Ychwanegu Tablau
Ychwanegu tablau yn y golygydd
Gallwch ychwanegu a fformatio tablau yn y golygydd. Mae'r golygydd yn ymddangos ble bynnag y gallwch ychwanegu testun, megis mewn aseiniadau, profion, trafodaethau, blogiau a chyfnodolion. Mae gennych reolaeth greadigol dros sut mae'ch cynnwys yn ymddangos a'r hyblygrwydd i newid y drefn a'r ymddangosiad.
Er mwyn sicrhau bod eich cynnwys yn hygyrch i bob defnyddiwr, defnyddiwch dablau i gyflwyno data yn unig yn hytrach nac at ddibenion cynllun neu gyflwyniad. Er enghraifft, mae defnyddwyr dall yn defnyddio darllenwyr sgrin i ddarllen testun ar y we yn uchel. Gall fod yn anodd i ddefnyddwyr ddeall gwybodaeth mewn tabl pan mae'n cael ei darllen gan ddarllenwyr sgrin.
Ym mlwch testun y golygydd, rhowch gyrchwr eich llygoden lle rydych eisiau ychwanegu tabl a dewiswch yr eicon Mewnosod/golygu tabl. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ddewislen de-glicio.
Mae mwyafrif nodweddion y tabl wedi'u llwydo allan a ddim ar gael oni bai eich bod yn cael mynediad at dabl cyfredol yn yr ardal destun.
I ailfeintio tabl, pwyswch a llusgwch gorneli neu ochrau tabl.
I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + OPT + F10. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis opsiwn.
Priodweddau’r tabl
Pan fyddwch yn ychwanegu tabl, gallwch osod nodweddion sylfaenol y tabl yn y tab Cyffredinol.
Mae'r system yn defnyddio picseli ar gyfer padio, bylchau a borderi. Gallwch ddefnyddio picseli neu ganran o'r lle sydd ar gael ar gyfer lled ac uchder y tabl. Os byddwch yn gadael y blwch uchder yn wag, caiff y tabl ei feintio'n awtomatig i ffitio'r cynnwys.
Os nad ydych yn dewis aliniad tabl, defnyddir aliniad y paragraff presennol.
Dewiswch y blwch ticio Dangos Capsiwn er mwyn i chi allu ychwanegu teitl sy'n ymddangos wedi'i ganoli dros eich tabl.
Tab uwch
Ar y tabl Uwch, gallwch osod priodweddau ychwanegol ar gyfer tabl o ddewislenni a blychau lliw. Gallwch hefyd ychwanegu gwybodaeth am y priodweddau hyn:
- Arddull border - Dewis o:
- Solet
- Dotiog
- Toredig
- Dwbl
- Rhigol
- Crib
- Tu mewn
- Tu allan
- Dim
- Cudd
- Lliw’r border: Dewiswch liw o’r dewisydd lliwiau, y palet neu ysgrifennwch god y lliw ar ôl y nod # i ddynodi lliw’r border.
- Lliw’r cefndir: Dewiswch liw o’r dewisydd lliwiau, y palet neu ysgrifennwch god y lliw ar ôl y nod # i ddynodi lliw’r cefndir.
Gosod priodweddau rhesi a chelloedd tabl
Gallwch osod paramedrau fformatio i reoli sut fydd cynnwys rhesi neu gelloedd tablau yn ymddangos. Dewiswch dabl ac wedyn dewiswch eicon Priodweddau Rhesi Tablau neu Priodweddau Celloedd Tablau. Gallwch hefyd ddewis rhes neu gell a defnyddio’r ddewislen de-glicio i ddangos unrhyw un o'r opsiynau hyn. Mae gan ffenestri priodweddau Rhes a Cell opsiynau Cyffredinol ac Uwch.
Ar y tab Cyffredinol, gallwch osod priodweddau sylfaenol ar gyfer rhesi a chelloedd, megis math, aliniad ac uchder. Os nad ydych yn gosod uchder ar gyfer y rhes, caiff y rhes ei meintio'n awtomatig i ffitio'r cynnwys.
Priodweddau Cyffredinol ar gyfer Rhesi:
- Math: Pennyn, Corff neu Droedyn
- Aliniad: Chwith, Canol, neu Dde
- Uchder: Yr uchder y dymunwch mewn picseli. Os bydd hyn yn wag, bydd yn defnyddio'r gwerth diofyn yn seiliedig ar faint y testun.
Bydd y tab Uwch yn cynnig yr un priodweddau â phriodweddau tablau.
Priodweddau Cyffredinol ar gyfer Celloedd:
- Lled: gallwch ei ddisgrifio mewn picseli neu fel canran
- Uchder: mae modd ei ddisgrifio mewn picseli neu fel canran
- Math o gell: Cell neu Bennyn
- Cwmpas: Dim, Rhes, Colofn, Grŵp rhesi neu Grŵp colofnau
- Alinio H (Llorweddol): Chwith, Canol neu Dde
- Alinio V (Fertigol): Chwith, Canol neu Dde
Bydd y tab Uwch yn cynnig yr un priodweddau â phriodweddau tablau, yn ogystal â gwerth Lled y border (mewn picseli).
Golygu tablau
Ym mlwch testun y golygydd, dewiswch dabl neu grŵp o gelloedd i alluogi'r swyddogaethau golygu tablau.
Opsiynau | Disgrifiad |
---|---|
Agor y ffenestr Mewnosod/Golygu Tabl. Os byddwch yn dewis yr eicon wrth fod mewn tabl, bydd tabl newydd yn cael ei greu o fewn yr un cyntaf. | |
Dilëwch y tabl a ddewiswyd ar hyn o bryd. | |
Agorwch y ffenestr Priodweddau’r Tabl. | |
Agorwch y ffenestr Priodweddau Rhesi Tablau. | |
Agor y ffenestr Priodweddau Celloedd Tablau. | |
Mewnosodwch res wag yn y tabl uwchben lleoliad pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd. | |
Mewnosodwch res wag yn y tabl ar ôl lleoliad pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd. | |
Dilëwch y rhes gyfredol o’r tabl. Os byddwch yn dewis sawl rhes, dilëir pob rhes a ddewiswyd. | |
Mewnosodwch golofn wag yn y tabl i'r chwith o leoliad pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd. | |
Mewnosodwch golofn wag yn y tabl i'r dde o leoliad pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd. | |
Dilëwch y golofn bresennol o’r tabl. Os byddwch yn dewis colofnau lluosog, dilëir pob un. |