Beth yw cyfuniad?
Ble bynnag gallwch ychwanegu a fformatio testun yn eich cwrs, gallwch ychwanegu cyfryngau cymdeithasol o wefannau eraill at eich cynnwys. Enw’r elfennau cyfryngau cymdeithasol hyn sy'n ymddangos mewn cwrs yw "cyfuniadau". Mae cyfuniad yn cyfuno elfennau o ddwy ffynhonnell neu fwy. Er enghraifft, pan rydych yn gwylio fideo YouTube™ fel rhan o gynnwys y cwrs, rydych yn gweld cyfuniad.
Gallwch ychwanegu cyfuniadau at gwestiynau prawf, trafodaethau, aseiniadau, neu fel darn unigol o gynnwys. Gallwch ychwanegu clip o ffilm neu lun mewn dyddlyfr, blog neu wici.
Mathau o gyfuniadau
Rydych chi a'ch sefydliad yn rheoli pa fathau o gyfuniadau sy’n ymddangos yn y golygydd. Yn gyffredinol, mae'r ddewislen yn cynnwys y mathau hyn:
- Flickr®: Rhannu delweddau ffotograffig.
- SlideShare: Rhannu cyflwyniadau sleidiau, dogfennau, neu Bortffolios Adobe PDF.
- YouTube: Rhannu fideos ar-lein.
- Dropbox: Rhannu ffeiliau o'ch cyfrif Dropbox.
Ychwanegu cyfuniadau yn y golygydd
Lle bynnag rydych eisiau ychwanegu elfen cyfryngau cymdeithasol, cyrchwch y golygydd. Dewiswch yr eicon Ychwanegu Cynnwys a dewiswch y math rydych eisiau chwilio amdano, megis Fideo YouTube.
Ar y dudalen chwilio, teipiwch eich allweddeiriau a dewiswch Ewch. Byddwch yn derbyn rhestr eitemau y gallwch eu didoli. Gallwch weld hefyd faint o eitemau a thudalennau a ddychwelir ar gyfer eich chwiliad.
Pan mae Rhagolwg ar gael, gallwch weld yr eitemau yn eu ffenestri eu hunain. Gallwch hefyd gael rhagflas o fideos gyda'r URL a restrir yn y disgrifiadau.
Ar ôl i chi edrych trwy ganlyniadau'r chwilio, dewiswch eitem. Gallwch newid teitl yr eitem os nad ydych yn hoffi'r un a ddarperir.
Gosod opsiynau cyfuniadau
Gallwch ddewis sut fydd cyfuniad yn ymddangos ar y sgrin:
- Plannu: Mae'r cyfuniad yn ymddangos yn uniongyrchol ar y sgrin.
- Mân-lun: Bydd llun bach o'r cyfuniad yn ymddangos gydag opsiwn Gwylio.
- Dolen Testun â'r Chwaraeydd: Mae dolen i'r cyfuniad yn ymddangos. Nid yw'r opsiwn hwn yn ymddangos ar gyfer lluniau. Fodd bynnag, gallwch osod maint y llun.
Dewiswch Ie ar gyfer Dangos URL i greu dolen at y wefan. Ar gyfer fideos YouTube, Dewiswch Na os nad ydych am ddangos fideos a awgrymir ar ddiwedd y chwarae.
Dewiswch Ie ar gyfer Dangos gwybodaeth i ddangos hyd y cyfuniad, enw'r crëwr, a dyddiad a ychwanegwyd y cyfuniad.
Cyn i chi gyflwyno, dewiswch Rhagolwg i weld sut fydd y cyfuniad yn ymddangos yn eich cynnwys. Caewch ffenestr y rhagolwg i wneud newidiadau.
Gall y wefan wreiddiol newid URL cyfuniad neu ei ddileu, a fydd yn achosi gwall yn eich cwrs.
Ychwanegu cyfuniadau o'r ddewislen Adeiladu Cynnwys
Mewn ardal gynnwys, modiwl dysgu, cynllun gwers, neu ffolder, gallwch hefyd ychwanegu elfen cyfryngau cymdeithasol o'r ddewislen Adeiladu Cynnwys. Pan fyddwch yn ychwanegu cyfryngau cymdeithasol o'r ddewislen, bydd yr elfen yn ymddangos fel darn unigol o gynnwys.
Ar ôl i chi gyflwyno, bydd y mashup yn ymddangos yn y rhestr gynnwys. Gallwch newid cynnwys y cyfuniad ar unrhyw adeg. Agorwch ddewislen y cyfuniad a dewiswch Golygu.
Gosodiad preifatrwydd
Nid yw fideo heb ei restru'n ymddangos wrth chwilio YouTube, a'r unig ddefnyddwyr sy'n gallu cael mynediad at y fideo yw'r sawl sy'n gwybod y ddolen. Fodd bynnag, nid oes modd sicrhau preifatrwydd llwyr. Mae'r gosodiad heb ei restru'n caniatáu i awduron gyhoeddi a rhannu fideos yn hawdd heb fod angen dewis yn benodol pwy all wylio'r fideo. Os oes gan ddefnyddwyr fynediad i le y cyhoeddir y fideo, gallant ei wylio. Gallant ddewis y logo YouTube ar y fideo hefyd sy'n caniatáu iddynt weld y fideo heb ei restru ar youtube.com hefyd.
Gallwch newid y gosodiad preifatrwydd i Preifat. O'r llyfrgell fideo, golygwch y fideo i'w wneud yn breifat yng ngosodiadau golygu clip YouTube.com. Os ydych yn gwneud fideo'n breifat, y defnyddwyr yn unig rydych yn eu cynnwys yn benodol, ac sydd â chyfrif Google all ei wylio. Mae fideos preifat yn ymddangos yn y llyfrgell gyda chlo nesaf atynt. Yr awdur a gwylwyr penodedig yw'r unig rai a all wylio fideos preifat.