Trwsio Cyferbyniad Testun
Dylai pawb fod yn gallu darllen eich testun
Mae rhannu cyflwyniadau a dogfennau gyda myfyrwyr yn gallu darparu deunyddiau adolygu ac astudio defnyddiol iddynt. Mae'n bwysig bod modd gweld y testun a'i bod yn ddarllenadwy. Os ydych eisiau i fyfyrwyr ei astudio, rhaid iddynt allu ei darllen.
Mae gwiriadau cyferbyniad Ally yn gwirio os oes digon o gyferbyniad rhwng lliw'r testun a lliw y cefndir. Gall pawb weld hi’n anodd darllen cynnwys sydd â diffyg cyferbyniad rhwng lliw'r testun a lliw'r cefndir ond mae myfyrwyr sydd â nam ar eu golwg megis lliwddallineb yn gweld hi’n arbennig o anodd ei ddarllen.
Mae Ally'n defnyddio'r gofynion cyferbyniad a nodir fel rhan o ganllawiau WCAG 2.1 AA.
Gallwch drwsio'r broblem hon ym meddalwedd eich cyflwyniad neu ddogfen ac uwchlwytho ffeil newydd pan fyddwch yn barod. Dewiswch y dangosydd Sgôr Hygyrchedd i ddysgu sut i wneud hyn. Dewiswch Beth mae hyn yn ei olygu i gael esboniad.
Rhagolygu Ble Mae’r Broblem Hygyrchedd
Gweld ble mae'r broblem hon
Mae'r rhagolwg yn amlygu ble allwch ganfod problemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Mae amlygiadau yn dangos pob digwyddiad un math o broblem ar y tro. Er enghraifft, os nad oes disgrifiadau amgen ar eich delweddau, bydd yr amlygiadau yn dangos lle mae'r broblem benodol hon yn digwydd. Os oes cyferbyniad testun gwael yn eich dogfen hefyd, dewiswch y broblem honno yn y panel adborth i amlygu pob digwyddiad o'r broblem honno.
Darparir amlygiadau ar gyfer y problemau hyn:
- Delweddau heb ddisgrifiad amgen priodol
- Darnau o destun â chyferbyniad annigonol
- Tablau heb benawdau tabl
Pob problem hygyrchedd arall heb ei hamlygu yn y rhagolwg.
Offer rhagweld
Defnyddiwch yr offer uwchben y rhagolwg i archwilio'r problemau yn eich dogfen.
- Symudwch trwy ragolwg y ddogfen tudalen yn ôl tudalen.
- Gweld faint o weithiau mae problem benodol yn digwydd yn y ddogfen.
- Neidiwch rhwng amlygiadau'r broblem.
- Cuddio neu ddangos yr amlygiadau.
- Chwyddo cynnwys y rhagolwg mewn neu allan.
- Lawrlwythwch y ffeil wreiddiol.
Trwsio'r cyferbyniad yn eich ffeil.
Os oes cyferbyniad gwael yn eich testun, gallwch drwsio'r broblem hon ym meddalwedd eich cyflwyniad neu ddogfen. Uwchlwythwch y ffeil newydd i Ally pan fyddwch chi'n barod. Dewiswch Sut i ychwanegu disgrifiadau i gael cyfarwyddyd cam wrth gam ar sut i wneud hyn.
- Dewiswch Sut i ychwanegu disgrifiadau a dilynwch y cyfarwyddiadau.
- Agorwch y ffeil ar eich cyfrifiadur.
Os nad oes gennych gopi o'r ffeil ar eich cyfrifiadur, gadewch banel adborth yr hyfforddwr a lawrlwythwch y ffeil o'r cwrs.
- Newid cyferbyniad y testun.
- Microsoft® Office: Dewiswch y testun. Agorwch ddewislen Lliw'r Ffont a dewiswch liw newydd gyda mwy o gyferbyniad.
- LibreOffice: Dewiswch ddelwedd. Dewiswch Fformatio o'r bar dewislen a dewiswch Ddisgrifiad. Ychwanegwch y testun disgrifiad.
- Defnyddiwch offeryn megis Colour Contrast Analyser o'r The Paciello Group i wirio cyferbyniad y testun.
- Cadwch y ffeil.
- Lanlwythwch y ffeil wedi'i diweddaru i'ch cwrs.
Os ydych chi'n dal i gael y cyfarwyddiadau ar agor ym mhanel adborth yr hyfforddwr, dewiswch Nesaf a Pori i lanlwytho'ch ffeil. Os nad yw panel adborth hyfforddwr ar agor gennych, dewiswch ddangosydd y sgôr Hygyrchedd nesaf at y ffeil yn eich cwrs a dewiswch Pori i uwchlwytho'ch ffeil.
Arferion gorau gyda chyferbyniad testun
Mae nifer o addasiadau syml y gallwch eu gwneud i wella darllenadwyedd testun.
- Defnyddiwch ffontiau gyda llythrennau llydan.
- Defnyddiwch faint ffont o 12px ar y lleiaf. Os ydych yn defnyddio ffont gyda strociau llythrennau tenau, defnyddiwch 16px ar y lleiaf.
- Defnyddiwch ffontiau "tenau" ar gefndiroedd tywyll yn unig.
- Defnyddiwch destun golau ar gefndiroedd tywyll.
- Defnyddiwch destun tywyll ar gefndir golau.
- Osgowch y cyfuniadau lliw canlynol:
- Gwyrdd a choch
- Gwyrdd a brown
- Glas a phorffor
- Gwyrdd a glas
- Gwyrdd golau a melyn
- Glas a llwyd
- Gwyrdd a llwyd
- Gwyrdd a du
Ddim yn siŵr os oes digon o gyferbyniad yn eich testun? Defnyddiwch Colour Contrast Analyser The Paciello Group i wirio'ch cynnwys.
Pam fod cyferbyniad testun yn bwysig?
Gall fod yn anodd darllen testun cyferbyniad isel mewn nifer o sefyllfaoedd.
- Pan gaiff ei dangos yn y dosbarth
- Ar gyfer myfyrwyr gyda dallineb lliw
- Ar ffôn symudol gyda golau llachar neu rhywbeth yn disgleirio ar y sgrin.
- Ar fonitorau o ansawdd gwael
Mae cyferbyniad isel yn gallu achosi straeon ar y llygaid, ei gwneud yn anoddach darganfod a sganio cynnwys, ac yn achosi rhwystredigaeth.
Mae cyferbyniad da yn golygu bod pawb yn gallu gweld y testun yn glir a'u bod yn cael profiad gwell wrth ddarllen eich cynnwys.