Annog cyfraniadau meddylgar gyda thrafodaethau graddedig.

Mae trafodaethau yn cryfhau gallu myfyrwyr i feddwl yn feirniadol, i fynegi eu barn mewn ffordd glir, ac i gyfathrebu ag eraill. Gyda thrafodaethau gradd, gallwch asesu’r galluoedd hyn fel rhan o radd cwrs pob myfyriwr. Dangoswch i fyfyriwr lle mae eu cyfraniadau’n rhagori a lle gallant wella gyda graddau.

Pam graddio trafodaeth?

Efallai y gwelwch fod asesu cyfranogiad myfyriwr mewn trafodaeth yn amwys. Sut ydych yn gwahaniaethu rhwng myfyriwr sy’n weithgar, ond nad yw’n hybu’r drafodaeth, a myfyriwr sy’n siarad yn llai aml, ond gyda rhagor o effaith?

Mae'r rhyngweithio gan fyfyrwyr mewn trafodaethau yn creu cofnod parhaol o gyfranogiad. Ond cyn i chi ddechrau, mae angen i chi gael disgwyliadau rhesymol ynghylch beth y gall trafodaeth ar-lein ei gyflawni. Oherwydd natur yr amgylchedd ar-lein, efallai y byddwch angen mwy o amser i bwyntiau mynegi da i ddod i'r amlwg yn y trafodaethau. Mae myfyrwyr angen nifer ymarferol o gyfleoedd trafod ac ymatebion amserol ac adeiladol parthed ansawdd eu cyfraniadau. Mae gwerthusiad yn rhoi gwybod iddynt sut maent wedi perfformio, a gall lywio gwelliant rhyngweithiadau yn y dyfodol.


Troi graddio trafodaeth ymlaen

Gallwch aseinio graddau trafodaeth mewn fforwm neu drywydd. Gallwch aseinio graddau yn seiliedig ar gyfranogiad myfyrwyr, ar ansawdd eu postiadau, neu gyfuniad o'r ddau. Gallwch greu cyfarwyddiadau ymlaen llaw a’u defnyddio wrth raddio fforymau ac edeifion.

Pan fyddwch yn creu neu'n golygu fforwm, gallwch alluogi opsiynau graddio. Crëir colofn yn awtomatig yn y Ganolfan Raddau pan fyddwch yn galluogi graddio.

Mae’r gosodiadau graddio yn ymddangos ar y tudalennau Creu Fforwm a Golygu Fforwm.

  1. Dewiswch Graddio Fforwm Trafod a theipiwch werth pwyntiau i werthuso cyfranogwyr o ran eu perfformiad drwy gydol fforwm.
  2. Os ydych am werthuso cyfranogwyr ar berfformiad ym mhob edafedd, dewiswch Edeifion Gradd.
  3. Neu, gallwch ddethol y blwch ticio ar gyfer Dangos cyfranogwyr yn y statws angen graddio a dewis y nifer o bostiadau gofynnol i ddangos cyfranogwyr yn y statws angen graddio. Mae’r gosodiad hwn yn dangos yr eicon Angen Graddio yn y Ganolfan Raddau ar ôl i bob myfyriwr wneud y nifer penodol o bostiadau. Mae’r postiadau hefyd yn cael eu gosod yn y ciw ar y dudalen Angen Graddio. Os byddwch yn dewis opsiwn graddio a DDIM yn dewis y blwch ticio, ni fydd eicon Angen Graddio yn ymddangos yn y Ganolfan Raddau ac ni fydd postiadau'n ymddangos ar dudalen Angen Graddio. Yn y Ganolfan Raddau, bydd ceisiadau myfyrwyr yn ymddangos yn yr eicon Ar y Gweill pan fyddant yn postio.

    Os ydych chi’n dewis tri phost o’r rhestr ac mae myfyriwr yn cyflwyno dau, mae’r eiconAr y Gweill yn ymddangos yn y gell Canolfan Raddio ac yn y cylch trafod nes bydd y nifer penodedig o bostiadau wedi ei fodloni.

  4. Fe arall, gallwch gyrchu’r ddewislen Ychwanegu Cyfarwyddyd i ddewis cyfarwyddyd.

Troi graddio trafodaeth i ffwrdd

Os yw graddau yn bodoli, gallwch analluogi graddau ar gyfer fforymau ac edefynnau a raddiwyd.

  1. Ar y dudalen Golygu Fforwm, newidiwch yr opsiwn graddio i Dim Graddio yn y Fforwm.
  2. Dewiswch Cyflwyno. Os ydych chi eisoes wedi aseinio graddau ar gyfer fforwm neu ei edeifion, bydd neges rybudd yn ymddangos yn datgan y bydd yr holl raddau sy’n bodoli’n cael eu dileu. Mae'r weithred hon yn derfynol.
  3. Dewiswch Iawn i barhau neu dewiswch Canslo i gadw’r eitemau yn y Ganolfan Raddau.

Galluogi graddio edeifion

Os ydych chi’n dewis graddio edeifion mewn fforwm, fe benderfynwch ar sail fesul edefyn p’un ai i raddio edefyn. Os ydych chi’n dewis yr opsiwn Graddio Edeifion, ni all myfyrwyr greu edeifion eu hunain.

  1. Ar y dudalen Creu Edefyn, dewiswch y blwch ticio Graddio’r Edefyn a theipio’r Pwyntiau posibl. Chi fydd yn penderfynu pan fydd postiadau angen mynd i statws angen graddio. Dewiswch y blwch ticio ar gyfer Dangos cyfranogwyr yn y statws angen graddio a dewis y nifer o bostiadau o’r rhestr.
  2. Dewiswch Cyflwyno.
  3. Yn y fforwm, mae'r opsiwn Graddio'r Edefyn yn ymddangos yng ngholofn Gradd yr edefyn.

Gallwch hefyd alluogi graddio edefyn yn uniongyrchol o’r rhestr edefyn mewn fforwm.

  1. Dewiswch Gradd yng ngholofn Gradd yr edefyn.
  2. Teipiwch Pwyntiau Posibl.
  3. Dewiswch Cyflwyno. Mae’r opsiwn Graddio’r Edefyn yn ymddangos yng ngholofn Gradd yr edefyn.

Graddio cyfranogiad yn y fforwm

Gallwch neilltuo graddau trafodaeth i werthuso cyfranogwyr ar berfformiad trwy gydol fforwm. Defnyddwyr â'r rôl rheolwr neu raddiwr yw'r unig rai all aseinio graddau ar gyfer postiadau. Ni all graddwyr weld eu gwaith eu hunain.

  1. Yn fforwm lle gwnaethoch alluogi graddio, dewiswch Graddio Fforwm Trafod.
  2. Ar y dudalen Graddio Defnyddwyr Fforwm Trafod, dewiswch Graddio yn rhes y myfyriwr. Cyfrifir postiadau'r myfyriwr yn y golofn Pyst.
  3. Ar y dudalen Graddio Fforwm Trafod, mae postiadau’r myfyrwyr ar gyfer y fforwm hwn yn ymddangos. Gan eich bod yn gallu neilltuo gradd fforwm yn seiliedig ar edefynnau lluosog, bydd yr holl negeseuon a bostiwyd gan fyfyriwr yn cael eu cynnwys ar gyfer adolygiad. Yn y ffrâm cynnwys, gwerthuswch y postiadau sydd wedi eu dethol ar hyn o bryd gan y myfyriwr. Yn y bar ochr graddio, teipiwch radd. Os ydych wedi cysylltu cyfarwyddyd â'r fforwm hwn, ehangwch a chwblhewch y cyfarwyddyd.

    Mae’r bar ochr graddio yn cynnwys y meysydd hyn:

    • Ystadegau’r Fforwm: Gweld gwybodaeth am bostiadau myfyriwr, megis Cyfanswm Postiadau, Dyddiad y Post Diwethaf, Hyd Cyfartalog Postiadau, a Safle Cyfartalog y Postiadau.
    • Dewiswch y saeth i lawr nesaf at enw’r myfyriwr cyfredol i weld rhestr a dewis myfyriwr gyda phostiadau yn barod i’w graddio. Mae postiadau’r myfyriwr a ddetholwyd yn ymddangos yn y ffrâm cynnwys. Defnyddiwch y saethau i'r chwith a'r dde i lywio i'r myfyriwr blaenorol neu nesaf.
    • Ychwanegu gradd yn y maes Gradd.
    • Yn y blwch testun Adborth, gallwch deipio adborth ar gyfer y myfyriwr. Gallwch blannu recordiad sain/fideo o'ch adborth yn y golygydd wrth i chi raddio. Yn yr adran Ychwanegu Nodiadau, gwnewch nodiadau sy'n ymddangos yn unig i chi - rheolwr y fforwm - a rôl y graddiwr. Mae’r ddau eicon ar ôl y blwch Adborth yn gadael i chi gyrchu’r golygydd a’r gwiriwr sillafu.
  4. Dewiswch y Rhagolwg Argraffu i agor y dudalen mewn ffenestr newydd mewn fformat sy’n addas ar gyfer argraffydd. Bydd postiadau yn cyhoeddi yn y drefn maent yn ymddangos ar y dudalen. I ddewis pa bostiadau sy’n ymddangos ac ym mha drefn, gallwch hidlo a threfnu postiadau gyda’r opsiwn Hidlydd a’r opsiynau Didoli yn ôl a Trefnu.
  5. I olygu gradd bresennol, dewiswch y blwch Gradd a newid y radd.
  6. Dewiswch Cyflwyno i ychwanegu’r radd, adborth, a’r nodiadau graddio i’r Ganolfan Raddau. Mae’r radd yn ymddangos ar y dudalen Graddio Defnyddwyr Fforwm Trafod.

Graddio edefyn

Gallwch neilltuo graddau trafodaeth i werthuso cyfranogwyr ar berfformiad ym mhob edefyn.

  1. Agorwch y fforwm trafod yn cynnwys yr edefyn yr hoffech ei raddio.
  2. Newidiwch i’r Wedd Rhestr a dewiswch Graddio’r Edefyn yn rhes yr edefyn.
  3. Ar y dudalen Graddio Defnyddwyr Edefyn Trafod, dewiswch Graddio yn rhes y myfyriwr.
  4. Ewch ati i werthuso a graddio cyfranogiad myfyriwr mewn edefyn â’r un camau a ddefnyddiwyd ar gyfer graddio cyfranogiad mewn fforwm.

Anfon e-bost at fyfyrwyr wrth raddio trafodaethau

Wrth i chi aseinio graddau, gallwch ddefnyddio’r offeryn e-bost yn y drafodaeth i gysylltu â myfyrwyr.

  1. Agorwch fforwm neu edefyn.
  2. Ar y dudalen Graddio Defnyddwyr Edefyn Trafod neu’r dudalen Graddio Defnyddwyr Fforwm Trafod, dewiswch y blychau ticio y drws nesaf i’r myfyrwyr rydych chi am anfon neges e-bost atynt.
  3. Dewiswch E-bost.
  4. Ar y dudalen E-bostio Defnyddiwr Fforwm, golygwch y Pwnc, os oes angen.
  5. Teipiwch gwestiwn neu adborth yn y blwch Neges.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Graddio trafodaeth grŵp

Yn wahanol i weithgareddau grŵp graddedig eraill, pan fyddwch yn gosod bwrdd trafod grŵp i’w raddio, bydd pob aelod yn cael ei raddio yn annibynnol o aelodau grŵp eraill. Rhaid i bob aelod o’r grŵp wneud y nifer penodedig o bostiadau i ennill gradd. Nid ydych yn aseinio gradd grŵp ar gyfer cyfraniadau i’r cylch trafod grŵp.

Rhagor am drafodaethau grŵp