Mae mudiadau'n ymddwyn fel cyrsiau ac yn cynnwys offer sy'n galluogi cyfranogwyr i gyfathrebu'n effeithiol. Gallwch bostio gwybodaeth, cael trafodaethau a rhannu dogfennau. Gallwch chwilio am, hidlo a nodi fel ffefryn eich mudiadau. Mae mudiadau’n lle delfrydol i gysylltu â defnyddwyr eraill sydd â diddordebau neu weithgareddau allgyrsiol yn gyffredin. Eich sefydliad sy'n rheoli pwy all greu mudiadau.

 


Mudiadau

Mae gan sefydliadau fudiadau o wahanol fathau, o rai academaidd i ddiddordebau arbennig. Mae mudiadau'n gweithio yn union fel cyrsiau yn Blackboard Learn. Er enghraifft, mae ganddynt gynnwys, trafodaethau, negeseuon a mwy.

Rhagor am drafodaethau

Rhagor am negeseuon

Ydw i'n aelod?

Yn y rhestr lle mae'ch enw'n ymddangos, dewiswch Mudiadau i weld eich rhestr.

Arweinydd y mudiad a'ch sefydliad sy'n rheoli pwy all ymrestru, ond efallai byddwch yn gallu hunan-gofrestru. Cysylltwch ag arweinydd y mudiad am ymrestru. Ar ôl i chi gofrestru, yr arweinydd neu'r gweinyddwr yw'r unig rai all eich dad-gofrestru.

Gallwch weld y dudalen Mudiadau naill ai fel rhestr neu rid. Mae pob cerdyn mudiad yn rhestru ID y mudiad, teitl y mudiad a’r hyfforddwr. Os oes gan eich mudiad sawl arweinydd, dewiswch Arweinwyr Lluosog i gael rhestr. Dewiswch Rhagor o wybodaeth i weld y disgrifiad ac amserlen, os ydynt wedi’u hychwanegu.

Gallwch weld mudiadau nad ydynt ar gael yn eich rhestr, ond ni allwch gael mynediad atynt. Bydd mudiadau nad ydynt ar gael yn ymddangos gydag eicon clo.

Defnyddiwch y bar chwilio neu hidlydd ar frig y dudalen i fireinio’r hyn a welwch. Defnyddiwch y swyddogaeth chwilio i ddod o hyd i fudiadau ar y dudalen bresennol.

Symudwch rhwng mudiadau blaenorol, mudiadau cyfredol a mudiadau sydd ar ddod. Os oes gennych lawer o fudiadau, gallwch hefyd ddewis y nifer sy’n dangos ar bob tudalen. Ar frig y rhestr, gwelwch ddewisydd tudalen i lywio trwy restrau hir.

Os ydych am gael mynediad at fudiad yn aml, gallwch ddewis yr eicon seren i’w ychwanegu at eich ffefrynnau er mwyn iddo ymddangos ar frig eich rhestr. Nid oes angen i chi sgrolio bellach! Gallwch ddewis yr eicon seren unwaith eto i dynnu mudiad o’ch rhestr o ffefrynnau unwaith i chi beidio â’i ddefnyddio cymaint.

Ni allwch newid trefn y mudiadau yn y rhestr. Caiff y mudiadau eu rhestru yn nhrefn yr wyddor a'u grwpio yn ôl tymor, gyda’r mudiadau mwyaf newydd yn gyntaf. Bydd eich ffefrynnau'n ymddangos ar frig y dudalen.