Beth ddylwn ei wybod cyn creu prawf?

  • Dangos neu guddio: All myfyrwyr ddim gweld prawf hyd nes ichi benderfynu ei ddangos iddynt. Ar dudalen Cynnwys Cwrs, gall y myfyrwyr weld pryd y bwriedir cyhoeddi’r prawf. Gallwch osod rheolau argaeledd amodol fel bod y prawf ond ar gael ar ddyddiadau penodol, amser penodol neu yn ôl perfformiad y myfyriwr ar eitemau eraill o gynnwys.
  • Gosodiadau prawf: Pwyswch eicon Agor Gosodiadau'r Prawf i roi manylion y prawf.
  • Dyddiadau dyledus: Mae dyddiadau dyledus yn ymddangos yn y calendr ac yn y ffrwd gweithgarwch. Mae cyflwyniadau hwyr i’w gweld â label Hwyr yn llyfr graddau’r cwrs.
  • Sgyrsiau dosbarth: Gallwch ganiatáu sgyrsiau o fewn prawf, a chaiff unrhyw un gyfrannu.
  • Cynllun marcio: O ddewislen Defnyddio graddau, dewiswch gynllun marcio cyfredol megis Pwyntiau. Mae sgôr prawf yn cynnwys cyfanswm holl bwyntiau’r cwestiwn. Gallwch newid y cynllun marcio ar unrhyw adeg.
  • Nodau a safonau: Gallwch atodi un neu ragor o nodau wrth brawf.
  • Disgrifiad dewisol: Bydd y disgrifiad yn ymddangos gyda theitl y prawf yn y dudalen Cynnwys y Cwrs.

Sut mae creu prawf?

Gallwch greu profion wrth ichi greu mathau eraill o gynnwys. Pan fyddwch chi’n creu prawf, caiff eitem llyfr graddau ei greu yn awtomatig.

The Create option from the add content button opens up a create item menu.

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu prawf. Yn y ddewislen, dewiswch Creu i agor y panel Creu Eitem a dewiswch Prawf. Bydd y dudalen Prawf Newydd yn agor.

Gallwch hefyd ehangu neu greu ffolder neu fodiwl dysgu ac ychwanegu prawf.

Rhagor am greu profion

Mae myfyriwr yn dweud eu bod wedi cymryd prawf ond nid ydwyf yn ei weld. Sut allaf wybod eu bod wedi cymryd y prawf?

Rydym yn gwybod bod adegau pan fydd myfyrwyr yn credu eu bod wedi cyflwyno eu gwaith ond yn deall yn nes ymlaen ni chafodd eu gwaith ei anfon o gwbl, neu nid anfonwyd eu gwaith yn llwyddiannus. Ar ôl i fyfyriwr gyflwyno aseiniad neu brawf, bydd ffenestr foddol gyda rhif cadarnhau cyflwyno yn ymddangos. Anogir myfyrwyr i gadw'r rhif hwn fel prawf o'u gwaith, a thystiolaeth ar gyfer anghydfodau academaidd.

Gall hyfforddwyr chwilio am rif cadarnhau derbynneb ar frig gwedd cyflwyniadau'r llyfr graddau. Mae hyn yn helpu hyfforddwyr i ddod o hyd i gyflwyniadau myfyrwyr pan fydd angen gwiriad ychwanegol. Gan ddefnyddio rhif cadarnhau y dderbynneb, gall hyfforddwyr ddod o hyd i'r wybodaeth ganlynol:

  • enw'r asesiad
  • gradd yr asesiad
  • y nifer o ymgeisiau ar gyfer asesiad a wnaed gan y myfyrwyr a gyflwynodd yr asesiad
  • maint unrhyw ffeil sydd wedi'i chynnwys gyda'r cyflwyniad; mae hyn yn caniatáu i'r hyfforddwr ddeall beth mae myfyriwr wedi'i atodi i'w farcio
  • stamp amser a dyddiad y cyflwyniad

Mae'r wybodaeth hon yn ymddangos ar y panel cipolwg ar gyfer pob ymgais a gyflwynwyd.

Submission date and time stamp, file size, and submission receipt number for all attempts

Mae rhif y dderbynneb a maint unrhyw ffeiliau a atodwyd yn ymddangos ar frig gwedd y cyflwyniad.

Submission receipt number, date and time stamp, and file size on the submission view