Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.


Trafodaethau grŵp

Yn y Wedd Cwrs Ultra, efallai bydd eich hyfforddwr yn creu grwpiau neu’n gofyn i chi ymuno â grŵp am drafodaethau grŵp. Efallai bydd eich hyfforddwr yn graddio'ch cyfraniadau.

I agor trafodaeth, dewiswch y tab Trafodaethau ar y bar llywio yn eich cwrs. Dewiswch y drafodaeth o'r rhestr sy'n ymddangos.

Efallai bydd eich hyfforddwr hefyd yn lleoli trafodaethau wrth ochr deunyddiau cwrs eraill ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Image of Course Content page with boxes highlighting Discussions tab in navigation bar and Group Discussion item listed in course area.

Sut ydw i'n gwybod os ydw i mewn grŵp?

Ar y dudalennau Cynnwys y Cwrs a Trafodaethau, mae enw'ch grŵp wedi'i restru ar ôl teitl y drafodaeth grŵp. Bydd enw eich grŵp yn ymddangos pan fyddwch yn agor y drafodaeth, ynghyd â rhestr o aelodau eich grŵp.

Pan ofynnir i chi ymuno â grŵp am drafodaethau grŵp, efallai byddwch yn gweld cyfnod cofrestru. Mae angen i chi ymuno â grŵp cyn y dyddiad cau. Os nad ydych wedi ymuno â grŵp, rhoddir gwybod i chi pan fydd y dyddiad olaf i gofrestru yn nesáu.

Gallwch hefyd weld a yw’r cyfnod cofrestru wedi agor eto neu wedi dod i ben. Cysylltwch â'ch hyfforddwr os nad ydych wedi ymuno â grwp cyn y dyddiad olaf i gofrestru.

delwedd o Faes Cynnwys y Cwrs gyda dwy res yn rhestru gweithgareddau Trafodaeth Grŵp. Mae saeth tynnu sylw yn pwyntio at enw'r grŵp neu'r ddolen “Ymunwch â grŵp i gymryd rhan” yn y rhesi.

Dewiswch y ddolen Ymunwch â grŵp i gymryd rhan i gyrchu'r dudalen Grwpiau. Os ydych yn dewis teitl trafodaeth grŵp, bydd tudalen yn agor gyda manylion a dolenni i ymuno â grŵp. Ni allwch gymryd rhan nes i chi ymuno â grŵp.

Delwedd o dudalen Trafodaeth Grŵp gyda blwch amlygu o amgylch y ddolen “Ymunwch â grŵp i gymryd rhan” yn yr adran Manylion a Gwybodaeth

Tudalen Grwpiau

Mae’r grwpiau y gallwch ymuno â nhw yn ymddangos ar y dudalen Grwpiau. Yn seiliedig ar osodiadau’ch hyfforddwr, efallai byddwch yn gweld dolenni Dangos Aelodau sy’n dangos enwau'r aelodau eraill a ymunodd cyn chi. Yn y golofn Nifer o fyfyrwyr, gallwch weld y nifer o aelodau sy’n gallu ymuno â phob grŵp. Efallai bydd eich hyfforddwr yn caniatáu i bob myfyriwr ymuno â phob grŵp. Er enghraifft, efallai bydd eich hyfforddwr yn caniatáu i chi ymuno â nifer o grwpiau i drafod materion cymdeithasol penodol.

Ar ôl ichi ymuno â grwp, bydd Wedi Ymuno yn ymddangos yn y rhes honno. Gallwch symud i grŵp arall tra bod y cyfnod cofrestru ar agor. Ni allwch ymuno â neu symud i grwpiau sydd wedi cyflwyno gwaith neu sydd wedi cyrraedd y nifer mwyaf o aelodau.

delwedd o dudalen Hunan-Gofrestru gyda saeth yn pwyntio at y ddolen “Dangos Aelodau”

Os na allwch ymuno ag unrhyw grŵp neu os yw'r dyddiad cofrestru wedi mynd heibio, cysylltwch â’ch hyfforddwr.

On the left, the student's Group details section is open with the list of self-enrollment groups available to join. On the right, the list of self-enrollment groups shows 1) the message "Joined" in one group and 2) the option "Move to this group" in the groups available to join.

Ar ôl ymuno â grŵp, gallwch weld eich gweithgarwch grŵp a chyfranogi.


Trafodaethau grŵp a raddir

Os welwch wybodaeth graddio ym manylion y drafodaeth, graddir eich cyfranogiad. Bydd eich hyfforddwr yn pennu gradd ar gyfer eich cyfranogiad yn y drafodaeth gyfan, nid ar gyfer pob postiad unigol. Os yw'ch hyfforddwr wedi cysylltu cyfarwyddyd â'r drafodaeth, dewiswch Mae'r eitem hon wedi'i graddio gan ddefnyddio cyfarwyddyd i ddangos mwy o wybodaeth. Gallwch weld y meini prawf graddio cyn i chi gyfrannu.

delwedd o dudalen Trafodaeth Grŵp gydag aelodau yn postio ac yn ateb cwestiwn y drafodaeth. Mae blwch yn amlygu adran Manylion a Gwybodaeth y dudalen

Gweld gweithgarwch

Bob tro ichi agor trafodaeth, caiff unrhyw atebion ac ymatebion newydd eu hamlygu er mwyn dangos unrhyw weithgarwch newydd ar ôl eich ymweliad diwethaf. Gallwch hefyd ddefnyddio’r eicon Adnewyddu ar frig y drafodaeth i lwytho unrhyw atebion neu ymatebion mae aelodau'ch grŵp wedi'u postio ar ôl ichi agor y drafodaeth.

Gallwch bostio ymateb i'r neges gychwynnol neu ymateb i ymatebion aelod o'ch grŵp. Os ydych eisiau ailedrych ar eich ymatebion ac atebion cyn i chi bostio, gallwch ddewis Cadw Drafft.