Ynglŷn â ffeiliau ac amlgyfrwng
Gallwch ychwanegu ffeiliau, delweddau, sain a fideo pan fyddwch yn creu cynnwys yn eich cwrs. Er enghraifft, mewn trafodaethau, gallwch bori am glip cyfryngau o'ch cyfrifiadur neu gronfa ffeiliau'ch cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.
Rhagor am y Casgliad o Gynnwys
Yn seiliedig ar y math o gynnwys, gallwch ddefnyddio'r swyddogaethau yn y golygydd i blannu cynnwys yn eich testun. Mae gennych reolaeth greadigol dros sut mae'ch cynnwys yn ymddangos a'r hyblygrwydd i newid y drefn a'r ymddangosiad pan fyddwch ei eisiau.
Mewn rhai achosion, gallwch bori am ffeiliau mewn adran atodiadau ar wahân. Efallai gallwch hefyd llusgo a gollwng ffeiliau o'ch cyfrifiadur yn yr ardal Atodiadau. Llusgwch ffeiliau o'ch cyfrifiadur i'r "ddolen glicio" yn ardal Atodi Ffeiliau. Os yw'ch porwr yn ei ganiatáu, gallwch hefyd lusgo ffolder o ffeiliau. Bydd y ffeiliau'n uwchlwytho'n unigol. Os nad yw’ch porwr yn caniatáu i chi gyflwyno ar ôl uwchlwytho ffolder, dewiswch Peidiwch â'i atodi yn rhes y ffolder i'w thynnu. Gallwch lusgo'r ffeiliau'n unigol a'u cyflwyno eto.
Y fformatau a gefnogir ar gyfer plannu delweddau yw PNG, GIF, JPG, SVG, BMP ac ICO. Ar gyfer sain, cefnogir y fformatau MP3 a WAV, ac MP4 ac MOV ar gyfer fideo.
Gallwch ychwanegu cyfryngau cymdeithasol o wefannau eraill at eich cynnwys hefyd. Enw’r elfennau cyfryngau cymdeithasol hyn sy'n ymddangos mewn cwrs yw "cyfuniadau". Mae cyfuniad yn cyfuno elfennau o ddwy ffynhonnell neu fwy. Er enghraifft, pan rydych yn gwylio fideo YouTube™ fel rhan o gynnwys y cwrs, rydych yn gweld cyfuniad.
Neu, defnyddiwch y ddewislen Adeiladu Cynnwys i blannu cynnwys amlgyfrwng fel eitemau unigol yn y rhestr cynnwys.
Ychwanegu ffeiliau at eich cynnwys
Ble bynnag y gallwch ychwanegu ffeiliau yn eich cwrs, gallwch bori am ffeiliau o'ch cyfrifiadur neu gronfa ffeiliau'ch cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.
Pan ddefnyddiwch y swyddogaeth Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd gallwch bennu ble yn union mae dolen y ffeil yn ymddangos yn eich cynnwys. Pan ddefnyddiwch yr adran Atodiadau, bydd y ffeil yn ymddangos yn syth ar ôl teitl yr eitem gynnwys.
Rhagor am ddulliau ychwanegu ffeiliau
Mae'r ffenestri Pori Cwrs a Pori'r Casgliad o Gynnwys yn cynnwys tabiau a swyddogaethau fel y gallwch bori a chwilio am ffeiliau'n hwylus.
A. Tabiau Pori, Uwchlwytho, a Chwiliad Uwch:
- Porwch am ffolderi mae gennych fynediad atynt. Os oes gennych Ffeiliau Cwrs, mae gennych fynediad at y ffeiliau ar gyfer y cwrs rydych ynddo yn unig. Gyda'r Casgliad o Gynnwys, efallai y bydd modd i chi gyrchu ffeiliau ar gyfer cyrsiau eraill a'r ffeiliau hynny a rennir ar draws y sefydliad.
- Uwchlwytho un ffeil, ffeiliau lluosog, neu becyn a sipiwyd.
- Gwnewch chwiliad uwch. Gallwch chwilio enwau ffeiliau a ffolderau, metadata, cynnwys ffeiliau, dyddiadau creu, a mwy.
B. Gweld Rhestr a Gweld Mân-luniau: Edrychwch ar ffeiliau a ffolderi fel rhestr o enwau ffeil neu fel eiconau mân-lun.
C. Briwsion bara: Llywio i ffolderau eraill. Defnyddiwch yr eicon Dewis i ddefnyddio'r lleoliad ffolder presennol i gysylltu'r ffolder sy'n ymddangos olaf yn y briwsion bara yn eich cwrs. Noder bod y ffolder yn ymddangos yn yr ardal Dewis Eitemau.
Ch. Chwilio Cynnwys: Gwnewch chwiliad sylfaenol ar gyfer enwau ffeil a ffolder.
D. Defnyddiwch y blychau ticio i ddewis ffeiliau a ffolderau i'w cynnwys yn eich eitem gynnwys. Gallwch ddewis blwch ticio'r pennyn i ddewis pob eitem weladwy. Pan fyddwch yn cysylltu â ffolder, byddwch yn ofalus gan fod myfyrwyr yn derbyn y caniatâd darllen yn ddiofyn ar holl gynnwys y ffolder. Mae caniatâd darllen yn caniatáu i fyfyrwyr weld yr holl ffeiliau ac is-ffolderi yn y ffolder a ddewiswyd.
Dd. Eitemau a Ddewiswyd.
Yn y rhan fwyaf o borwyr, gallwch ddewis y lleoliad mae’r ffeiliau rydych yn eu hagor yn cael eu lawrlwytho iddo. Er enghraifft, yn Chrome, llywiwch i Settings > Advanced > Downloads. Gallwch ddewis y lleoliad ar gyfer lawrlwytho ffeiliau a dewis os ydych eisiau i'r porwr ofyn bob tro. Yn Safari, mae gennych yr un galluoedd. Llywiwch i Preferences > General > File download location. Gallwch chwilio ar y rhyngrwyd i ddysgu am ddewisiadau lawrlwytho ffeiliau ym mhorwyr eraill.
Uwchlwytho cynnwys o Dropbox
Os yw'ch sefydliad wedi galluogi integreiddiad Dropbox Education, gallwch chi a’ch myfyrwyr greu dolen uniongyrchol i’ch cynnwys Dropbox ym mwyafrif yr ardaloedd cynnwys â nodwedd Ychwanegu Cynnwys y golygydd cynnwys. Gall myfyrwyr uwchlwytho ffeiliau'n uniongyrchol o Dropbox wrth gyflwyno aseiniadau.
Pan fyddwch yn defnyddio Dropbox Education am y tro cyntaf o Blackboard Learn, gofynnir i chi naill ai greu cyfrif neu ddilysu'ch cyfrif cyfredol. Ar ôl mewngofnodi, porwch Dropbox a dewiswch gynnwys.
Ychwanegu delweddau yn y golygydd
Gallwch bennu lle mae delweddau'n ymddangos mewn perthynas â'ch testun. Gallwch roi'r cyrchwr lle rydych eisiau rhoi’r ddelwedd a dewis yr eicon Ychwanegu Cynnwys. Yn y ffenestr newydd, dewiswch un o’r Offer Cyffredin neu'r Offer Ychwanegol sydd ar gael yn ôl y math o gynnwys rydych yn ei greu, wedyn porwch am y ffeil delwedd.
Gallwch ailfeintio delwedd. Ar ôl creu delwedd, pwyswch a llusgwch gorneli neu ochrau delwedd. Gallwch hefyd olygu delwedd â'r ddewislen de-glicio, addasu ei maint mewn picseli â llaw ac ychwanegu teitl a fydd yn ymddangos pan fydd defnyddiwr yn pwyntio ati.
Ni fydd copïo a gludo dolenni o’r bar URL i Ddelweddau, ffeiliau PDF neu Ffeiliau eraill yn y casgliad o gynnwys yn gweithio. Mae'r URLau hyn ar gael dros dro a byddant yn torri’n nes ymlaen.
Gallwch ychwanegu'r mathau cyffredin o ddelweddau megis GIF, JPG, JPEG, BMP, PNG, a TIF.
Ychwanegu Delweddau yn y ddewislen Adeiladu Cynnwys
Gallwch blannu delwedd fel ei bod yn ymddangos fel darn unigol o gynnwys yn y rhestr gynnwys.
Mewn ardal gynnwys, modiwl dysgu, cynllun gwers, neu ffolder, dewiswch Adeiladu Cynnwys i gyrchu'r ddewislen a dewis Delwedd. Teipiwch enw, disgrifiad dewisol, a thestun amgen. Dewiswch yr opsiynau priodol ar gyfer dimensiynau, argaeledd, tracio a dyddiadau arddangos. Nid yw dyddiadau arddangos yn effeithio ar argaeledd delwedd, dim ond pan fydd yn ymddangos.
Bydd pob ffeil, delwedd dolen neu gyfryngau eraill a fewnosodwyd yn cael eu mewnosod mewn “llinell newydd” i sicrhau nad yw eitemau a fewnosodwyd yn olynol yn gwrthdaro. Crëir Toriadau Llinell pan fewnosodir delwedd mewn llinell testun sydd eisoes yn bodoli. I wneud i’r testun hwn lifo o amgylch y ddelwedd, dilëwch y toriadau llinell.
Porwch am ffeil ddelwedd o'ch cyfrifiadur neu ystorfa ffeiliau eich cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys. Os yw’r swyddogaeth Ychwanegu Cynnwys ar gael, gallwch hefyd bori am lun Flickr. Gallwch weld rhagolwg o'r ddelwedd cyn ei chyflwyno.
Ar ôl i chi gyflwyno, bydd y teitl a'r ddelwedd yn ymddangos yn y rhestr gynnwys. Gallwch newid y cynnwys unrhyw bryd. Agorwch ddewislen y ddelwedd a dewiswch Golygu.
Gallwch newid ble mae'r eitem yn ymddangos yn y rhestr gyda'r swyddogaeth llusgo a gollwng neu'r offeryn aildrefnu bysellfwrdd hygyrch.
Ychwanegu ffeiliau sain ac amlgyfrwng yn y golygydd
Pan fyddwch yn creu cynnwys, gallwch bennu ble mae clipiau cyfryngau'n ymddangos mewn perthynas â'ch testun. Dewiswch yr eicon Ychwanegu Cynnwys i blannu clip cyfryngau yn yr ardal testun neu i olygu eitem cyfryngau a ddewiswyd eisoes. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ddewislen de-glicio i olygu rhai priodweddau clip cyfryngau presennol sydd wedi'i ddewis.
Mae Blackboard Learn yn cefnogi'r mathau hyn o ffeiliau cyfryngau:
- Sain: AIFF, MP3, MIDI, MP, WAV, a WMA
- Fideo: ASF, AVI, MOV, MOOV, MPG, MPEG, QT, SWA, SWF, a WMV
Gosodiadau cyfryngau
Â’r ddewislen de-glicio, gallwch olygu priodweddau clip cyfryngau presennol sydd wedi'i ddewis.
O’r ddewislen, gallwch ddewis y priodweddau Cyffredinol, Plannu neu Uwch. Y priodweddau Cyffredinol y gallwch eu golygu yw ffynhonnell a dimensiynau'r fideo (lled ac uchder) mewn picseli. Os nad yw wedi'i osod, bydd y maint go iawn yn cael ei ddefnyddio. Os ydych yn dewis yr eicon clo i Cyfyngu ar Gyfraneddau ac yn ychwanegu mesur, bydd y ddelwedd yn cael ei hailfeintio heb afluniad llorweddol neu fertigol.
Mae'r dewis priodweddau Plannu yn dangos ardal testun lle gallwch ysgrifennu neu addasu’r cod HTML plannu ar gyfer y fideo i'w ddangos. Mae’r nodwedd hon ar gyfer datblygwyr gwe profiadol.
Mae’r priodweddau Uwch yn cynnwys ffynhonnell amgen neu URLau delweddau.
Gosodiadau delweddau
Nid yw’r gosodiadau delweddau canlynol ar gael yn y golygydd cynnwys bellach. Er mwyn dangos y gosodiadau hyn, ychwanegwch ffeil y ddelwedd o’ch cyfrifiadur, er enghraifft, gan ddefnyddio'r adran Atodiadau. Pan fydd y ffeil a ddewiswyd gennych wedi cael ei huwchlwytho ac yn weladwy, dewiswch yr opsiwn Arddangos Ffeil Gyfryngau ar y dudalen o’r ddewislen Gweithred Ffeil.
Gallwch ychwanegu testun amgen sy'n disgrifio'r ddelwedd ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin neu sy'n ymweld â thudalennau gwe gyda delweddau wedi'u diffodd. Gallwch hefyd ychwanegu teitl sy'n ymddangos pan fydd defnyddiwr yn pwyntio at ddelwedd.
Gallwch reoli lleoliad a golwg y ddelwedd. Defnyddir picseli ar gyfer dimensiynau, bylchau a lled y border. Gallwch hefyd ychwanegu URL targed er mwyn i'r ddelwedd ymddwyn fel dolen a phenderfynu a fydd y dudalen darged yn agor mewn ffenestr newydd.
Ychwanegu recordiad adborth
Gallwch blannu recordiad sain/fideo o'ch adborth yn y golygydd wrth ichi raddio ymgeisiau. Mae'r opsiwn recordio yn ymddangos yn y golygydd adborth ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau a raddir yn eich cwrs. Mae myfyrwyr yn gwylio neu'n gwrando ar eich adborth ochr yn ochr ag unrhyw destun a gynhwysir gennych.
Ni chefnogir y swyddogaeth hon ar bob porwr. Am y profiad gorau, defnyddiwch Chrome neu Firefox.
Rhagor am ychwanegu adborth sain/fideo
Ychwanegu sain a fideo yn y ddewislen Adeiladu Cynnwys
Gallwch blannu sain a fideo fel eu bod yn ymddangos fel darnau unigol o gynnwys yn y rhestr gynnwys.
Mewn ardal gynnwys, modiwl dysgu, cynllun gwers, neu ffolder, dewiswch Adeiladu Cynnwys i gyrchu'r ddewislen a dewiswch Sain neu Fideo. Teipiwch enw, disgrifiad yn ddewisol, a dewiswch yr opsiynau priodol ar gyfer dimensiynau, argaeledd, tracio a dyddiadau arddangos. Nid yw dyddiadau arddangos yn effeithio ar argaeledd cyfryngau, dim ond pan fydd yn ymddangos.
Porwch am ffeil sain neu fideo o'ch cyfrifiadur neu gronfa ffeiliau'ch cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys. Os yw’r swyddogaeth Ychwanegu Cynnwys ar gael, gallwch hefyd bori am fideo YouTube. Gallwch weld rhagolwg o'r clip cyfryngau cyn ei chyflwyno.
Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys trawsgrifiad fel bod myfyrwyr na allant glywed yn gallu derbyn yr un wybodaeth. Porwch eich cyfrifiadur i atodi eich ffeil trawsgrifiad eich hun. Os yw'r fideo'n ffeil MPEG, gallwch ddefnyddio'r maes Cynnwys Trawsgrifiad i ychwanegu ffeil trawsgrifiad SAMI.
Ar ôl i chi gyflwyno, bydd y teitl, trawsgrifiad a'r clip cyfryngau'n ymddangos yn y rhestr gynnwys. Gallwch newid y cynnwys unrhyw bryd. Agorwch ddewislen yr eitem a dewiswch Golygu.
Gallwch newid ble mae'r clip cyfryngau'n ymddangos yn y rhestr gyda'r swyddogaeth llusgo a gollwng neu'r offeryn aildrefnu bysellfwrdd hygyrchedd.
Os nad yw math o ffeil fideo wedi'i gefnogi ac nid yw'n ymddangos wedi'i blannu, gall myfyrwyr lawrlwytho'r ffeil i'w gwylio.
Ally yn Learn - Hyfforddwr
Gweld a gwella hygyrchedd ffeil
Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch i fyfyrwyr yn golygu eu bod pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.
Mae Ally yn sganio cynnwys eich cyrsiau'n awtomatig ac yn cwblhau camau i wneud ffeiliau'n fwy hygyrch.
- Yn eich cwrs, dewch o hyd i'r ffeil rydych am ei gwella.
- Nesaf at enw'r ffeil, bydd eicon yn ymddangos i ddangos sgôr hygyrchedd y ffeil yn sydyn. Hofrwch dros yr eicon i weld y sgôr. Lleolir eiconau hygyrchedd ffeiliau yn agos at eich ffeil bob amser, ond bydd y lleoliad penodol yn amrywio ar draws gwahanol feysydd yn eich cwrs. Trwy gydol Blackboard Learn, bydd mwyafrif yr eiconau hygyrchedd i'r chwith o'r ffeil.
- I ddysgu sut i wella hygyrchedd y ffeil, dewiswch eicon y sgôr.
- Bydd Ally yn agor ac yn dangos camau i chi am sut i olygu'ch ffeil er mwyn gwella'i hygyrchedd a'i hoptimeiddio ar gyfer fformatau amgen.
Sut mae gwella hygyrchedd yng nghynnwys cyrsiau
Nid yw myfyrwyr yn gweld sgôr hygyrchedd y ffeil. Yn hytrach, gall myfyrwyr ddewis y fformatau amgen mae Ally yn cynhyrchu ar gyfer y ffeil. Gallwch helpu Ally i greu fformatau amgen gwell trwy ddilyn arferion gorau ar gyfer creu ffeiliau hygyrch.
Gweld fformatau amgen
Ar ôl ichi atodi ffeiliau at gwrs, bydd Ally yn creu fformatau amgen o'r ffeil yn seiliedig ar y ffeil wreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r ffeil wreiddiol, bydd Ally yn creu fformat sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r ffeil wreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.
Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar fath y ffeil wreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, nid yw Ally wedi'i alluogi ar gyfer y cwrs hwnnw neu ni chefnogir y math hwnnw o gynnwys.
Dod o hyd i ffeil yn eich cwrs. Dewiswch y ddewislen nesaf at y ffeil a dewiswch Fformatau Amgen. Dewiswch y fersiwn sydd orau i'ch anghenion chi! Dewiswch Lawrlwytho i gadw'r fformat amgen ar eich dyfais.