Sut ydw i'n dod o hyd i fy nghyrsiau?

O'r rhestr lle mae’ch enw yn ymddangos, gallwch weld rhestr o'ch cyrsiau.

Ar y dudalen Cyrsiau, gallwch gael mynediad at bob un o'ch cyrsiau. Mae pob cerdyn cwrs yn rhestru ID y cwrs, teitl y cwrs a’r hyfforddwr. Os oes mwy nag un hyfforddwr ar eich cwrs, dewiswch Hyfforddwyr Lluosog i weld pob hyfforddwr. Dewiswch Rhagor o wybodaeth i weld y disgrifiad ac amserlen, os ydynt wedi’u hychwanegu.

Rhagor am y dudalen Cyrsiau


A allaf bersonoli fy rhestr cyrsiau?

Na, ni allwch newid trefn y cyrsiau yn y rhestr. Caiff y cyrsiau eu rhestru yn nhrefn yr wyddor a'u grwpio yn ôl tymor.

Os ydych am gael mynediad at gwrs penodol yn aml, gallwch glicio ar yr eicon seren i ychwanegu’r cwrs at eich ffefrynnau. Bydd y cwrs yn ymddangos ar frig eich rhestr o gyrsiau. Nid oes angen i chi sgrolio bellach! Gallwch glicio ar yr eicon seren unwaith eto i dynnu cwrs o’ch rhestr o ffefrynnau unwaith i chi beidio â’i ddefnyddio cymaint.


Sut mae creu cynnwys?

Creu Cynnwys

Rydych yn dechrau creu'ch cwrs ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Fe welwch ei fod yn hawdd darganfod nodweddion a gweithredoedd cyflawn.

Ychwanegu cynnwys. Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych am ychwanegu cynnwys. Gallwch hefyd ehangu neu greu ffolder neu fodiwl dysgu ac ychwanegu cynnwys. Creu cynnwys newydd, uwchlwytho rhywbeth sydd gennych eisoes, neu ychwanegu cynnwys o ffynonellau allanol neu gwrs arall.

Creu: Ychwanegu modiwlau dysgu, dogfennau, dolenni, ffolderi, aseiniadau, profion, trafodaethau a dyddlyfrau. Bydd panel yn agor a gallwch ddewis y math o gynnwys rydych eisiau ychwanegu.

Copïo Cynnwys: Copïo cwrs cyfan neu eitemau penodol o'r cyrsiau rydych yn eu dysgu. Eisiau copïo cwrs Gwreiddiol cyfan neu fewngludo pecyn cwrs? Agorwch y ddewislen ar y dde uwchben y rhestr cynnwys a dewis yr opsiwn Mewngludo Cynnwys.

Rhagor am fewngludo ac archifo'ch cwrs

Uwchlwytho: Porwch am ffeil ar eich cyfrifiadur. Byddant yn ymddangos yn y rhestr cynnwys. Mae myfyrwyr yn dewis teitl ffeil i'w lawrlwytho. Mae mathau o ffeil a gefnogir yn cynnwys DOC, DOCX, HTM, HTML, MP3, MPG, PDF, PPT, PPTX, XLS, XLSX, RTF, TXT, ZIP, a'r rhan fwyaf o fathau ffeil delwedd.

Content Market: Darganfod ac ychwanegu cynnwys ac offer o ffynonellau allanol. Cael deunyddiau dysgu gwerthfawr gan bartneriaid cyhoeddi Blackboard, fel Macmillan a Jones & Bartlett.

Rhagor ar gopïo a mewnforio cynnwys

Storfa Cwmwl: Gallwch gysylltu â sawl ap gwe lle rydych yn storio’ch ffeiliau, megis OneDrive® a Google Drive™, yn syth bin. Gallwch ddewis ffeiliau lluosog o storfa cwmwl i’w hychwanegu at eich tudalen Cynnwys y Cwrs mewn un weithred. Bydd y ffeiliau a ychwanegwch yn gopïau. Os ydych am olygu ffeil a gedwir ar eich storfa cwmwl, bydd angen i chi uwchlwytho copi newydd ohono i’ch cwrs.

Rhagor am storfa cwmwl

Casgliad o Gynnwys: Ychwanegu ffeiliau o ystorfa a rennir eich sefydliad. Gallwch storio a dod o hyd i gynnwys mewn ffolderi, cwrs a sefydliad yn y Casgliad o Gynnwys. Os ydych wedi storio ffeiliau o gyrsiau eraill yn y Casgliad o Gynnwys, byddwch yn gallu dod o hyd iddynt a'u hychwanegu'n hawdd.

Rhagor am bori ac ychwanegu ffeiliau o'r Casgliad o Gynnwys

Rheoli beth mae myfyrwyr yn ei weld. Nid yw myfyrwyr yn gallu cael mynediad at eich cynnwys tan i chi benderfynu ei dangos, ond rydych chi'n gallu ei gweld o hyd. Dewiswch welededd eitem er mwyn ei newid. Efallai byddwch yn dewis dangos yr wythnos gyntaf o gynnwys - a chadw'r gweddill yn gudd wrth i chi ei fireinio. Mwynhewch! Arbrofwch! Gallwch hefyd greu rheolau i ryddhau cynnwys yn seiliedig ar ddyddiad, amser, neu sut mae myfyriwr yn perfformio ar eitemau eraill yn eich cwrs. Pan fyddwch yn creu'r rheolau hyn, gallwch ddewis a yw'r eitem yn weladwy i fyfyrwyr cyn iddynt gael mynediad.

Gyda'ch bysellfwrdd, tabiwch i'r rhestr weladwyedd a gwasgwch Enter i agor y ddewislen. Defnyddiwch Alt/Option a'r saethau i fyny ac i lawr i ddewis opsiwn.

Cadw trefn gyda ffolderi. Gallwch greu dwy lefel o ffolderi i gadw trefn ar eich cynnwys. Gall myfyrwyr lywio'n haws pan nad oes rhaid iddynt chwilio am ddeunyddiau. Fel arall, ychwanegwch ddisgrifiadau ffolder i helpu’r myfyrwyr i ddeall pa gynnwys rydych wedi’u cynnwys ynddo. Pan mae gennych dwy lefel o ffolderi yn barod, ni allwch greu trydydd lefel neu uwchlwytho ffolder i mewn i'r ffolder ail lefel.

Cadw trefn gyda modiwlau dysgu. Gallwch ddefnyddio modiwlau dysgu yn eich cwrs fel cynhwysyddion casgliadau o gynnwys wedi'u trefnu. Mae modiwlau yn caniatáu i fyfyrwyr lywio o un eitem o gynnwys i'r nesaf heb ymyriadau neu gliciau ychwanegol.

Mwy ar fodiwlau dysgu

Aildrefnu cynnwys yn hawdd. Pwyntiwch at eitem er mwyn datgelu ei swyddogaethau rheoli. Pwyswch ar Symud a llusgo’r eitem i leoliad newydd ar y rhestr.

Gyda'ch bysellfwrdd, gallwch symud eitem i leoliad newydd, symud eitem i ffolder wedi'i ehangu, a symud ffolder i ffolder wedi'i ehangu arall.

  1. Tabiwch i eicon symud yr eitem.
  2. Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
  3. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
  4. Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.

Golygu a dileu cynnwys. Yn rhes aseiniad, agorwch y ddewislen i gyrchu'r swyddogaethau Golygu a Dileu. Gallwch wneud newidiadau neu ddileu eitem o'ch cwrs. Os byddwch yn dileu ffolder neu modiwl dysgu â chynnwys, caiff y cynnwys ei ddileu hefyd o dudalen Cynnwys y Cwrs.

Ychwanegu amcanion a safonau. Gallwch chi a'ch sefydliad ddefnyddio amcanion i fesur cyflawniad myfyrwyr ar draws rhaglenni a chwricwla. Ar ôl i chi uwchlwytho ffeil yn llwyddiannus, gallwch alinio un nod neu ragor. Ni fydd myfyrwyr yn gallu gweld yr amcanion rydych yn eu halinio â ffeil.

Rhagor am sut i alinio nodau â chynnwys cwrs

Product Experience

Sut ydw i’n sicrhau bod fy nghwrs ar gael i fyfyrwyr?

O'r rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, dewiswch y ddolen Cyrsiau i gyrchu'ch rhestr cyrsiau. Agorwch ddewislen cerdyn cwrs i newid argaeledd eich cwrs.

Gallwch wneud eich cwrs yn breifat wrth i chi ychwanegu neu arbrofi gyda chynnwys, ac wedyn ei agor i fyfyrwyr pan fyddwch yn barod. Mae myfyrwyr yn gweld cyrsiau preifat ar eu rhestrau cwrs ond ni allant eu cyrchu.

Gallwch newid eich cwrs o fod yn breifat i fod yn agored ar dudalen Cynnwys y Cwrs.


Alla i guddio cynnwys cwrs rhag myfyrwyr hyd nes fy mod yn barod i’w ddangos iddynt?

Ydych. Wrth greu cynnwys, gallwch bennu’i argaeledd. Gallwch guddio cynnwys rhag myfyrwyr hyd nes eich bod yn barod iddynt ei weld. Hefyd, gallwch gyfyngu ar beth all y myfyrwyr ei weld yn ôl dyddiad, amser a pherfformiad myfyrwyr ar eitemau eraill sy’n cael eu graddio.

Rhagor am ryddhau amodol


Sut ydw i'n gwneud cynnwys fy nghwrs yn fwy hygyrch?

Ally yn Nhrosolwg Hyfforddwyr Learn Ultra

Mae'ch dosbarth yn llawn myfyrwyr amrywiol sydd â galluoedd dysgu unigryw. Mae darparu cynnwys gwreiddiol mwy hygyrch i fyfyrwyr yn golygu eu bod pob unigolyn yn gallu dewis fformatau sy'n gweithio orau iddynt. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally, gallwch ddefnyddio'r offeryn i helpu sicrhau bod cynnwys cyrsiau'n hygyrch i bob myfyriwr.

Mae dangosyddion sgôr hygyrchedd a fformatau amgen yn ymddangos nesaf at ddogfennau a phrofion cwrs.

Dechrau arni gydag Ally yn Ultra


Sut mae gosod pecyn iaith?

Gallwch osod yr iaith rydych am ei defnyddio ar gyfer eich system gyffredinol. Ar hyn o bryd, ni allwch newid pecynnau iaith ar lefel y cwrs. Bydd newid yr iaith yn effeithio ar bob un o'ch cyrsiau. Gall Gweinyddwyr osod ieithoedd penodol ar gyfer y cwrs, a gall myfyrwyr ddewis pa becyn iaith hoffent ei defnyddio.

Gallwch chi newid yr iaith ar lefel y defnyddiwr:

  1. Dewiswch Iaith ar eich proffil.
  2. Dewiswch becyn iaith o'r ddewislen.
  3. Dewiswch Cyflwyno.