Negeseuon ar gyfer pob cwrs

Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, dewiswch Negeseuon.

Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, gallwch chi a'ch hyfforddwyr anfon negeseuon at eich gilydd, at fwy nag un person neu at ddosbarth cyfan. Mae gweithgarwch negeseuon yn aros o fewn y system.

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.

Messages item is in the right menu within a course for the user to choose and review or send their messages

Peidiwch â cholli unrhyw beth sy'n digwydd. Os oes gennych gymysgedd o gyrsiau Gwreiddiol ac Ultra, gallwch gyrchu negeseuon ar gyfer y ddau ar y dudalen hon. Mae negeseuon newydd yn ymddangos mewn ffont trwm.

Cael mynediad at negeseuon dros amser. Gallwch weld negeseuon o gyrsiau cyfredol, blaenorol a'r rhai sydd yn y dyfodol. Defnyddiwch y saethau i symud i gyfnod amser arall.

Neidiwch i'ch negeseuon. Dewiswch gerdyn cwrs i weld yr holl negeseuon newydd a chyfredol yn eich cwrs. Gallwch ddileu negeseuon y tu mewn i'ch cwrs.

Barod i rannu? Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, dewiswch yr eicon Neges Newydd yng ngherdyn cwrs i anfon neges at un person, nifer o bobl, neu ddosbarth. Yn y Wedd Cwrs Ultra, dechreuwch deipio a bydd enwau derbynyddion yn ymddangos. Yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, dewiswch At. Bydd rhestr o holl aelodau'r cwrs yn ymddangos. Yn y blwch cyntaf, dewiswch y derbynyddion a dewiswch y saeth sy'n wynebu'r dde i'w symud i'r blwch Derbynyddion


Negeseuon mewn cwrs

Mewn cwrs, gallwch gyrchu’r dudalen Negeseuon ar y bar llywio. Bydd pob un o'ch negeseuon ac ymatebion cwrs yn ymddangos. Gallwch fwrw golwg trwy'r rhestr yn hawdd ac agor neges i ddarllen yr holl ymatebion.

Bydd eich negeseuon sydd heb eu darllen yn ymddangos yn gyntaf yn y rhestr. Mae pob neges yn dangos llun proffil y creawdwr. O dan enw'r creawdwr, gallwch weld sawl cyfranogwr sydd wedi’i gynnwys neu os yw’r neges ar gyfer y dosbarth cyfan.

  1. Edrych yn hwylus ar beth sy’n newydd. Mae cyfrif negeseuon yn ymddangos uwchben y rhestr. Bydd ymatebion newydd yn ymddangos gyda ffont trwm.
  2. Anfon neges. Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, dewiswch yr eicon Neges Newydd i anfon neges. Anfonwch i un person, rhagor nag un person neu'r dosbarth cyfan.

    Os oes gennych lawer o negeseuon, dewiswch nifer y negeseuon rydych eisiau eu gweld fesul tudalen i gulhau'ch ffocws.

  3. Dileu neges. Defnyddiwch yr eicon Dileu i ddileu neges. Os daw rhagor o ymatebion, byddwch yn ei cael. Ni allwch olygu neu ddileu ymatebion unigol mewn neges.
  4. Llywio i neges arall. Mae negeseuon yn agor mewn panel gyda phob ymateb. Defnyddiwch yr eiconau Gweld Negeseuon Blaenorol a Neges Nesaf ar y top i weld y neges flaenorol neu nesaf yn y rhestr.
  5. Ychwanegu rhagor o bobl. Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, pan fyddwch yn creu neu’n ymateb i neges, dewiswch yr eicon Ychwanegu Cyfranogwyr i ychwanegu pobl ychwanegol oni bai fod y neges wedi cael ei hanfon at y dosbarth cyfan. Mae'r derbynyddion gwreiddiol yn gweld nodyn yn y neges nesaf eich bod wedi ychwanegu pobl newydd neu'r dosbarth cyfan. Mae'r derbynyddion newydd yn gweld y neges o'r pwynt y cawsant eu hychwanegu.

Anfon neges

Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, pan ddewiswch yr eicon Neges Newydd ar y dudalen Negeseuon, mae’r panel Neges Newydd yn agor.

Rhagor am negeseuon darllen yn unig

Dechreuwch deipio i ychwanegu derbynyddion. Wrth i chi deipio, bydd enwau'r derbynyddion sy'n cyd-fynd yn ymddangos mewn dewislen er mwyn i chi allu eu dewis yn hawdd. Gallwch barhau i ychwanegu cynifer o enwau ag y mynnwch neu anfon i'r dosbarth cyfan.

Arweiniwch gyda’r wybodaeth bwysicaf. Nid oes gan negeseuon deitlau. Mae angen i dderbynyddion ddibynnu ar ran cyntaf eich neges wrth iddynt ddewis beth i'w ddarllen. Gallwch ddefnyddio'r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun a phlannu delweddau ac atodi ffeiliau.

Yn y golygydd, dewiswch yr eicon plws i weld y ddewislen opsiynau. Byddwch yn gweld yr opsiwn i atodi ffeil. I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â bwledi.

Anfonwch gopi e-bost. Gallwch anfon copi o neges gwrs fel neges e-bost. Mae aelodau cwrs yn fwy tebygol o weld, darllen a gweithredu ar negeseuon cwrs pan dderbyniant gopi yn eu mewnflwch. Bydd copïau e-bost yn cael eu danfon dim ond os oes gan dderbynyddion gyfeiriad e-bost dilys yn eu proffil ar Blackboard Learn. Pan ddewiswch yr opsiwn hwn, mae holl dderbynwyr y neges yn derbyn copi e-bost. Bydd derbynyddion yn gallu gweld eich neges ym mewnflwch eu cyfrifon e-bost, ond ni fyddant yn gallu anfon e-bost i ymateb.

Negeseuon darllen yn unig

Gall eich sefydliad ddewis peidio â chaniatáu i fyfyrwyr ymateb i neu greu negeseuon yn eu cyrsiau. Nid yw'ch hyfforddwyr yn rheoli’r gosodiad hwn.

Efallai bydd gennych ganiatâd ond i ddarllen negeseuon a anfonir atoch gan rolau eraill, megis hyfforddwyr a chynorthwywyr addysgu. Ni fydd modd i chi flaenyrru negeseuon rydych yn eu derbyn.

Yn y ffurf darllen yn unig, tynnir yr arwydd plws i ychwanegu neges o’ch tudalen Negeseuon cyffredinol a thudalen Negeseuon cyrsiau Ultra.

Pan fyddwch yn gweld neges gwrs Ultra unigol, byddwch yn gweld neges yn y blwch Ateb sy’n dweud: Ni ellir ymateb i'r neges hon am fod yn nodwedd wedi'i hanalluogi.