Ymateb i drafodaeth
Mewn cwrs, dewiswch eicon Trafodaethau ar y bar llywio i fynd i'r dudalen trafodaethau. Dewiswch drafodaeth i ymuno. Efallai bydd rhai trafodaethau hefyd yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs.
Pan fydd rhywun yn cyfrannu at drafodaeth, bydd eicon yn ymddangos nesaf at deitl yr eitem ar dudalen Cynnwys y Cwrs.
Bob tro byddwch yn agor trafodaeth, bydd unrhyw atebion ac ymatebion newydd yn ymddangos gyda “Newydd” i ddangos unrhyw weithgarwch newydd sydd wedi digwydd ers eich ymweliad diwethaf. Gallwch ychwanegu ymateb, ateb neu hyd yn oed ymateb i ymateb.
Gallwch ddefnyddio’r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun, atodi ffeiliau, a phlannu ffeiliau amlgyfrwng. Os ydych yn edrych ar y golygydd ar sgrin lai, dewiswch yr eicon plws i weld y ddewislen opsiynau. Er enghraifft, dewiswch Mewnosod/Golygu Ffeiliau Lleol—a gynrychiolir gan eicon y clip papur. Porwch am ffeil o'ch cyfrifiadur. Mae ffenestr statws yn ymddangos i ddangos y cynnydd wrth uwchlwytho'r ffeil.
I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.
Gall eich hyfforddwr guddio gweithgarwch trafodaeth nes i chi bostio ymateb.
Rhagor am olygu a dileu mewn trafodaethau
Canfod cyfranogwr
Nid oes rhaid i chi fynd trwy holl drafodaethau'r cwrs er mwyn dod o hyd i'r un rydych ei eisiau. Gallwch hidlo yn ôl enw cyfranogwr a gweld rhestr o gyfranogwyr.
Efallai byddwch yn gweld defnyddiwr yn y rhestr Cyfranogwyr â chyfenw eich hyfforddwr gyda’r atodiad _PreviewUser. Mae’ch hyfforddwr wedi ychwanegu defnyddiwr rhagolwg i adolygu cynnwys y cwrs o safbwynt myfyriwr.
Trafodaethau grŵp
Gall eich hyfforddwr eich pennu i grŵp er mwyn helpu i roi ffocws i'r drafodaeth. Y tro cyntaf i chi gael eich aseinio i drafodaeth grŵp, bydd neges yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs i roi gwybod i chi. Ar y dudalennau Cynnwys y Cwrs a Trafodaethau, mae enw'ch grŵp wedi'i restru ar ôl teitl y drafodaeth grŵp. Bydd enw eich grŵp yn ymddangos pan fyddwch yn agor y drafodaeth, ynghyd â rhestr o aelodau eich grŵp.
Pan fyddwch yn ymateb i drafodaeth grŵp, aelodau'ch grŵp a'ch hyfforddwr fydd yr unig rai all weld eich postiadau.
Cadw postiad fel drafft
Os nad ydych yn barod i bostio, gallwch gadw'ch ateb neu ymateb fel drafft. Dewiswch Cadw Drafft ar ôl i chi deipio'r cynnwys. Mae'ch drafft yn dangos ym mhanel y drafodaeth ond mae'n weladwy i chi yn unig. Ar ôl i chi gadw'ch drafft, dewiswch Golygu Drafft i barhau i weithio. Mae'ch drafft hefyd yn ymddangos yn y ddewislen cyfranogwyr.
Cyfrif geiriau ar gyfer ymatebion i drafodaethau
Wrth i chi greu ymatebion trafodaeth, bydd y cyfrif geiriau yn ymddangos o dan y golygydd. Ar ôl i chi gadw eich ymateb, nid ymddengys y cyfrif geiriau bellach.
Cynhwysir yr eitemau hyn yn y cyfrif geiriau:
- Geiriau unigol
- Dolenni Gwe
- Testun yn rhestrau â bwledi neu rifau, ond ni chynhwysir y bwledi neu rifau eu hunain
- Testun uwchysgrif ac isysgrif nid yw'n rhan o air
Nid yw'r eitemau nac elfennau ffurfweddu hyn yn effeithio ar y cyfrif geiriau:
- Delweddau, fideos ac atodiadau ffeil
- Fformiwlâu mathemateg
- Bylchau a llinellau gwag
- Testun amgen
Pan ddefnyddiwch atalnodi i atodi geiriau neu rifau, bydd effaith ar y cyfrif. Er enghraifft, caiff "Aethom ni...hebddoch chi" ei gyfrif fel tri gair. Cyfrifir y geiriau neu rifau ar bob ochr yr atalnodi fel un gair.