Gallwch ychwanegu ffeiliau at eich cwrs mewn sawl ffordd, gan gynnwys pan fyddwch yn creu cynnwys cwrs. Pan fyddwch yn ychwanegu ffeiliau at eich cwrs, maent yn cael eu storio yng nghronfa ffeiliau'r cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.
Tri dull cyffredin o ychwanegu ffeiliau at eich cwrs
Gallwch ychwanegu pob math o ffeil at eich cynnwys. Yn ein henghreifftiau, rydym yn ychwanegu dogfen mewn tair ffordd.
- I reoli ble mae dolen ffeil yn ymddangos yn eich testun, defnyddiwch y golygydd i atodi ffeiliau wrth i chi greu cynnwys.
- Pan fyddwch yn creu cynnwys, atodwch ffeil yn yr adran Atodiadau.
- Ychwanegwch eich ffeiliau i Ffeiliau Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys CYN i chi greu cynnwys.
I reoli ble mae dolen ffeil yn ymddangos, defnyddiwch y golygydd i atodi ffeiliau wrth i chi greu cynnwys
Pan fyddwch yn defnyddio'r swyddogaeth Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd, ar ochr dde y panel Rheoli cynnwys, gallwch ddewis ble mae dolen y ffeil yn ymddangos yn eich cynnwys.
Gan ddibynnu ar y math o gynnwys, gallwch greu dolen i ffeiliau sydd eisoes yn Ffeiliau’r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys neu bori am un ar eich cyfrifiadur. Cedwir unrhyw ffeiliau rydych yn eu huwchlwytho o'ch cyfrifiadur yn yr ystorfa yn y ffolder lefel uchaf. Ni allwch ddewis y ffolder y mae'ch ffeiliau wedi'u lawrlwytho iddo.
Mantais: Mae gennych reolaeth greadigol am sut y mae eich cynnwys yn ymddangos. Os byddwch yn ychwanegu tair ffeil at eich casgliad cynnwys, gallwch rannu nhw ymysg y testun fel y mynnwch.
Enghraifft: Rydych yn rhoi tair astudiaeth achos i'ch myfyrwyr eu darllen. Rhaid iddynt ddewis un i ymchwilio ymhellach. Yn yr un eitem cynnwys, gallwch roi cyflwyniad a dolen ffeil ar gyfer pob astudiaeth achos. Gallwch ddefnyddio enw'r ffeil neu ddarparu teitl dolen ar gyfer pob un
Mae'r ffeiliau'n ymddangos: Mae'r dolenni i'r ffeiliau'n ymddangos yn union lle rydych yn dymuno. Wrth i chi fireinio'ch cynnwys neu mae angen i chi ddiweddaru deunyddiau, gallwch barhau i ychwanegu ffeiliau, delweddau ac amlgyfrwng. Mae hyblygrwydd gennych i newid y drefn a'r ymddangosiad fel y mynnwch.
Mwy am y swyddogaethau yn y golygydd
Pan fyddwch yn creu cynnwys, atodwch ffeil yn yr adran Atodiadau
Wrth i chi greu cynnwys, gallwch ychwanegu ffeil o'ch cyfrifiadur neu o gronfa ffeiliau'r cwrs: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.
Mantais: Gallwch uwchlwytho ffeiliau wrth i chi adeiladu'ch cwrs. Nid oes rhaid i chi lwytho eich deunyddiau i fyny'n gyntaf.
Enghraifft: Mae eich myfyrwyr yn profi anhawster gyda phrosiect grŵp. Gallwch gyflwyno mwy o gyfarwyddiadau a gofyn iddynt lawrlwytho ffeil gydag esiamplau penodol. Wrth i chi greu'r eitem cynnwys newydd, gallwch atodi ffeil. Os yw'r ffeil ar eich cyfrifiadur, gallwch ddewis y ffolder yn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys yr ydych eisiau uwchlwytho iddo.
Dewiswch Pori Cwrs neu Pori'r Casgliad o Gynnwys i ddod o hyd i'r ffeil ar eich cyfrifiadur a'i huwchlwytho. Fel arall, lleolwch y ffeil yn un o'r ffolderi yn eich ystorfa.
Mae'r ffeil yn ymddangos: Yn yr ardal gynnwys, mae'r ffeil rydych wedi'i huwchlwytho'n ymddangos yn syth ar ôl teitl yr eitem gynnwys. Ni allwch newid ble mae'r ddolen yn ymddangos. Gallwch ddefnyddio enw'r ffeil neu roi enw arall i'r ffeil.
Ychwanegwch eich ffeiliau i Ffeiliau Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys CYN i chi greu cynnwys
Uwchlwythwch ffeiliau a ffolderau i Ffeiliau Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys, naill ai un ar y tro neu mewn sypiau, gan ddefnyddio'r swyddogaethau llusgo a gollwng neu bori.
Mantais: Mewn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys, gallwch greu ffolderi i drefnu'ch cynnwys.
Enghraifft: Rydych yn penderfynu cyflwyno cynnwys i'ch myfyrwyr ar gyfer pob wythnos. Ar ddewislen y cwrs, gallwch ychwanegu dolenni ar gyfer Wythnos 1, Wythnos 2 ac Wythnos 3. Yn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys, gallwch greu ffolderi â'r un enwau ac uwchlwytho'ch ffeiliau. Pan fyddwch yn creu cynnwys, gallwch lywio i'r ffolder priodol i leoli'r ffeil y mae ei hangen arnoch.
Cwestiynau cyffredin
Cyn i fi greu cynnwys, oes rhaid i fi uwchlwytho fy holl ffeiliau i Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys?
Nac oes. Gallwch ychwanegu ffeiliau wrth i chi greu cynnwys. Gallwch ddefnyddio'r swyddogaeth pori i uwchlwytho un neu fwy o'r ffeiliau. Os byddwch yn eu llwytho i fyny i faes cwrs, nid oes angen i chi lwytho'r un ffeiliau i fyny'n uniongyrchol i'r ystorfa. Ar ôl i chi greu eich cynnwys, gallwch symud eich ffeiliau newydd i ffolderi gwahanol yn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys fel y bo angen. Ni fydd y dolenni i’r ffeiliau yn eich cwrs yn torri.
Mwy ar ffyrdd i atodi ffeiliau
Beth sy'n digwydd os wyf am symud ffeil o un eitem cynnwys i'r llall?
Gallwch ailddefnyddio ffeiliau yn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys. Felly, gallwch ddileu dolenni i ffeiliau yn eich cwrs, eto mae'r ffeiliau eu hun yn aros yn yr ystorfa. Yna, gallwch gysylltu â nhw eto. Hefyd, os byddwch yn addasu neu symud ffeil i ffolder arall ar ôl i chi ei chysylltu yn eich cwrs, bydd y ddolen yn parhau i fod yn gyflawn.
Mae semester newydd wedi dechrau ac mae angen i fi ddiweddaru ffeil fy maes llafur. Beth yw'r ffordd orau i wneud hyn?
Gallwch olygu a disodli ffeiliau unigol yn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys wrth barhau i gynnal dolenni'r cwrs i'r ffeiliau hynny.
Enghraifft:
Rydych chi’n creu dolen i’ch ffeil maes llafur yn eich ystorfa. Yn hwyrach, bydd angen i chi wneud newidiadau i'r ffeil. Yn gyntaf, golygwch gopi o'r ffeil ar eich cyfrifiadur. Yna, ddychwelwch i’r ystorfa a chyrchu dewislen yr eitem. Llwythwch fersiwn newydd y maes llafur gyda’r swyddogaeth Ysgrifennu Dros Ffeil. Mae'r ddolen i'r ffeil yn eich cwrs yn aros yn gyfan. Pan fydd myfyrwyr yn cyrchu'r maes llafur yn eich cwrs, maent yn gweld y cynnwys a adolygwyd.
Mwy ar am ysgrifennu dros ffeiliau
Beth sy'n digwydd pan rwyf yn atodi ffeil wrth greu cynnwys mewn dyddlyfrau, blogiau, a thrafodaethau?
Yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, pan fyddwch yn creu cynnwys yn yr offer rhyngweithiol, gallwch ddefnyddio'r swyddogaeth Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd cynnwys i gynnwys ffeil yn eich cyfarwyddiadau. Mae'r system yn uwchllwytho'r ffeiliau yn awtomatig i Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys yn y ffolder lefel uchaf. Yn ddiweddarach, gallwch drefnu eich ffeiliau. Gallwch symud y ffeiliau i ffolderi gwahanol yn yr ystorfa a bydd y dolenni'n aros yn gyflawn.
Mwy ar ychwanegu ffeiliau’n awtomatig i’r ystorfa
Ydw i'n gallu cysylltu â ffeil fwy nag unwaith?
Gallwch gysylltu â ffeil cynifer o droeon ag y mynnwch. Os oes angen i chi olygu ffeil, bydd y newidiadau'n ymddangos yn yr holl enghreifftiau a gysylltwyd.
Os byddaf yn cysylltu â ffeil fwy nag unwaith, ydw i’n gallu cadw golwg ar ble y mae'r dolenni yn fy nghwrs?
Ydych. Yn Ffeiliau’r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys, ewch i ddewislen yr eitem a dewis Gwedd 360°. Gallwch edrych ar bob gwybodaeth am yr eitem a lle y mae wedi ei chysylltu yn eich cwrs.
Ar gyfer ffolderi, gallwch edrych ar lle y cysylltir y ffeiliau a'r is-ffolderi yn y ffolder yn eich cwrs.