Gweld a gwella hygyrchedd ffeil

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch i fyfyrwyr yn golygu eu bod pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.

Mae Ally yn sganio cynnwys eich cyrsiau'n awtomatig ac yn cwblhau camau i wneud ffeiliau'n fwy hygyrch.

Dechrau arni gydag Ally

  1. Yn eich cwrs, dewch o hyd i'r ffeil rydych am ei gwella.
  2. Nesaf at enw'r ffeil, bydd eicon yn ymddangos i ddangos sgôr hygyrchedd y ffeil yn sydyn. Hofrwch dros yr eicon i weld y sgôr. Lleolir eiconau hygyrchedd ffeiliau yn agos at eich ffeil bob amser, ond bydd y lleoliad penodol yn amrywio ar draws gwahanol feysydd yn eich cwrs. Trwy gydol Blackboard Learn, bydd mwyafrif yr eiconau hygyrchedd i'r chwith o'r ffeil.
  3. I ddysgu sut i wella hygyrchedd y ffeil, dewiswch eicon y sgôr.
  4. Bydd Ally yn agor ac yn dangos camau i chi am sut i olygu'ch ffeil er mwyn gwella'i hygyrchedd a'i hoptimeiddio ar gyfer fformatau amgen.

Sut mae gwella hygyrchedd yng nghynnwys cyrsiau

Nid yw myfyrwyr yn gweld sgôr hygyrchedd y ffeil. Yn hytrach, gall myfyrwyr ddewis y fformatau amgen mae Ally yn cynhyrchu ar gyfer y ffeil. Gallwch helpu Ally i greu fformatau amgen gwell trwy ddilyn arferion gorau ar gyfer creu ffeiliau hygyrch.

Gweld fformatau amgen

Ar ôl ichi atodi ffeiliau at gwrs, bydd Ally yn creu fformatau amgen o'r ffeil yn seiliedig ar y ffeil wreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r ffeil wreiddiol, bydd Ally yn creu fformat sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r ffeil wreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.

Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar fath y ffeil wreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, nid yw Ally wedi'i alluogi ar gyfer y cwrs hwnnw neu ni chefnogir y math hwnnw o gynnwys.

Dod o hyd i ffeil yn eich cwrs. Dewiswch y ddewislen nesaf at y ffeil a dewiswch Fformatau Amgen. Dewiswch y fersiwn sydd orau i'ch anghenion chi! Dewiswch Lawrlwytho i gadw'r fformat amgen ar eich dyfais.

student view of Download alternative formats modal

Rhagor am fformatau amgen cynnwys cyrsiau