Pam nad ydw i'n gallu gweld fy mhostiad mewn trafodaeth?

Gwiriwch os ydych chi wedi cadw'ch cyfraniad fel drafft ar gamgymeriad. Dychwelyd i'r dudalen fforwm, ewch i'r ddewislen Dangos, a dewiswch Drafftiau yn unig.

Dewiswch Chwilio ar dop y prif fwrdd trafod, fforwm neu dudalen y trywydd a chwiliwch am derm ddefnyddioch chi yn eich neges.


A allaf atal colli testun?

Wrth ychwanegu testun at eich cwrs, gallwch eich diogelu rhag colli gwaith os ydych yn colli eich cysylltiad â'r rhyngrwyd neu os oes gwall gyda'r feddalwedd. Gallwch deipio mewn golygydd testun syml heb gyswllt, megis Notepad neu TextEdit, a chopïo a gludo'ch gwaith i mewn i'ch cwrs.

Neu, cyn i chi gyflwyno neu gadw, gallwch gopïo’r holl destun rydych chi eisiau ei ychwanegu. Dewiswch y testun a de-gliciwch i'w gopïo. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfuniadau ar y bysellfwrdd i gopïo a gludo:

  • Windows: Ctrl + A i ddethol yr holl destun, Ctrl + C i gopïo, a Ctrl + V i ludo.
  • Mac: Command + A i ddethol yr holl destun, Command + C i gopïo, a Command + V i ludo.

Ydw i'n gallu gludo testun o Microsoft® Word?

Fe gewch y canlyniadau gorau os ydych yn teipio'ch testun yn uniongyrchol yn y golygydd ac yn ei fformatio gyda'r opsiynau sydd ar gael.

Efallai y cewch broblemau os byddwch yn copïo ac yn gludo o ddogfen Word yn uniongyrchol i mewn i'r golygydd. Efallai ni fydd eich fformatio yn ymddangos fel y dymunwch. Efallai ni fyddwch chwaith yn gallu tynnu neu ychwanego fformation ar ôl i chi ei gludo i mewn i'r golygydd. Er mwyn osgoi'r problemau fformatio, gallwch dynnu'r fformat a'i ailfformatio gyda'r swyddogaethau yn y golygydd.

I dynnu fformatio Word ar ôl i chi ludo'r testun yn y golygydd, dewiswch yr holl destun a dewiswch eicon Tynnu'r Fformatio. Dylech ddefnyddio'r opsiwn hwn dim ond os ydych yn deall y bydd yr holl fformatio yn cael ei dynnu. Bydd unrhyw fwledi, rhestrau â rhifau, mewnoliadau, bylchau rhwng llinellau, testun a ganolwyd, a fformatio a maint testun yn cael eu tynnu.

Remove text formatting

Neu, cyn i chi ychwanegu'ch testun yn y golygydd, gallwch ei ludo i mewn i olygydd testun syml all-lein, megis Pad Ysgrifennu neu TextEdit, a chlirio'r fformatio. Yna, gallwch ludo'r testun i mewn i'r golygydd a'i fformatio fel y mynnwch.

Mwy ar weithio yn y golygydd


Pam na allaf weld postiadau fy nghyd-ddisgyblion mewn trafodaethau?

Mae'n bosibl y bydd eich hyfforddwr yn mynnu eich bod yn ymateb i drafodaeth cyn i chi allu darllen ymatebion ac atebion eraill. Pan fyddwch yn “postio’n gyntaf”, ni chewch eich dylanwadu gan ymatebion eich cyd-ddisgyblion. Pan fyddwch yn agor y math hwn o drafodaeth, bydd neges yn ymddangos: Postio ymateb er mwyn gweld gweithgarwch y drafodaeth. Ni allwch weld gweithgarwch trafodaethau eto. Bydd ymatebion ac atebion yn ymddangos pan fyddwch yn postio ymateb.


Pwy yw’r defnyddiwr rhagolwg?

Efallai byddwch yn gweld defnyddiwr yn y rhestr Cyfranogwyr â chyfenw eich hyfforddwr gyda’r atodiad _PreviewUser. Mae’ch hyfforddwr wedi ychwanegu defnyddiwr rhagolwg i adolygu cynnwys y cwrs o safbwynt myfyriwr.