Yn eich cyrsiau Blackboard, gallwch ychwanegu amrywiaeth o gynnwys, megis darlithoedd ar-lein, amlgyfryngau, profion, aseiniadau, a dolenni i wefannau a chyfryngau cymdeithasol.
Dewislenni ar gyfer ychwanegu cynnwys
Mae eich sefydliad yn rheoli pa swyddogaethau ac offer sydd ar gael ym mhob cwrs. Gallwch reoli argaeledd offer yn eich cwrs ar y Panel Rheoli > Addasu > Argaeledd yr Offer.
Mewn maes cynnwys, modiwl dysgu, cynllun gwers, neu ffolder, dewiswch un o'r dewislenni i weld y mathau o gynnwys.
Sicrhewch fod Modd Golygu YMLAEN er mwyn i chi allu cael mynediad at holl swyddogaethau hyfforddwr.
Mae'r tabl hwn yn disgrifio'r deunyddiau y gallwch eu hychwanegu o bob dewislen. Defnyddiwch y wybodaeth i benderfynu pa fath o gynnwys sy'n briodol ar gyfer pob darn o'ch cynnwys.
Math o Gynnwys | Disgrifiad |
---|---|
Dewislen adeiladu cynnwys | |
Eitem | Gallwch greu eitem i gyflwyno cyfuniad o gynnwys. Gallwch hefyd ddefnyddio'r swyddogaethau yn y golygydd i fformatio testun, atodi ffeiliau, ymgorffori amlgyfryngau, a mewnosod hafaliadau, dolenni a thablau. Mae gennych reolaeth greadigol dros sut mae'ch cynnwys yn ymddangos a'r hyblygrwydd i newid y drefn a'r ymddangosiad pan fyddwch ei eisiau. Yn eich cwrs, mae'r holl ddeunyddiau rydych chi'n eu hychwanegu wedi'u cyflwyno gyda'i gilydd yn y rhestr gynnwys. Efallai y bydd angen i fyfyrwyr sgrolio i fyny ac i lawr i weld y cynnwys a'r rhestr gynnwys. |
Ffeil | Gallwch greu dolen i ffeil yn y rhestr gynnwys. Ni allwch ychwanegu disgrifiad â'r ddolen, felly rydych chi am fod yn siŵr o ddefnyddio teitl ystyrlon. Er enghraifft, cynhwyswch "Maes Llafur" yn y teitl. Gallwch ddewis a yw defnyddwyr yn edrych arno fel tudalen o fewn y cwrs neu mewn ffenestr porwr ar wahân. Mae angen i fyfyrwyr lawrlwytho rhai mathau o gynnwys megis dogfennau Word er mwyn gweld y cynnwys. Mae'r math hwn o gynnwys yn arbed lle ar y sgrîn ac yn lleihau sgrolio. Hefyd gallwch greu ffeil HTML yn eich cwrs y gall myfyrwyr ei hagor mewn ffenestr neu tab newydd yn y porwr. Neu, lanlwythwch gasgliad o ffeiliau, gan gynnwys taflenni dull rhaeadru (CSS) fel y gall myfyrwyr eu gweld yn y drefn ragnodedig ac â'ch dyluniad. |
Sain Delwedd Fideo |
Gallwch uwchlwytho ffeiliau amlgyfrwng oddi ar eich cyfrifiadur neu bori archif ffeiliau'r cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys. |
Dolen Gwe | Gallwch gysylltu â gwefan neu adnodd allanol. |
Modiwl Dysgu | Mae modiwl dysgu yn gynhwysydd cynnwys sy'n caniatáu i fyfyrwyr lywio trwy'r cynnwys oddi ar dabl cynnwys. Gallwch ychwanegu pob math o gynnwys fel eitemau cynnwys, atodiadau ffeil, dolenni i wefannau, profion, aseiniadau, ac amlgyfryngau. |
Cynllun Gwers | Mae cynllun gwers yn gynhwysydd cynnwys sy'n dal yr eitemau cynnwys y mae arnynt eu hangen ar fyfyrwyr i gwblhau gwers. Hefyd gallwch ychwanegu proffiliau gwersi, amcanion cyfarwyddol, deunyddiau gofynnol, a mwy. |
Maes llafur | Gallwch atodi ffeil maes llafur cyfredol neu adeiladu maes llafur cwrs wrth gerdded drwy cyfres o gamau. |
Dolen Cwrs | Gallwch greu llwybr byr i eitem, offeryn neu ardal yn eich cwrs ar gyfer mynediad cyflym i ddeunyddiau perthnasol. |
Pecyn Cynnwys (SCORM) | Gallwch ychwanegu cynnwys dysgu seiliedig ar y we o'r enw SCO neu Gwrthrych Cynnwys Rhanadwy. Mae'r SCOs hyn yn cael eu casglu at ei gilydd mewn ffeil wedi'i chywasgu a'i sipio, o'r enw pecyn cynnwys. Gellir dadbacio a chwarae'r ffeil wedi'i sipio trwy chwaraewr cynnwys. Yn nodweddiadol, darperir cydrannau unigol neu becynnau cyfan i chi gan ysgolion, cwmnïau preifat neu ffynonellau eraill. |
Ffolder Cynnwys | Gallwch drefnu cynnwys mewn ffolderi ac is-ffolderi. Defnyddiwch ffolderi i leihau sgrolio a helpu myfyrwyr i ddod o hyd i ddeunyddiau'n hawdd. |
Tudalen y Modiwl | Mae tudalen modiwl yn dudalen cynnwys arbenigol sy'n cyflwyno cynnwys mewn blychau, fel ar dudalen Hafan cwrs. Gall myfyrwyr gadw golwg ar dasgau, profion, aseiniadau a chynnwys newydd a grëwyd yn y cwrs. Allwch chi ddim ychwanegu’ch cynnwys eich hun at dudalennau modiwl. Mae'r system yn cynhyrchu'r wybodaeth ym mhob modiwl. |
Tudalen Wag | Gallwch gynnwys ffeiliau, delweddau a thestun gyda'i gilydd ar un tudalen. Gyda’r golygydd, mae gennych reolaeth greadigol dros sut mae'ch cynnwys yn ymddangos a'r hyblygrwydd i newid y drefn a'r ymddangosiad pan fyddwch yn ei ddymuno. Mae myfyrwyr yn dewis y teitl yn y rhestr gynnwys i weld y cynnwys. Nid oes disgrifiad yn ymddangos gyda'r teitl, felly dylech wneud yn siŵr y defnyddiwch deitl ystyrlon. Mae'r math hwn o gynnwys yn arbed lle ar y sgrîn ac yn lleihau sgrolio. |
Cyfuniadau | Gallwch ddefnyddio cyfuniadau i bori am ac ychwanegu elfennau cyfryngau cymdeithasol o wefannau eraill.
|
Dewislen asesiadau | |
Prawf | Gallwch greu profion i asesu gwybodaeth myfyrwyr. Gallwch ychwanegu mathau o gwestiynau, fel Aml-ddewis, Gwir/Gau, Cyfateb, Wedi’u Cyfrifo, a Thraethawd. |
Arolwg | Profion heb eu graddio yw arolygon. Defnyddiwch arolygon i gasglu barn myfyrwyr a chynnal arfarniadau dosbarth. Mae canlyniadau arolwg yn ddienw. |
Aseiniad | Gallwch greu gwaith cwrs graddedig, a rheoli'r graddau a'r adborth ar gyfer pob myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr. |
Hunanasesiad ac Asesiad gan Gyfoedion | Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr adolygu gwaith eu cyd-ddisgyblion trwy werthuso seiliedig ar feini prawf ac adborth adeiladol. |
Aseiniad McGraw-Hill | Gallwch adeiladu aseiniadau addasedig o werslyfrau ac adnoddau McGraw-Hill. |
Dewislen offer | |
Dolenni i offeryn unigol | Gallwch ddarparu dolenni i offer sy'n agos i gynnwys cysylltiedig. Er enghraifft, gallwch ychwanegu ffeil i fyfyrwyr ei darllen mewn maes cynnwys. Yna, os ydych am iddynt ymateb mewn trafodaethau, ychwanegwch ddolen offeryn yn y maes cynnwys er mwyn cyfranogi’n hawdd yn y drafodaeth. |
Dolen i’r Maes Offer | Gallwch ddarparu rhestr o'r holl offer sydd ar gael. |
Dewislen Cynnwys Partner | |
Chwilio am Werslyfr | Gallwch gynnwys gwybodaeth am y gwerslyfrau a ddefnyddir yn eich cwrs. Mae gwybodaeth y gwerslyfr hefyd yn gynwysedig yng nghatalog y cwrs lle gall darpar fyfyrwyr gyrchu'r wybodaeth cyn ymrestru. |
Cofnodi Gwerslyfr â Llaw | Os na fydd eich chwiliad yn dychwelyd y canlyniad rydych ei eisiau, gallwch ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol. |
Marchnad Gynnwys | Darganfod cynnwys gan ddarparwyr a chyhoeddwyr trydydd parti i wella'ch cwrs heb orfod adeiladu cynnwys o'r dechrau. |