Ychwanegu ffeiliau ac amlgyfrwng

Pan fyddwch yn cyflwyno'ch gwaith, gallwch bori am ffeiliau a gedwir ar storfa cwmwl neu ar eich cyfrifiadur. Gallwch gynnwys dogfennau, fideo, sain a delweddau.

Rhagor am storfa cwmwl

Mae mathau o ffeil a gefnogir yn cynnwys DOC, DOCX, HTM, HTML, MP3, MPG, PDF, PPT, PPTX, XLS, XLSX, RTF, TXT, ZIP, a'r rhan fwyaf o fathau ffeil delwedd.

Mwy ar y mathau o ffeiliau y gallwch eu hychwanegu.

Mwy ar aseiniadau

Yn y rhan fwyaf o borwyr, gallwch ddewis y lleoliad mae’r ffeiliau rydych yn eu hagor yn cael eu lawrlwytho iddo. Er enghraifft, yn Chrome, llywiwch i Settings > Advanced > Downloads. Gallwch ddewis y lleoliad ar gyfer lawrlwytho ffeiliau a dewis os ydych eisiau i'r porwr ofyn bob tro. Yn Safari, mae gennych yr un galluoedd. Llywiwch i Preferences > General > File download location. Gallwch chwilio ar y rhyngrwyd i ddysgu am ddewisiadau lawrlwytho ffeiliau ym mhorwyr eraill.


Mewnosod ffeiliau yn y golygydd

Gallwch uwchlwytho ffeiliau yn y golygydd mewn ardaloedd penodol o gwrs Ultra. Er enghraifft, mewn trafodaeth, gallwch gynnwys dogfen i gefnogi eich datganiadau.

Mae'r golygydd ond yn cefnogi gwylio mewnol ar gyfer fideos yn y fformat MP4. Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho fideos sy'n defnyddio mathau eraill o ffeiliau, megis MOV neu MPEG. Ni allwch ychwanegu atodiadau yn y golygydd mewn eitemau calendr.

Dewiswch Mewnosod/Golygu Ffeiliau Lleol. Pori am ffeil o'ch cyfrifiadur. Mae ffenestr statws yn ymddangos i ddangos y cynnydd wrth uwchlwytho'r ffeil.

Gallwch olygu gosodiadau'r ffeil, gan gynnwys yr enw arddangos, y testun amgen, a'r ymddygiad arddangos. Dewiswch a ydych eisiau mewnosod y ffeil fel dolen yn y golygydd neu blannu'r ffeil yn uniongyrchol er mwyn iddi ymddangos gyda'r cynnwys arall a ychwanegoch.

Edit file options panel

I olygu testun amgen neu ymddygiad arddangos y ffeil, dewiswch y ffeil yn y golygydd ac wedyn dewiswch yr eicon Golygu Atodiad.


Mewnosod delweddau yn y golygydd

Mewn rhai ardaloedd o gwrs Ultra, gallwch ddefnyddio swyddogaethau’r golygydd i ychwanegu delweddau ynghyd â chynnwys testun. Gallwch ychwanegu delweddau sydd yn cael eu gweini ar lein neu sydd wedi eu cadw ar storfa cwmwl. Gallwch hefyd uwchlwytho delwedd o’ch disg lleol.

Os byddwch yn ychwanegu delwedd fawr, mae’n bosib y byddwch am gynnwys y ddelwedd fel dolen gyswllt testun ar wahân. Wedyn, bydd eich cyd-fyfyrwyr a'ch hyfforddwr yn gallu dewis y ddolen i weld y ddelwedd yn gliriach ac ar wahân i’r testun, gan gadw’r gallu i ddarllen eich testun hefyd.

Dewiswch Ychwanegu Cynnwys > Mewnosod/Golygu Delwedd o'r We. Teipiwch neu gludwch URL delwedd i blannu delwedd a letyir ar-lein. Mae rhaid i chi ddefnyddio'r protocol http://. Cynhwyswch ddisgrifiad o'r ddelwedd yn y blwch Testun amgen er mwyn i ddefnyddwyr na allant weld y ddelwedd allu deall pwysigrwydd y ddelwedd.

I olygu ffynhonnell neu destun amgen y ddelwedd, dewiswch y ddelwedd yn y golygydd ac wedyn dewiswch Ychwanegu Cynnwys > Mewnosod/Golygu Delwedd o'r We.


Mewnosod cyfryngau yn y golygydd

Gallwch ddefnyddio’r opsiwn Mewnosod/Golygu Cyfryngau o'r We i fewnosod ffeiliau cyfryngau yn uniongyrchol yn y golygydd. Mae'r golygydd yn plannu'r cynnwys yn awtomatig fel ei fod yn ymddangos wrth ochr y cynnwys arall rydych yn ei gynnwys. Gall aelodau cwrs weld y cynnwys, megis fideo, o fewn yr un ffenestr—ni fydd rhaid iddynt lywio i wefan y cyfryngau.

Gallwch blannu cynnwys o'r gwefannau hyn:

  • VidGrid
  • Panopto™
  • FlipGrid
  • SlideShare
  • Prezi
  • VoiceThread
  • Khan Academy
  • Kaltura
  • SoundCloud
  • Spotify®
  • Genial.ly
  • NearPod
  • Quizlet
  • EdPuzzle
  • Office365
  • H5P
  • Vimeo®
  • YouTube™
  1. Yn y golygydd, dewiswch Mewnosod/Golygu Cyfryngau o'r We.
  2. Gludwch URL y ffynhonnell o'r wefan.
  3. Ychwanegwch destun amgen sy'n disgrifio'r eitem ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin neu sy'n methu â llwytho'r cynnwys.
  4. Dewiswch Mewnosod. Mae'r eitem yn cael ei phlannu'n awtomatig yn y golygydd.
  5. Ychwanegu ffeiliau Office 365.Gallwch blannu ffeiliau menter Office365 yn uniongyrchol yn eich cynnwys. Dewiswch Rhannu yn eich ffeil Office365 i greu dolen i'r ffeil. Dewiswch ba briodweddau rydych eisiau eu rhoi i'r defnyddiwr a dewiswch Copïo’r Ddolen. Bydd hyn yn copïo'r ddolen i’ch clipfwrdd. I blannu’r cynnwys, dewiswch Mewnosod/Golygu Cyfryngau o'r We o'r golygydd. Gludwch y ddolen yn URL y Cyfryngau.Dewiswch Mewnosod.

    Rhagor am sut mae ffeiliau cyfryngau yn ymddangos


Mewnosod Fideo YouTube

Defnyddiwch yr opsiwn Mewnosod Fideo YouTube i bori ac ychwanegu cynnwys fideo yn uniongyrchol yn y golygydd. Nid oes angen i chi adael eich cwrs i ganfod dolen! Gallwch ddewis dangos fideo fel dolen neu ei phlannu er mwyn iddi ymddangos fel rhan o'r cynnwys arall rydych wedi'i ychwanegu. Gall pobl eraill wylio'r fideo o fewn yr un ffenestr—ni fydd rhaid iddynt lywio i YouTube.

Rhagor am fewnosod fideos YouTube


Mewnosod Eitem LTI

Defnyddiwch yr opsiwn Mewnosod/Golygu Eitem LTI i bori ac ychwanegu’r cynnwys mae’ch sefydliad yn ei ganiatáu o’r Content Market.

Ddim yn gweld yr offeryn sydd ei angen arnoch? Cysylltwch â'ch gweinyddwr.