Mathau o Ffeiliau a Gefnogir

Gallwch uwchlwytho atodiadau ffeil yn eich cwrs, megis i aseiniad. Mae defnyddwyr yn dewis agor dolen sy'n ymddangos yn y cwrs.

Ar ôl i chi uwchlwytho ffeil, mae'n bosib y byddwch dal yn gallu golygu enw'r ddolen i'r ffeil. Bydd teitl y ddolen yn ymddangos i ddefnyddwyr yn lle enw'r ddogfen. Er enghraifft, teipiwch "Fy Nghyflwyniad" fel teitl y ddolen yn hytrach nag enw'r ffeil "introduction.doc."

Nodau a dderbynnir mewn enwau ffeiliau

Mae Blackboard Learn yn caniatáu defnyddio pob nod mewn enwau ffeil. Fodd bynnag, gall system gweithredu a phorwr defnyddiwr gyfyngu ar y mathau o nodau a dderbynnir. Er enghraifft, nid yw rhai porwyr yn derbyn nodau sy'n fwy llydan. Efallai ni fydd gan rai porwyr yr ieithoedd cywir wedi'u gosod arnynt i ddangos nodau arbennig yr wyddor yn yr iaith honno.


Mathau o atodiadau ffeil a adnabyddir

Mae'r system yn adnabod nifer o fathau o ffeiliau yn ddiofyn. Mae'r ffeiliau hyn yn agor yn uniongyrchol yn y porwr neu mewn rhaglen gysylltiedig. Os nad yw'r system yn adnabod math y ffeil, gall defnyddwyr lawrlwytho'r ffeil atodedig a'i hagor ar eu cyfrifiadur eu hunain.

Rhaglenni'n gysylltiedig â mathau o ffeiliau
Estyniad Math o Ffeil Rhaglenni a Gysylltir â'r Math o Ffeil
AAM Amlgyfryngau Ategyn Macromedia® Authorware®

Y ffeil AAM yw pwynt cychwyn cyfres o ffeiliau y mae rhaid iddynt gael eu hamgáu mewn ffeil ZIP.
AIFF Sain Mae AIFF yn fformat sain cywasgedig. Mae ffeiliau AIFF yn dueddol o fod yn fawr.
ASF Amlgyfryngau Microsoft® .NET™ Show

Mae ffeiliau ASF yn gallu cynnwys sain, fideo, delweddau a thestun.
AU Sain Chwarewr Real Audio™
AVI Fideo Chwaraewr fideo - Windows yn unig
doc, docx Testun Microsoft® Word - prosesydd geiriau
EXE Gweithredadwy Rhaglenni yw ffeiliau gweithredadwy. Gallai rhai polisïau diogelwch rhwydwaith a muriau cadarn wahardd defnyddwyr rhag lawrlwytho ffeiliau gweithredadwy.

Os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn mwy newydd o Blackboard Learn, efallai ni fyddwch yn gallu uwchlwytho ffeiliau o'r math hwn. Cysylltwch â'ch gweinyddwr am gymorth.

GIF Delwedd Rhaglen graffeg neu borwr gwe
HTML, HTM Tudalen gwe Golygydd neu borwr HTML
JPG, JPEG Delwedd Rhaglen graffeg neu borwr gwe
JIF Delwedd Rhaglen graffeg neu borwr gwe
MP3 Sain Rhaglen sain
"MP4" Fideo Chwaraewr Fideo
MPE Sain/Fideo Rhaglen sain
MPG, MPEG Fideo Chwaraewr Fideo
MOOV, MOVIE Ffilm Ffilm QuickTime®
MOV Fideo Chwaraewr ffilm neu gyfryngau
NUMBERS Taenlen Apple Numbers®
PDF Testun Darllenydd Adobe® Acrobat®®
PNG Delwedd Golygydd graffeg neu borwr gwe
PPT, PPTX, PPS Sioe Sleidiau Microsoft® PowerPoint®, PowerPoint Player®
QT Ffilm QuickTime®
RA Sain Chwarewr Real Audio™
RAM Fideo Ffilm Real Audio™
RM Sain Rhaglen sain
RTF Testun Prosesydd geiriau
SWF Amlgyfryngau Ategyn Macromedia® Shockwave®
TIFF, TIF Delwedd Rhaglen graffeg neu borwr gwe
txt Testun Golygydd testun neu HTML, prosesydd geiriau
WAV Sain Rhaglen sain
WMA Sain Rhaglen sain
WMF Graffeg Microsoft® Windows®
xls, xlsx Taenlen Microsoft® Excel®
ZIP Pecyn cywasgedig WinZip®