Mae nifer y myfyrwyr yn eich cwrs a pha mor dda rydych yn eu hadnabod yn gall dylanwadu ar sut rydych yn dewis aelodau ar gyfer gwaith grŵp a chydweithio.
Yn gyffredinol, cynhwyswch o leiaf bedwar aelod ymhob grŵp. Mae grwpiau pedwar-aelod yn gallu ymdopi ag absenoldeb a gall y grŵp barhau i symud ymlaen. Nid yw maint y grŵp hwn yn caniatáu i unrhyw fyfyriwr lercian. Gall aelodau grŵp ddosbarthu tasgau'n gyfartal. Mae pedwar aelod yn darparu digon o amrywiaeth, barn, ac arddulliau dysgu i greu syniadau a datrysiadau gwerth chweil.
Os ydych yn bwriadu aseinio gweithgareddau grŵp mwy nag unwaith, gallwch gylchdroi grwpiau trwy gydol y tymor. Fodd bynnag, gadewch i grŵp aros gyda'i gilydd am ddigon o amser i greu cyswllt ac i fod yn effeithiol.
Dulliau cofrestru grwpiau
Pan fyddwch yn creu grŵp neu set o grwpiau, gallwch ddewis aelodau grŵp yn y ffyrdd hyn:
- Dewis aelodau grŵp â llaw—hefyd a enwir yn grwpiau personol
- Cael y system i ddewis aelodau ar hap wrth i chi greu setiau o grwpiau
- Caniatáu i fyfyrwyr hunan-gofrestru
Cofrestru â llaw
Gyda chofrestru â llaw, rydych yn neilltuo pob myfyriwr yn eich cwrs i grŵp.
Gydag ychydig o wybodaeth am eich myfyrwyr, gallwch aseinio aelodau i grwpiau'n llwyddiannus i sicrhau amrywiaeth. Gall grwpiau sy'n cynnwys rhinweddau personoliaeth amrywiol neu alluoedd cymysg gynhyrchu'r canlyniadau gorau. Efallai bod yn well gan fyfyrwyr aseiniadau grŵp a wneir gan hyfforddwr yn hytrach nag aelodaeth y maent yn dewis dros eu hunain.
Rydych eisiau greu grwpiau sy'n cynnwys unigolion â chryfderau, gwybodaeth, a hyd yn oed arferion gwaith amrywiol. Mae angen i chi hefyd ystyried gwahaniaethau rhyw a diwylliannol. Mae grwpiau cymysgryw yn gweithio'n arbennig o dda o ran creu syniadau newydd ac archwilio prosiect o wahanol safbwyntiau. Bydd aelodau grŵp cryfach yn caffael gwybodaeth ddyfnach o'r pwnc wrth iddynt helpu cymheiriaid tîm sy'n wynebu anhawster. Bydd y myfyrwyr gwannach yn caffael gwybodaeth o'r myfyrwyr uchel eu cymhelliad ac yn caffael mewnwelediad i sut mae eu haelodau grŵp yn mynd ati i ddysgu. Y gobaith yw bod gweithio ar y cyd yn arwain at y myfyrwyr yn teimlo'n dda amdanynt eu hunain trwy helpu eraill a myfyrwyr sy'n cael eu hysgogi trwy enghraifft eu cymheiriaid.
Cofrestru ar hap
Mae cofrestru ar hap yn dosbarthu aelodaeth yn awtomatig i mewn i grwpiau'n seiliedig ar nifer dynodedig o fyfyrwyr y grŵp neu'r nifer dynodedig o grwpiau. Mae cofrestru ar hap ond yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar eich cwrs ar hyn o bryd. Gallwch gofrestru myfyrwyr ychwanegol â llaw.
Gall aseiniadau grŵp ar hap weithio orau ar gyfer hyfforddwyr sy'n addysgu cyrsiau sy’n cynnwys nifer mawr o fyfyrwyr heb y cyfle i ddod i'w hadnabod yn unigol. Gan hynny, gallai fod yn anodd gwybod pa fyfyrwyr a allai gydweithio'n dda a dod i ben â'i gilydd. Er bod aseinio ar hap yn hawdd i hyfforddwr gan nad oes angen paratoi, gall rhai myfyrwyr ystyried aseinio ar hap fel nad yw eu hyfforddwr yn hidio.
Wrth aseinio myfyrwyr i grwpiau ar hap, rydych yn osgoi'r risg y bydd myfyrwyr sy'n dewis eu partneriaid eu hunain yn treulio gormod o amser yn cymdeithasu a ffurfio cliciau. Ni fydd unrhyw fyfyriwr yn cael ei eithrio, ei anwybyddu neu ei ddewis olaf. Hefyd, mae rhai hyfforddwyr yn teimlo mai un o nodau gwaith grŵp yw cydweithio â phobl nad ydych yn eu hadnabod, ac mae aseinio ar hap yn cynyddu'r risg hon.
Hunangofrestru
Mae hunan-gofrestru yn caniatáu i fyfyrwyr ychwanegu eu hunain at grwpiau.
Pan fydd myfyrwyr yn dewis grwpiau hunan-ddewis, maent yn dueddol o wneud hynny'n seiliedig ar berthnasau neu nodweddion blaenorol: ffrindiau, aelodau tîm, aelodaeth mudiad, grwpiau cymdeithasol ar y campws, hil, neu genedl. Gall myfyrwyr sydd ag ychydig iawn o gysylltiadau ei chael yn anodd o bosibl i fod yn aelod o grwpiau sy'n cynnwys unigolion tebyg.
Mae'n bosib na fydd grwpiau unrhyw yn treulio llawer o amser yn creu cyswllt. Mae'n bosib y bydd ganddynt lefel uchel o ymddiriedaeth a chydsyniad yn barod, felly gallai'r grwpiau hyn gyfateb orau i'ch canlyniadau arfaethedig.
Efallai byddwch eisiau ystyried sut i hyrwyddo cynwysoldeb neu ddefnyddio hunan gofrestru'n unig ar gyfer y cyrsiau hynny lle mae gennych fyfyrwyr â galluoedd, diddordebau, a chysylltiadau tebyg. Gallwch ddefnyddio grwpiau hunan-gofrestru hefyd ar gyfer grwpiau sy'n seiliedig ar ddiddordeb, gweithio ar y cyd nad yw'n cael ei raddio, credydau ychwanegol, sefyllfaoedd gwirfoddoli, neu ar gyfer grwpiau astudio.