Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Beth os oes gennych chi gwestiynau am ddarnau o gynnwys y cwrs?
Os yw'ch hyfforddwr wedi galluogi sgyrsiau dosbarth ar gyfer rhai eitemau cynnwys unigol, gallwch drafod y cynnwys gyda'ch hyfforddwr a chyd-ddisgyblion. Gallwch ofyn am gymorth, rhannu ffynonellau neu ateb cwestiynau myfyrwyr eraill. Wrth i’r sgwrs ddatblygu, bydd ond i’w gweld gyda’r cynnwys perthnasol. Nid yw sgyrsiau'n ymddangos ar y dudalen trafodaethau.
Gall eich hyfforddwr alluogi sgyrsiau ar gyfer yr eitemau hyn o gynnwys:
- Dogfennau
- Aseiniadau
- Aseiniadau grŵp
- Profion
- Profion grŵp
- Cyflwyniadau all-lein
- Cynnwys allanol, megis elyfr
Cael mynediad at sgyrsiau
Pan mae rhywun yn cyfrannu at sgwrs, mae eicon yn ymddangos nesaf at deitl yr eitem ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Agorwch ddewislen yr eitem a dewiswch Sgwrs i weld y sgwrs.
Mae'r ddewislen a'r "Sgwrs" yn ymddangos dim ond os yw'ch hyfforddwr wedi galluogi sgyrsiau dosbarth ar gyfer yr eitem.
Neu, dewiswch eicon Agor sgwrs dosbarth yn y gornel dde ar dop y dudalen ar banel neu haen eitem. Bydd cylch porffor yn ymddangos gyda'r eicon i ddynodi gweithgarwch newydd.
Haen sgwrsio
Mae sgyrsiau wedi'u trefnu yn yr un modd â thrafodaethau. Caniateir dwy lefel o ymatebion ar gyfer pob ymateb lefel gyntaf.
- Beth ydych chi eisiau dweud? Ychwanegu ymateb i gyd-ddisgybl neu'ch hyfforddwr. Gallwch ddefnyddio’r opsiynau yn y golygydd i fformatio testun, atodi ffeiliau, a phlannu ffeiliau amlgyfrwng.
Os ydych yn edrych ar y golygydd ar sgrin lai, dewiswch yr eicon plws i weld y ddewislen opsiynau. Byddwch yn gweld yr opsiwn i atodi ffeil.
I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.
- Cadw drafft. Gallwch ddechrau ymateb, ei gadw fel drafft, a'i orffen nes ymlaen.
- Beth sy'n newydd? Bydd ymatebion newydd yn ymddangos gydag eicon Newydd.
- Dileu cyfraniadau. Dewiswch eicon y bin sbwriel i ddileu eich ymatebion eich hun, ond ni allwch eu golygu. Bydd yr ymatebion i'r ymatebion a ddilëwyd gennych yn aros yno. Os oes angen, gall eich hyfforddwr dynnu cyfraniadau unrhyw un.
- Gweld gweithgarwch a chwilio am gyfranogwyr. Gweld y rhestr o gyfranogwyr a'u gweithgareddau, a chwilio am gyfranogwr penodol.
- Adnewyddu eich gwedd. Gwirio am weithgarwch newydd ers i chi agor y sgwrs.
Enghraifft: Cadw drafft
Bydd unrhyw ddrafftiau a gadwyd yn ymddangos gyda border a bathodyn Drafft er mwyn i chi allu dod o hyd iddynt yn rhwydd. Agorwch y ddewislen a dewiswch Golygu neu Dileu.
Sgyrsiau grŵp
Gallwch weld a chymryd rhan yn y sgyrsiau ar gyfer eich grŵp neu ddosbarth. Dewiswch deitl y grŵp i fynd i'r ddewislen a gwneud eich dewis. Bydd cylch porffor yn dynodi gweithgarwch newydd.
Gallwch chwilio am grŵp penodol neu aelod o gwrs yn seiliedig ar eich detholiad yn y ddewislen.
Gallwch hefyd ddefnyddio Collaborate Ultra i gyfarfod yn rhithwir gyda'ch grŵp os yw'ch cwrs yn defnyddio Collaborate a bod eich hyfforddwr wedi galluogi sgyrsiau. I agor ystafell Collaborate y grŵp, dewiswch eicon Agor ystafell Collaborate.
Newydd i Collaborate Ultra? Dechreuwch yma gyda'r hanfodion!