Dylai fod modd i bawb ddarllen eich testun

Mae rhannu cyflwyniadau, dogfennau a chynnwys cyrsiau â myfyrwyr yn gallu darparu deunyddiau adolygu ac astudio defnyddiol iddynt. Mae'n bwysig bod modd gweld y testun a'i fod yn ddarllenadwy. Os ydych eisiau i fyfyrwyr ei astudio, bydd rhaid iddynt allu ei ddarllen.

Mae gwiriadau cyferbyniad Ally yn gwirio os oes digon o gyferbyniad rhwng lliw'r testun a lliw y cefndir. Gall pawb weld hi’n anodd darllen cynnwys sydd â diffyg cyferbyniad rhwng lliw'r testun a lliw'r cefndir ond mae myfyrwyr sydd â nam ar eu golwg megis lliwddallineb yn gweld hi’n arbennig o anodd ei ddarllen.

Mae Ally'n defnyddio'r gofynion cyferbyniad a nodir fel rhan o ganllawiau WCAG 2.1 AA.


Trwsio'r cyferbyniad yn eich ffeil

Os oes cyferbyniad gwael yn eich testun, gallwch drwsio'r broblem hon ym meddalwedd eich cyflwyniad neu ddogfen. Uwchlwythwch y ffeil newydd i Ally pan fyddwch chi'n barod. Dewiswch Sut i ychwanegu disgrifiadau i gael cyfarwyddyd cam wrth gam ar sut i wneud hyn.

  1. Dewiswch Sut i ychwanegu disgrifiadau a dilynwch y cyfarwyddiadau.
  2. Agorwch y ffeil ar eich cyfrifiadur.

    Os nad oes gennych gopi o'r ffeil ar eich cyfrifiadur, gadewch banel adborth yr hyfforddwr a lawrlwythwch y ffeil o'r cwrs.

  3. Newid cyferbyniad y testun.
    • Microsoft® Office: Dewiswch y testun. Agorwch ddewislen Lliw'r Ffont a dewiswch liw newydd gyda mwy o gyferbyniad.
    • LibreOffice: Dewiswch ddelwedd. Dewiswch Fformatio o'r bar dewislen a dewiswch Ddisgrifiad. Ychwanegwch y testun disgrifiad.
  4. Defnyddiwch offeryn megis Colour Contrast Analyser o'r The Paciello Group i wirio cyferbyniad y testun.
  5. Cadwch y ffeil.
  6. Lanlwythwch y ffeil wedi'i diweddaru i'ch cwrs.

    Os ydych chi'n dal i gael y cyfarwyddiadau ar agor ym mhanel adborth yr hyfforddwr, dewiswch Nesaf a Pori i uwchlwytho'ch ffeil. Os nad ydych wedi agor y panel adborth i hyfforddwr, dewiswch ddangosydd y Sgôr Hygyrchedd nesaf at y ffeil yn eich cwrs a dewiswch Pori i uwchlwytho'ch ffeil.

Trwsio'r cyferbyniad yn eich cynnwys WYSIWYG

Crëwch neu golygwch gynnwys yng ngolygydd WYSIWYG eich cwrs. Wrth i chi deipio neu wneud newidiadau, caiff y sgôr Ally ei ddiweddaru'n awtomatig. Mae sgoriau yn amrywio o Isel i Perffaith. Po uchaf y sgôr po leiaf y problemau.

Dysgu mwy am sut i drwsio problemau cyferbyniad testun yng ngolygydd WYSIWYG eich cwrs

Rhagolygu Ble Mae’r Broblem Hygyrchedd


Gweld ble mae'r broblem hon

Mae'r rhagolwg yn amlygu ble gallwch ganfod problemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Mae amlygiadau'n dangos pob digwyddiad un math o broblem ar y tro. Er enghraifft, os nad oes disgrifiadau amgen ar eich delweddau, bydd yr amlygiadau yn dangos lle mae'r broblem benodol hon yn digwydd. Os oes cyferbyniad testun gwael yn eich dogfen hefyd, dewiswch y broblem honno yn y panel adborth i amlygu pob digwyddiad o'r broblem honno.

Darparir amlygiadau ar gyfer y problemau hyn:

  • Delweddau heb ddisgrifiad amgen priodol
  • Darnau o destun â chyferbyniad annigonol
  • Tablau heb benawdau tabl

Pob problem hygyrchedd arall heb ei hamlygu yn y rhagolwg.

Offer y rhagolwg

Defnyddiwch yr offer uwchben y rhagolwg i archwilio'r problemau yn eich dogfen.

  • Symudwch trwy ragolwg y ddogfen tudalen yn ôl tudalen.
  • Gweld faint o weithiau mae problem benodol yn digwydd yn y ddogfen.
  • Neidiwch rhwng amlygiadau'r broblem.
  • Cuddio neu ddangos yr amlygiadau.
  • Chwyddo cynnwys y rhagolwg i mewn neu allan.
  • Lawrlwythwch y ffeil wreiddiol.

Arferion gorau cyferbyniad testun

Mae nifer o addasiadau syml y gallwch eu gwneud i wella darllenadwyedd testun.

  • Defnyddiwch ffontiau gyda llythrennau llydan.
  • Defnyddiwch faint ffont o 12px ar y lleiaf. Os ydych yn defnyddio ffont gyda strociau llythrennau tenau, defnyddiwch 16px ar y lleiaf.
  • Defnyddiwch ffontiau "tenau" ar gefndiroedd tywyll yn unig.
  • Defnyddiwch destun golau ar gefndiroedd tywyll.
  • Defnyddiwch destun tywyll ar gefndir golau.
  • Osgowch y cyfuniadau lliw canlynol:
    • Gwyrdd a choch
    • Gwyrdd a brown
    • Glas a phorffor
    • Gwyrdd a glas
    • Gwyrdd golau a melyn
    • Glas a llwyd
    • Gwyrdd a llwyd
    • Gwyrdd a du

Ddim yn siŵr os oes digon o gyferbyniad yn eich testun?  Defnyddiwch Colour Contrast Analyser gan The Paciello Group i wirio'ch cynnwys.


Pam fod cyferbyniad testun yn bwysig?

Gall fod yn anodd darllen testun cyferbyniad isel mewn nifer o sefyllfaoedd.

  • Pan gaiff ei dangos yn y dosbarth
  • Ar gyfer myfyrwyr gyda dallineb lliw
  • Ar ffôn symudol gyda golau llachar neu rhywbeth yn disgleirio ar y sgrin.
  • Ar fonitorau o ansawdd gwael

Mae cyferbyniad isel yn gallu achosi straeon ar y llygaid, ei gwneud yn anoddach darganfod a sganio cynnwys, ac yn achosi rhwystredigaeth.

Mae cyferbyniad da yn golygu bod pawb yn gallu gweld y testun yn glir a'u bod yn cael profiad gwell wrth ddarllen eich cynnwys.