Golygydd Mathemateg

Mae'r golygydd mathemateg wedi'i ysgrifennu gan WIRIS ac mae'n seiliedig ar safonau fel MathML ar gyfer cynrychiolaeth fewnol a fformat delweddau PNG ar gyfer arddangos fformiwlâu. Mae golygydd mathemateg yn seiliedig ar Javascript ac mae'n rhedeg ar unrhyw borwr a system weithredu, gan gynnwys ffonau clyfar a thabledi.

Yng ngolygydd y cwrs, dewiswch eicon Lansio'r Golygydd Mathemateg i agor ffenestr y golygydd WIRIS. Yn seiliedig ar ba wedd cwrs rydych yn ei gweld, bydd gan eich golygydd un neu dair rhes o ddewisiadau.

Eicon y golygydd mathemateg yn cael ei ddewis o'r eiconau golygu ym mar offer y golygydd

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis opsiwn