lein.
Mae prif dudalen y bwrdd trafod yn dangos rhestr fforymau. Mae fforwm yn lle i gyfranogwyr drafod pwnc neu grŵp o bynciau cysylltiedig. O fewn pob fforwm, gall defnyddwyr greu edefynnau lluosog. Mae trywydd yn cynnwys y postiad cyntaf a phob ymateb iddo. Gallwch greu fforymau ac edeifion er mwyn trefnu trafodaethau i mewn i unedau neu bynciau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.
Mae trafodaethau yn ymddangos yn eu trefn er mwyn i holl aelodau’r cwrs allu dilyn y sgwrs.
Tudalen y Bwrdd Trafod
Fel arfer ceir mynediad at y bwrdd trafod o ddewislen y cwrs, er y gallwch ddarparu dolen iddo mewn ardal cwrs arall, megis yn yr ardal cynnwys.
Mae’r dudalen y Bwrdd Trafod yn cynnwys rhestr o'r holl fforymau rydych wedi’u creu. Rhaid i chi yn gyntaf greu un fforwm neu'n fwy cyn y gall defnyddwyr gychwyn ysgrifennu edeifion neges. Gallwch chwilio am gynnwys trafodaethau hefyd. Yn ddiofyn, mae’r maes chwilio yn ymddangos wedi crebachu i arbed lle ar y sgrin.
- I ddidoli'r rhestr yn seiliedig ar golofn, dewiswch bennawd y golofn.
- I weld y postiadau mewn fforwm, dewiswch deitl y fforwm. Mae teitlau fforymau mewn print trwm yn cynnwys postiadau heb eu darllen.
- Ar gyfer pob fforwm, gallwch weld cyfanswm y postiadau, nifer y postiadau heb eu darllen, nifer yr atebion i chi a nifer y cyfranogwyr. Ar gyfer mynediad cyflym i negeseuon y fforwm heb eu darllen, dewiswch y ddolen yn y golofn Postiadau Heb eu Darllen.