Ynghylch dyddlyfrau

Mae dyddlyfr yn rhoi lle personol i chi i gyfathrebu'n breifat â'ch hyfforddwr. Gallwch ddefnyddio dyddlyfr fel offeryn hunanfyfyriol i gofnodi eich barn, syniadau a phryderon am eich cwrs. Gallwch hefyd drafod a dadansoddi deunyddiau sy’n ymwneud â'r cwrs. Er enghraifft, gallwch ddisgrifio’r problemau a wyneboch a sut y gwnaethoch eu datrys. Efallai bydd eich hyfforddwr yn cyfyngu'r ffocws a rhestru’r pynciau i'w trafod.

Gall eich hyfforddwr raddio eich cyfraniadau dyddlyfr neu eu defnyddio i gyfathrebu yn unig. Yn y naill enghraifft, gallwch wneud nifer o gofnodion mewn dyddlyfr.


Cael mynediad at ddyddlyfrau

Os yw’ch hyfforddwyr wedi ychwanegu dyddiad cyflwyno, gallwch gyrchu dyddlyfrau a raddir o’ch tudalennau Graddau, y calendr, a’r ffrwd gweithgarwch.

Os yw dyddiad cyflwyno dyddlyfr a raddir wedi mynd heibio, byddwch yn cael gwybod yn adran Pwysig y ffrwd gweithgarwch.

Rhagor am waith hwyr

Tudalen Cynnwys y Cwrs

Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch dyddlyfrau ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Mae eicon yn ymddangos nesaf at y teitl i ddynodi gweithgarwch newydd.

Gall eich hyfforddwr hefyd drefnu dyddlyfrau mewn ffolderi a modiwlau dysgu.

Efallai bydd eich hyfforddwr yn ychwanegu amodau rhyddhau cyn i chi allu gweld dyddlyfr. Er enghraifft, efallai bydd rhaid i chi ennill gradd benodol ar brawf cyn i chi allu agor y dyddlyfr.


Ychwanegu cofnodion dyddlyfr a sylwadau

Ar dudalen y dyddlyfr, mae eich hyfforddwr yn tueddu i ddarparu neges gyda’r cyfarwyddiadau a'r ffeiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau arno.

Gallwch greu cynifer o gofnodion dyddlyfr ag y mynnwch. Gallwch hefyd wneud sylwadau ar gofnodion dyddlyfrau. Gallwch ychwanegu sylw ar ôl i'ch hyfforddwr wneud sylw ar gofnod i barhau'r sgwrs.

Os yw'ch hyfforddwr wedi ychwanegu cyfarwyddyd ar gyfer graddio at ddyddlyfr, gallwch ei weld cyn ac ar ôl i chi ddechrau eich cyflwyniad. Dewiswch Mae'r eitem hon wedi'i graddio gan ddefnyddio cyfarwyddyd yn y panel ochr i weld y cyfarwyddyd.

Os ydych eisiau, gallwch weld y cyfarwyddyd ochr yn ochr â chyfarwyddiadau'r dyddlyfr. Gallwch ehangu pob un o feini prawf y cyfarwyddyd i weld y lefelau cyrhaeddiad a threfnu'ch ymdrechion i fodloni gofynion y gwaith a raddir.

Gallwch ddefnyddio'r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun a phlannu delweddau ac atodi ffeiliau. Os ydych yn edrych ar y golygydd ar sgrin lai, dewiswch yr eicon plws i weld y ddewislen opsiynau. Dim ond eich hyfforddwr sy'n gallu gweld y cynnwys a ychwanegwch.

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

Wrth i chi deipio yn y golygydd, bydd y cyfrif geiriau yn ymddangos o dan y golygydd. Ar ôl i chi gadw, nid ymddengys y cyfrif geiriau bellach.

Rhagor am y cyfrif geiriau

Hysbysiadau sylwadau newydd

Rhoddir gwybod i chi yn y ffrwd gweithgarwch pan fydd sylwadau newydd yn cael eu gwneud yn eich dyddlyfr.

Yn eich dyddlyfr, mae’r nifer o sylwadau yn ymddangos fel dolen dan bob cofnod. Mae label “Newydd” yn ymddangos gyda nifer y sylwadau newydd. Dewiswch y ddolen Dangos Sylwadau i agor yr adran sylwadau. Dewiswch y ddolen Cuddio Sylwadau i gwympo'r adran sylwadau.


Golygu a dileu cofnodion a sylwadau

Gall hyfforddwyr olygu neu ddileu cofnodion a sylwadau unrhyw un. Gallwch olygu neu ddileu eich cofnodion a sylwadau eich hun yn unig.

Agorwch ddewislen cofnod neu sylw i gael mynediad at y swyddogaethau Golygu a Dileu. Os ydych chi neu eich hyfforddwr wedi dileu cofnod, dilëir pob sylw am y cofnod hefyd.


Ble mae graddau fy nyddlyfr?

Ni raddir cyflwyniadau dyddlyfr yn awtomatig. Mae rhaid i'ch hyfforddwr raddio eich gwaith a chyhoeddi'r radd.

Wrth i'ch hyfforddwr gyhoeddi graddau, byddwch yn eu gweld yn eich ffrwd gweithgarwch. Dewiswch Gweld fy ngradd i ddangos eich gradd.

Rhagor am y ffrwd gweithgarwch

Gallwch hefyd gael mynediad at eich cyflwyniad a raddiwyd ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch deitl dyddlyfr i agor y panel Manylion a Gwybodaeth. Os ddefnyddiodd eich hyfforddwr gyfarwyddyd i raddio'ch cyflwyniad, dewiswch Mae'r eitem hon wedi'i graddio gan ddefnyddio cyfarwyddyd er mwyn agor y cyfarwyddyd wrth ochr y dyddlyfr. Ar yr adeg hon, ni all eich hyfforddwr ychwanegu graddau at y cyfarwyddyd ond gall ei ddefnyddio fel cyfeiriad.

Mae'ch graddau hefyd yn ymddangos ar y tudalennau graddau cyffredinol a rhai'r cwrs.

Rhagor am gael mynediad at raddau

Rhagor am liwiau'r pils graddau