Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Gallwch allgludo ffeil CSV (gwerth wedi'i wahanu ag atalnod) sy’n cynnwys eich grwpiau presennol a’u haelodau, ad-drefnu’r grwpiau hyn all-lein yn ôl yr angen, a’u mewngludo i mewn i Blackboard Learn.

Ar dudalen Grwpiau, defnyddiwch y swyddogaethau mewngludoac allgludo i ychwanegu defnyddwyr a grwpiau newydd. Fodd bynnag, allwch chi ddim dileu defnyddwyr neu grwpiau. Allwch chi ddim ychwanegu defnyddwyr newydd at eich cwrs yn ystod y prosesau hyn chwaith.

Allgludo grwpiau

Dilynwch y camau hyn i allgludo grwpiau.

  1. Ewch i’r dudalen Grwpiau yn eich cwrs.
  2. Dewiswch Allgludo ar frig y dudalen.
  3. Ar y dudalen Allgludo Grwpiau ac Aelodau, dewiswch beth rydych am ei allgludo.
    • Grwpiau yn unig
    • Aelodau grŵp yn unig
    • Grwpiau ac aelodau grwpiau
  4. Dewiswch Cyflwyno.
  5. Pan fydd y system wedi gorffen prosesu’r ffeil(iau) CSV, cewch chi e-bost sy’n cynnwys y ffeil(iau).

Mewngludo grwpiau

Dilynwch y camau hyn i fewngludo grwpiau.

  1. Ewch i’r dudalen Grwpiau yn eich cwrs.
  2. I fewngludo aelodau o grŵp, dewiswch Pori fy nghyfrifiadur o dan Mewngludo Aelodau Grŵp a dewiswch y ffeil rydych chi am ei huwchlwytho.
  3. I fewngludo’r grwpiau, dewiswch Pori fy nghyfrifiadur o dan Mewngludo Grwpiau a dewiswch y ffeil rydych chi am ei huwchlwytho.
  4. Dewiswch yr adnoddau grŵp yr hoffech i bob grŵp eu defnyddio. Disodlir gosodiadau argaeledd offer blaenorol.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Ffeiliau CSV enghreifftiol

Lawrlwythwch y ffeiliau CSV hyn i’w defnyddio fel enghreifftiau pan fyddwch yn mynd ati i fformatio’ch ffeiliau eich hun.


Codau grŵp

Mae codau grŵp yn ddynodwyr unigryw a ddefnyddir yn unig ar gyfer pwrpasau mewngludo. Fe gewch chi ddatgelu colofn yn y rhyngwyneb i weld y codau grŵp, ond chewch chi ddim golygu’r codau grŵp hyn tra byddwch yn y cwrs.

Mae codau grŵp hefyd yn ymddangos mewn ffeiliau CSV sydd wedi eu lawrlwytho. Gallwch olygu’r codau grŵp yn y ffeil CSV wrth fewngludo defnyddwyr presennol i grŵp, er mwyn sicrhau bod y defnyddwyr wedi cael eu hychwanegu at y grŵp cywir. Mae angen codau grŵp fel bod modd gwahaniaethu rhwng grwpiau sydd â’r un enw.

Ar y dudalen Grwpiau, gallwch ddefnyddio’r ddewislen Gweld yr Opsiynau i ddangos a chuddio’r golofnCod Grŵp.