Mae dysgu cydweithredol yn cynnig sawl mantais dros addysgu traddodiadol. Mae astudiaethau'n dangos pan fydd myfyrwyr yn gweithio fel tîm, eu bod yn datblygu agweddau cadarnhaol, yn datrys problemau'n fwy effeithiol, ac yn profi gwell ymdeimlad o gyflawniad.

Gallwch drefnu myfyrwyr mewn grwpiau er mwyn iddynt allu rhyngweithio gyda'i gilydd a dangos eu gwybodaeth wrth ddysgu gwerthfawrogi safbwynt pobl eraill.

Gallwch greu un grŵp cwrs ar y tro neu set ohonynt.


Cyrchu grwpiau cwrs

Mae gan bob grŵp ei hafan ei hun gyda dolenni at offer i helpu myfyrwyr i gydweithio. Chi'n unig ac aelodau'r grŵp all gyrchu'r offer grŵp.

Yn y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Defnyddwyr a Grwpiau a dewiswch Grwpiau. Ar y dudalen Grwpiau, gallwch weld a golygu eich grwpiau sydd eisoes yn bodoli, a chreu grwpiau a setiau o grwpiau newydd.


Dulliau cofrestru grwpiau

Gallwch gofrestru myfyrwyr ar grwpiau mewn tair ffordd. Nid yw myfyrwyr yn gallu dad-gofrestru eu hunain o grwpiau.

  • Mae Cofrestru â Llaw yn eich caniatáu i aseinio pob myfyriwr yn eich cwrs i grŵp. Mae cofrestru â llaw ar gael ar gyfer grwpiau unigol yn ogystal â setiau grŵp.
  • Mae Cofrestru ar Hap ar gael ar gyfer setiau o grwpiau yn unig. Mae Cofrestru ar hap yn dosbarthu myfyrwyr yn awtomatig i mewn i grwpiau yn seiliedig ar eich gosodiadau ar gyfer y nifer uchaf o aelodau fesul grŵp neu gyfanswm y grwpiau. Mae dosbarthu ar hap yn berthnasol i fyfyrwyr yn unig sydd wedi cofrestru ar eich cwrs ar hyn o bryd. Gallwch gofrestru myfyrwyr ychwanegol â llaw.
  • Mae Hunan-gofrestru yn caniatáu i fyfyrwyr ychwanegu eu hunain i grwpiau gyda thaflen gofrestru. Mae hunan-gofrestru'n opsiwn sydd ar gael ar gyfer grwpiau unigol a setiau o grwpiau.

Mwy ar ddewis dull o gofrestru ar grwpiau


Mynediad myfyrwyr at grwpiau cwrs

Gall myfyrwyr gael mynediad at grwpiau mewn dwy ffordd:

  • Mewn cwrs newydd, dewiswch y ddolen Grwpiau ar ddewislen y cwrs.
  • Yn newislen y cwrs, ewch i Offer > Grwpiau.

Creu un grŵp ar gyfer y cwrs

  1. Ar y dudalen Grwpiau, dewiswch Creu.
  2. Yn y rhestr Un Grŵp, dewiswch Hunan-gofrestru neu Cofrestru â Llaw.
  3. Teipiwch enw a disgrifiad opsiynol. Trefnwch bod y grŵp yn weladwy i fyfyrwyr.
  4. Dewiswch y blychau ticio ar gyfer offer y cwrs rydych am drefnu eu bod ar gael i'r grŵp.
  5. Os ydych chi eisiau graddio cyflwyniadau myfyrwyr ar gyfer blogiau, wikis a dyddlyfrau, dewiswch opsiwn Graddio a theipiwch Pwyntiau posib.
  6. Dewiswch y blwch ticio ar gyfer Caniatáu Personoli er mwyn caniatáu i fyfyrwyr ychwanegu modiwlau personol i hafan y grŵp. Mae modiwlau ar gael i'r aelodau o'r grŵp y'u hychwanegodd yn unig.
  7. Gallwch ddewis dewis y blwch ticio i greu gwedd glyfar ar gyfer y grŵp hwn.

Cofrestru myfyrwyr mewn grŵp cwrs

  1. Os byddwch yn dewis Hunan-gofrestru, teipiwch enw a darparwch gyfarwyddiadau. Gallwch ddewis dweud wrth y myfyrwyr eu bod yn methu dad-gofrestru eu hunain o grwpiau. Teipiwch Uchafswm Nifer yr Aelodau a dewiswch unrhyw opsiynau eraill rydych eisiau eu cynnwys.

    -NEU-

    Os byddwch yn dewis Cofrestru â Llaw, chwiliwch am a dewis myfyrwyr o'r ffenestr naid Ychwanegu Defnyddwyr.

    Mae aelodau'r grŵp a ddewiswyd gennych yn ymddangos yn y maes gwaelod gyda rhif yn dangos cyfanswm y cyfrifiad. Dewiswch eicon Dangos y Rhestr, wedi'i chynrychioli gan sgwâr lawn, i agor ardal Ychwanegu Defnyddwyr i weld eich detholiadau. I dynnu defnyddwyr, dewiswch yr X nesaf at eu henwau.

  2. Dewiswch Cyflwyno.

Bydd y grŵp rydych newydd ei greu yn ymddangos ar y dudalen sy'n rhestru'r Grwpiau.


Creu set o grwpiau

  1. Ar y dudalen Grwpiau, dewiswch Creu.
  2. Yn y rhestr Set o Grwpiau, dewiswch Hunan-gofrestru, Cofrestru â Llaw neu Cofrestru ar Hap.

Defnyddiwch yr un camau ag y dilynwch wrth greu un grŵp. Yna, yn seiliedig ar yr opsiwn cofrestru dewiswch chi, gallwch ddewis o blith yr opsiynau hyn:

  • Hunan-gofrestru: Teipiwch enw a chyfarwyddiadau ar gyfer y grŵp. Nodwch Uchafswm Nifer yr Aelodau a dewiswch unrhyw opsiynau eraill rydych eisiau eu cynnwys.
  • Cofrestru ar Gap: Teipiwch Nifer y Myfyrwyr fesul Grŵp neu Nifer y Grwpiau, rydych eisiau eu creu. Dewiswch opsiwn i Bennu sut i gofrestru unrhyw aelodau sy'n weddill yn y grwpiau.
  • Cofrestru â Llaw: Teipiwch Nifer y Grwpiau i'w creu. Ar y dudalen nesaf, dewiswch Ychwanegu Defnyddwyr ar gyfer pob grŵp er mwyn gwneud eich dewisiadau.

    Mae aelodau'r grŵp a ddewiswyd gennych yn ymddangos yn y maes gwaelod gyda rhif yn dangos cyfanswm y cyfrifiad. Dewiswch eicon Dangos y Rhestr, wedi'i chynrychioli gan sgwâr lawn, i agor ardal Ychwanegu Defnyddwyr i weld eich detholiadau. I dynnu defnyddwyr, dewiswch yr X nesaf at eu henwau.

Mae defnyddwyr Segur yn cael eu cyfrif yng nghyfanswm cofrestru cyffredinol y grŵp nes i aelodaeth neu ddefnyddwyr y grŵp gael eu dileu.


Tynnu aelod o'r grŵp

Gallwch dynnu aelodau o grŵp cwrs.

Hyfforddwyr a gweinyddwyr cwrs yn unig all dynnu aelodau grŵp. Nid yw myfyrwyr yn gallu tynnu eu hunain o grŵp na myfyrwyr eraill o grŵp a grëwyd gan fyfyrwyr.

  1. Ar y dudalen Grwpiau, dewiswch Golygu Grŵp yn newislen y grŵp.
  2. Ar dudalen Golygu Grŵp, dewiswch yr X yn rhes aelod i dynnu'r defnyddiwr o'r grŵp. Dewiswch Tynnu Pob Defnyddiwr i ddileu holl aelodau grŵp.
  3. Dewiswch Cyflwyno.

Mae aelod y grŵp nawr wedi ei dynnu o'r grŵp. I ddilysu bod aelod wedi ei dynnu, ewch i hafan y grŵp i wirio'r rhestr o aelodau.


E-bostiwch grŵp cwrs

Gallwch ddefnyddio’r offeryn e-bost grŵp i gyfathrebu’n effeithlon gydag aelodau eraill y grŵp cyfan. Pan ddewch yn barod i anfon neges, mae’r offeryn yn llenwi rhestr y derbynwyr gydag aelodau grŵp yn awtomatig er mwyn i chi allu dewis pob un neu rai ohonynt. Mae’r neges e-bost yn cael ei hanfon at gyfeiriadau e-bost allanol derbynwyr. Nid yw Blackboard Learn yn cadw cofnod o’r negeseuon e-bost hyn.

Os yw hi'n well gan grwpiau gadw cyfathrebu o fewn eu cwrs, gallant ddefnyddio negeseuon cwrs, offeryn post mewnol Blackboard Learn. Gan nad yw negeseuon cwrs ar gael fel offeryn grŵp, mae angen i fyfyrwyr ddewis derbynwyr o restr o holl aelodau’r cwrs. Mae cofnod o bob neges a anfonir yn cael ei storio yn yr offeryn negeseuon cwrs.


Cyflwyno grwpiau i fyfyrwyr

Mae sut mae myfyrwyr yn cael mynediad at grwpiau yn dibynnu ar sut rydych wedi gosod eich cwrs. Gallwch ddefnyddio'r opsiynau hyn i osod grwpiau i gyflawni gwahanol amcanion dysgu.

Opsiwn A: Fy Ngrwpiau

Sut mae'n edrych:

Mae grwpiau pob myfyriwr yn ymddangos yn ddiofyn yn Fy Ngrwpiau.

Sut mae'n gweithio:

Ar ôl i chi greu grwpiau ac ychwanegu defnyddwyr, mae'r grwpiau ar gael i aelodau cofrestredig yn Fy Ngrwpiau lle gall defnyddwyr ehangu pob enw grŵp i gael mynediad cyflym i'w offer. Gan fod Fy Ngrwpiau yn cael ei lenwi'n awtomatig pan ychwanegir myfyrwyr at grwpiau, yr opsiwn hwn yw'r un mwyaf hawdd i'w weithredu. Dewiswch y saeth i ehangu hafan y grŵp i mewn i ffrâm y cynnwys.

Opsiwn B: Dolen dewislen cwrs

Sut mae'n edrych:

Mae dolen dewislen cwrs i'r dudalen rhestru Grwpiau yn dangos yr holl grwpiau y mae myfyriwr wedi'i gofrestru ynddynt ac ar gael yn y taflenni cofrestru sydd ar gael.

Sut mae'n gweithio:

Gan nad yw Fy Ngrwpiau yn rhestru taflenni cofrestru, crëwch ddolen i'r dudalen rhestru Grwpiau os ydych eisiau defnyddio grwpiau hunan-gofrestru. Mae dolen i grwpiau yn newislen y cwrs yn ei wneud yn hawdd ac yn gyfleus i fyfyrwyr. Defnyddiwch restr Ychwanegu Eitem Ddewislen dewislen y cwrs a chrëwch ddolen offer neu ddolen cwrs. Wedyn, dewiswch y dudalen rhestru Grwpiau yn y map naid o'r cwrs.

Opsiwn C: Darparu dolenni mewn maes cwrs

Sut mae'n edrych:

Mae dolen i'r dudalen rhestru Grwpiau hafan grŵp, neu dudalen gofrestru'n ymddangos mewn ardal gynnwys, modiwl dysgu, neu gynllun gwers sy'n agos at y cynnwys cysylltiedig.

Sut mae'n gweithio:

Creu grwpiau gyda'r offeryn grwpiau. Nesaf, ewch i'r ardal cwrs lle rydych eisiau ychwanegu'r ddolen i'r grŵp. Agorwch y ddewislen Offer a dewiswch Grwpiau. Gwnewch eich dewis ar y dudalen Creu Dolen: Grŵp.