Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Eich sefydliad sy'n rheoli argaeledd yr offeryn rhyddhau addasol. Os yw eich sefydliad yn analluogi rhyddhau addasol, bydd yr holl reolau rydych wedi'u creu yn diflannu. Os yw eich sefydliad yn galluogi’r offeryn eto, bydd unrhyw reolau rhyddhau addasol rydych wedi’u gosod yn flaenorol yn ailymddangos.
Dau fath o reolau
Sicrhewch fod y Modd Golygu YMLAEN er mwyn i chi allu cael mynediad at holl swyddogaethau hyfforddwr.
Ychwanegu rheol ryddhau addasol sylfaenol
Gyda rheolau rhyddhau addasol sylfaenol, gallwch ychwanegu a golygu un rheol ar gyfer un darn o gynnwys. Mae'n bosibl bod gan y rheol unigol hon nifer o feini prawf.
Er enghraifft, gall rheol ofyn i fyfyriwr fodloni meini prawf dyddiadau yn ogystal â statws adolygu cyn iddynt allu agor cynnwys arall. Gallwch ddefnyddio rheolau rhyddhau addasol uwch i ychwanegu rheolau lluosog at ddarn unigol o gynnwys.
- Ewch i mewn i ddewislen eitem a dewiswch Rhyddhau Addasol.
- Ar y dudalen Rhyddhau Addasol, cwblhewch un neu fwy o adrannau fel dyddiad ac aelodaeth.
- Dewiswch Cyflwyno.
Ychwanegwch reol ryddhau addasol uwchraddol
Gyda rhyddhau addasol uwch, gallwch ychwanegu rheolau lluosog at eitem gynnwys unigol. Os ydych yn creu rheolau lluosog, mae’r cynnwys yn weladwy i fyfyriwr os yw unrhyw un o’r rheolau yn cael eu bodloni. Gallwch ychwanegu sawl maen prawf at bob rheol.
Er enghraifft, mae un rheol yn caniatáu i aelodau Grŵp A gyda sgôr dros 85 ar brawf weld yr eitem o gynnwys. Mae rheol arall ar gyfer yr un eitem yn caniatáu i aelodau Grŵp B weld yr un eitem o gynnwys ond ar ôl dyddiad penodol yn unig.
Nodir rheolau nad oes modd eu bodloni gan unrhyw fyfyriwr gan na fyddant yn rhoi unrhyw fynediad at eitem o gynnwys penodol.
- Ewch i mewn i ddewislen eitem a dewiswch Rhyddhau Addasol: Uwch.
- Ar y Rhyddhau Addasol: Uwch, dewiswch Creu Rheol.
- Ar y dudalen Ychwanegu Rheol, teipiwch enw ar gyfer y rheol a dewiswch Anfon.
- Dewiswch Creu Meini Prawf a dewiswch ddyddiad, graddfa, neu aelodaeth, a darparwch y meini prawf. Dewiswch Cyflwyno.
- Dewiswch Statws Adolygu i’w ychwanegu at yr uwch reol ryddhau addasol. Porwch a dewiswch yr eitem mae’n rhaid i fyfyrwyr adolygu cyn i’r cynnwys gael ei ryddhau.
- Ailadroddwch Gamau 6 a 7 i ychwanegu meini prawf lluosog at eitem.
Golygwch neu ddilëwch reol ryddhau addasol
I olygu’r meini prawf neu i ddileu rheol sylfaenol, ewch i mewn i ddewislen yr eitem a dewiswch Rhyddhau Addasol.
Er enghraifft, gallwch ddewis newid yr ystod dyddiad am reol dyddiad. Os yw rhai myfyrwyr wedi cyflwyno gwaith yn barod ac rydych wedi pennu graddau, byddant yn gweld y radd ar eu tudalennau Fy Ngraddau. Efallai ni fyddant yn gweld yr eitem yn y cwrs bellach os yw'ch ystod dyddiad newydd yn y dyfodol.
Ar gyfer rheolau uwch, rydych yn rheoli enw a meini prawf rheol ar wahân:
- Ewch i mewn i ddewislen eitem a dewiswch Rhyddhau Addasol: Uwch.
- Ar y Rhyddhau Addasol: Uwch dudalen, ewch i mewn i ddewislen rheol:
Dewiswch Rheoli i olygu enw’r rheol.
-NEU-
Dewiswch Golygu Meini Prawf i ychwanegu, golygu neu ddileu meini prawf.
-NEU-
Dewiswch Dileu i ddileu rheolau rhyddhau addasol uwch a sylfaenol.
Copïwch reol ryddhau addasol
Gallwch gopïo rheol ryddhau addasol sy’n bodoli yn hytrach na chreu un newydd. Ar ôl i chi gopïo'r rheol, gallwch newid yr enw a golygu'r rheol. Gallwch gopïo rheolau o fewn eitem unigol yn unig. Chewch chi ddim copïo rheol un eitem i eitem arall.
- Ewch i mewn i ddewislen eitem a dewiswch Rhyddhau Addasol: Uwch.
- Ar y Rhyddhau Addasol: Uwch dudalen, ewch i mewn i ddewislen rheol a dewiswch Copïo.
- Mae union gopi o'r rheol yn ymddangos ar waelod y rhestr. Mae gan y copi yr un enw â’r rheol wreiddiol ac mae’n dechrau gyda "Copi o."
- Yn newislen y rheol a gopïwyd, dewiswch Golygu Meini Prawf i wneud newidiadau i enw’r meini prawf.
Gwelededd eitemau gyda rheolau rhyddhau addasol
Os nad ydych yn creu unrhyw reolau rhyddhau addasol, bydd y cynnwys yn ymddangos i bob myfyriwr yn eich cwrs. Fodd bynnag, gallwch newid gwelededd eitem neu ychwanegu cyfyngiadau dyddiad pan fyddwch yn creu neu’n golygu’r eitem.
Ar ôl i chi sefydlu rheolau rhyddhau addasol ar gyfer eitem, cyfyngir gwelededd yr eitem honno i'r myfyrwyr hynny sy'n bodloni meini prawf y rheolau hynny yn unig.
Er enghraifft, rydych yn creu eitem o gynnwys o’r enw "Cyflwyniad" mewn ardal gynnwys. Ar yr adeg hon, mae’r holl fyfyrwyr yn gallu gweld yr eitem honno. Nesaf, rydych yn creu rheol sy’n cyfyngu’r eitem i aelodau Grŵp A yn unig. Nawr, dim ond aelodau o Grŵp A sy’n gallu gweld yr eitem—ni fydd pob myfyriwr arall yn eich cwrs yn ei gweld.
Nesaf, rydych yn ychwanegu maen prawf ychwanegol at y rheol hon sy'n ei gyfyngu i aelodau Grŵp A sydd wedi cael o leiaf 80 pwynt ar Brawf #1. Ni fydd myfyrwyr eraill, yn cynnwys aelodau Grŵp A sydd wedi cael llai na 80 ar y prawf, yn gweld yr eitem.
Os ydych yn creu rheol ryddhau addasol ond heb ddiffinio unrhyw feini prawf ar ei chyfer, mae’r cynnwys yn ymddangos i bob myfyriwr—hyd yn oed os nad ydych yn cysylltu unrhyw reolau eraill â'r eitem. Bydd un maen prawf gwag yn caniatáu i'r cynnwys ymddangos i bob myfyriwr.
Gweld argaeledd eitem yn ôl myfyriwr
Pan fyddwch yn creu nifer o reolau rhyddhau addasol, gall fod yn anodd i chi gofio pa fyfyrwyr sy’n gallu cael mynediad at bob darn o gynnwys. Gallwch weld pa eitemau sy’n ymddangos i fyfyrwyr penodol ar y tudalennau Cynnydd y Defnyddiwr a Dangosfwrdd Perfformiad.
Gallwch wirio a all myfyrwyr gael mynediad at eich cynnwys.
Os rydych wedi trefnu na fydd eitem ar gael, bydd y dudalen Cynnydd y Defnyddiwr yn dynodi nad yw’r eitem yn weladwy i fyfyrwyr. Mae'r tudalen Cynnydd Defnyddiwr hefyd yn rhestru rheolau rhyddhau addasol sy'n affeithio gwelededd eitem. Os byddwch yn galluogi statws adolygu ar gyfer eitem, gallwch wirio pa fyfyrwyr sydd wedi ei hadolygu a phryd.
- Ewch i mewn i ddewislen eitem a dewiswch Cynnydd Defnyddiwr.
- Ar y dudalen Cynnydd Defnyddiwr , dewiswch deitl colofn i roi trefn ar y cynnwys.
- Pan fyddwch wedi gorffen yr adolygiad, defnyddiwch y bar cyfeiriadaeth i lywio i dudalen blaenorol.
Tudalen Cynnydd y Defnyddiwr
Mae’r eiconau yn y golofn Gwelededd yn dangos a yw’r eitem yn weladwy i fyfyrwyr. Mae’r eicon Nid yw’n Weladwy yn dangos nad yw'r eitem yn weladwy i fyfyrwyr oherwydd rheol rhyddhau addasol neu osodiadau argaeledd yr eitem.
Mae tic yn y golofn Adolygwyd yn dangos bod y myfyriwr wedi dewis dolen Marc Adolygwyd yr eitem.
Gwirio cynnydd y defnyddiwr o'r Dangosfwrdd Perfformiad
Gallwch weld y statws adolygu ar y Dangosfwrdd Perfformiad.
Panel Rheoli > Gwerthuso > Dangosfwrdd Perfformiad
Mae'r rhifau yng ngholofn Statws Adolygu yn dangos nifer yr eitemau mae myfyriwr wedi'u nodi fel Adolygwyd.
Fel arall, dewiswch yr eicon rhyddhau addasol ar gyfer unrhyw fyfyriwr. Yn y ffenestr naid, mae eiconau yn dangos gwelededd eitemau i’r myfyriwr hwnnw. Mae eicon hefyd yn dangos statws adolygu unrhyw eitemau gyda gofyniad adolygu, os yn berthnasol.
Rhagor ynghylch y Dangosfwrdd Perfformiad
Rheolau rhyddhau addasol a chopi cwrs, archif, ac allgludo
Mae rheolau rhyddhau addasol a gwybodaeth cynnydd defnyddiwr wedi eu cynnwys gyda’r gweithrediadau hyn:
- Copi cwrs llawn sy’n cynnwys defnyddwyr
- Archifwch ac adferwch weithrediadau
Nid yw rheolau a gwybodaeth cynnydd wedi eu cynnwys gyda’r gweithrediadau hyn:
- Copi o ddeunyddiau cwrs i mewn i gwrs newydd
- Copi o ddeunyddiau cwrs i mewn i gwrs sy’n bodoli
- Gweithrediadau allgludo a mewngludo
Beth mae myfyrwyr yn ei weld?
Gyda’r nodwedd rhagolwg myfyrwyr, gallwch weld cwrs fel y gwna myfyriwr. Mae’r system yn creu cyfrif myfyriwr—cyfrif y defnyddiwr rhagolwg. Rydych wedi mewngofnodi fel y myfyriwr hwnnw ac wedi cofrestru ar y cwrs presennol. Gyda chyfrif y defnyddiwr rhagolwg, gallwch wirio eich rheolau rhyddhau addasol. Er enghraifft, gallwch farcio eitem fel un a adolygwyd i weld a allwch agor prawf yr uned.