Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Roeddwn i eisiau darparu fy ffolder Pennod 3 i fyfyrwyr sydd wedi marcio eu bod wedi adolygu’r ffolder Pennod 2 yn unig. Ond nawr mae fy myfyrwyr yn cwyno nad ydynt yn gallu gweld Pennod 2.

Efallai eich bod wedi defnyddio'r rheol rhyddhau amodol ar gyfer ffolder Pennod 2 yn lle Pennod 3. Defnyddiwch y rheol ar gyfer yr eitem rydych am ei ryddhau’n addasol (Pennod 3) ac nid yr eitem a fydd yn cael ei nodi i’w hadolygu (Pennod 2).


Rydw i eisiau darparu uned pwyntiau modiwl i fyfyrwyr sy’n bodloni gofyniad penodol. Ond dwi ddim ond eisiau iddynt gael mynediad iddo yn ail hanner y tymor. A ydw i’n gallu creu rheol rhyddhau addasol sy’n cynnwys dau faen prawf?

Ydych. Gallwch ddefnyddio unrhyw gyfuniad o’r pedwar maen prawf yn eich rheolau rhyddhau addasol sylfaenol. Wrth i chi greu eich rheol sylfaenol, defnyddiwr y meini prawf dyddiad a gradd. Ni allwch gael mwy nag un enghraifft o'r un maen prawf mewn rheol sylfaenol. Er enghraifft, chewch chi ddim gosod mwy nag un maen prawf aelodaeth. Os ydych chi eisiau defnyddio’r un math o faen prawf fwy nag unwaith, crëwch reol uwch.


Mae myfyrwyr sy’n bodloni’r holl feini prawf rhyddhau addasol yn adrodd nad ydynt yn gallu gweld yr eitem. Beth ddylwn i ei wirio?

Mae argaeledd eitem wedi ei osod ar y tudalen Creu Eitem yn disodli pob rheol rhyddhau addasol. Os nad yw'r eitem ar gael, nid yw ar gael i fyfyrwyr pa reolau bynnag a sefydlwyd. Gallwch ddatblygu rheolau a threfnu bod eitemau ar gael yn unig pan fyddwch wedi dod i ben â chreu rheolau.

Gwiriwch fod yr eitem ar gael ac nad oes cyfyngiadau data sy’n gwrthdaro â’ch meini prawf rhyddhau presennol. Gallwch wirio’r ddau hyn o’r dudalen Rhyddhau Addasol: Uwch y gellir ei chyrchu o ddewislen eitem.


Sut mae rheolau dyddiad yn effeithio ar beth mae myfyrwyr yn ei weld mewn modiwlau dysgu a ffolderi?

Gallwch weithredu rheolau rhyddhau addasol i unrhyw eitem yn eich cwrs: eitemau cynnwys, ffeiliau, dolenni, aseiniadau, profion, ffolderi, a dolenni offer. Gyda modiwlau dysgu, cynlluniau dysgu, a ffolderi, gallwch weithredu rheol rhyddhau addasol i’r cynhwysydd cyfan neu i eitemau unigol yn y cynwysyddion.

Os ydych yn defnyddio rheol dyddiad i eitem unigol mewn cynhwysydd, mae’n effeithio ar beth mae myfyrwyr yn ei weld a phryd.

Enghraifft:

Fe ychwanegoch fodiwl dysgu a dewis PEIDIO gorfodi gwylio dilynol. Gall myfyrwyr weld yr holl gynnwys yn y tabl cynnwys, heblaw'r un gyda’r rheol dyddiad wedi ei osod yn y dyfodol. Mewn theori, gallai myfyrwyr orffen gwylio’r cynnwys yn y modiwl dysgu cyn rhyddhau’r eitem honno. Os ydych yn defnyddio'r modiwlau hysbysiadau, bydd myfyrwyr yn cael eu hysbysu bod cynnwys newydd ar gael yn y modiwl dysgu hwnnw yn y dyfodol. Ond, gall myfyrwyr ddiffodd eu hysbysiadau, felly peidiwch â dibynnu ar y modiwlau hysbysiad fel yr unig ffordd i gyfleu gwybodaeth i fyfyrwyr.

Enghraifft:

Rydych wedi gorfodi gwylio dilynol ar gyfer y modiwl dysgu ac wedi ychwanegu rheol dyddiad i un eitem yng nghanol y modiwl. Bydd y tabl o ddolenni cynnwys yn terfynu pan fydd yr eitem ddyddiedig yn dod nesaf. Ni all myfyrwyr gael mynediad i weddill y cynnwys nes bydd y dyddiad hwnnw yn digwydd.

Rheol dda i’w dilyn wrth i chi ychwanegu rheolau rhyddhau addasol: Defnyddiwch yr offeryn rhagolwg myfyriwr i weld pa gynnwys gall myfyrwyr gael mynediad iddo a pha rai na all. I fod yn gwbl ddiogel, rhowch reol dyddiad ar y cynhwysydd cyfan ac nid ar eitemau unigol yn unig.

Mwy ar ragolwg myfyriwr