Beth yw cyfuniad?

Ble bynnag gallwch ychwanegu a fformatio testun yn eich cwrs, gallwch ychwanegu cyfryngau cymdeithasol o wefannau eraill at eich cynnwys. Enw’r elfennau cyfryngau cymdeithasol hyn sy'n ymddangos mewn cwrs yw "cyfuniadau". Mae cyfuniad yn cyfuno elfennau o ddwy ffynhonnell neu fwy. Er enghraifft, pan rydych yn gwylio fideo YouTube™ fel rhan o gynnwys y cwrs, rydych yn gweld cyfuniad.

Gall gyfuniadau ymddangos mewn cwestiynau prawf, trafodaethau, aseiniadau neu fel darnau unigol o gynnwys. Gallwch ychwanegu clip o ffilm neu lun mewn dyddlyfr, blog neu wici.

Mathau o gyfuniadau

Mae’r ffordd mae cyfuniadau yn cael eu hychwanegu at gynnwys wedi newid yn sylweddol ers cyflwyniad golygydd cynnwys TinyMCU. Gallwch bellach ddod o hyd i’r opsiynau gwahanol a oedd ar gael ar gyfer mathau gwahanol o ffeiliau a chyfryngau trwy'r nodwedd Ychwanegu Cynnwys.

Eich sefydliad a'ch hyfforddwyr sy'n pennu pa fathau o gyfuniadau sy’n ymddangos yn y golygydd. Yn gyffredinol, mae'r ddewislen Ychwanegu Cynnwys yn cynnwys y mathau hyn:

  • Flickr®: Rhannu delweddau ffotograffig.
  • SlideShare: Rhannu cyflwyniadau sleidiau, dogfennau, neu Bortffolios Adobe PDF.
  • YouTube: Rhannu fideos ar-lein.
  • Dropbox: Rhannu ffeiliau o'ch cyfrif Dropbox.

Gosodiad preifatrwydd

Nid yw fideo heb ei restru'n ymddangos wrth chwilio YouTube, a'r unig ddefnyddwyr sy'n gallu cael mynediad at y fideo yw'r sawl sy'n gwybod y ddolen. Fodd bynnag, nid oes modd sicrhau preifatrwydd llwyr. Mae'r gosodiad heb ei restru'n caniatáu i awduron gyhoeddi a rhannu fideos yn hawdd heb fod angen dewis yn benodol pwy all wylio'r fideo. Os oes gan ddefnyddwyr fynediad i le y cyhoeddir y fideo, gallant ei wylio. Gallant hefyd ddewis logo YouTube ar y fideo ac mae hynny'n caniatáu iddynt weld y fideo heb ei restru ar youtube.com.

Gallwch newid y gosodiad preifatrwydd i Preifat. O'r llyfrgell fideo, golygwch y fideo i'w wneud yn breifat yng ngosodiadau golygu clip YouTube.com. Os ydych yn gwneud fideo'n breifat, y defnyddwyr yn unig rydych yn eu cynnwys yn benodol, ac sydd â chyfrif Google all ei wylio. Mae fideos preifat yn ymddangos yn y llyfrgell gyda chlo nesaf atynt. Yr awdur a gwylwyr penodedig yw'r unig rai a all wylio fideos preifat.

Mewnosod Fideo YouTube


Mewnosod Fideo YouTube

Defnyddiwch yr opsiwn Mewnosod Fideo YouTube i bori ac ychwanegu cynnwys fideo yn uniongyrchol yn y golygydd. Nid oes angen i chi adael eich cwrs i ganfod dolen! Gallwch ddewis dangos fideo fel dolen neu ei phlannu er mwyn iddi ymddangos fel rhan o'r cynnwys arall rydych wedi'i ychwanegu. Gall pobl eraill wylio'r fideo o fewn yr un ffenestr—ni fydd rhaid iddynt lywio i YouTube.

  1. Yn y golygydd, dewiswch Mewnosod cynnwys > Mewnosod Fideo YouTube.
  2. Teipiwch derm chwilio i ddod o hyd i'r fideo perthnasol.
  3. Defnyddiwch y dewisiadau hidlo i chwilota’r rhestr o ganlyniadau’r chwiliad. YouTube sy’n penderfynu trefn canlyniadau’r chwiliad.
  4. Dewiswch fideo o'r rhestr:
  5. Ar y panel Golygu Gosidiadau Cynnwys, gallwch ychwanegu testun amgen sy’n disgrifio'r fideo ar gyfer pobl sy’n defnyddio darllenyddion sgrîn neu'r rhain na allant lwytho'r fideo.
  6. Gallwch ddewis dangos y fideo fel dolen gyswllt fel y bydd yn ymddangos ochr yn ochr a'r cynnwys arall a gynhwysir gennych. Os nad ydy porwr yn gallu chwarae fideo y tu fewn i gynnwys, bydd y fideo yn ymddangos fel dolen gyswllt.
  7. Dewiswch Mewnosod.