Ydych am wybod beth sy’n achosi trafferth i’ch myfyrwyr?
Gweld Cwestiynau Myfyrwyr Am Aseiniadau. Wedyn, defnyddiwch swyddogaeth yn ôl eich porwr i ddychwelyd i'r pwnc hwn.
Sut mae creu aseiniadau?
Gallwch greu aseiniadau ynghyd â mathau eraill o gynnwys. Gall myfyrwyr gael gafael ar eu gwaith wrth ymyl y cynnwys fydd ei angen arnynt, pryd bynnag y bydd ei angen arnynt. Gallwch greu aseiniad grŵp hefyd a’i ryddhau i un grŵp neu fwy yn eich cwrs.
Mae croeso i chi arbrofi! Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld yr hyn ychwanegwch nes i chi wneud eich aseiniadau yn weladwy.
Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu aseiniad. Yn y ddewislen, dewiswch Creu i agor y panel Creu Eitem a dewiswch Aseiniad. Bydd y dudalen Aseiniad Newydd yn agor.
Gallwch ehangu neu greu ffolder ac ychwanegu aseiniad hefyd.
Wrth greu aseiniad, caiff eitem llyfr graddau ei chreu yn awtomatig.
Ar ôl i chi bostio graddau aseiniad, gall myfyrwyr weld eu sgorau ar eu tudalen graddau neu yn y ffrwd gweithgarwch. Yn ogystal, bydd modd iddynt gyrchu eu haseiniadau, y gwaith maent wedi’i gyflwyno, eich adborth a’u graddau trwy ddilyn y ddolen aseiniadau ar y dudalen Cynnwys y Cwrs.
Sut mae marcio aseiniadau?
Gallwch ddewis ble rydych am ddechrau graddio!
Ydych chi am weld faint o aseiniadau sy’n barod i gael eu marcio ymhob un o’ch cyrsiau? Yn y rhestr lle mae eich enw’n ymddangos, mae gennych fynediad ar unwaith i holl dasgau graddio eich cyrsiau ar y dudalen Graddau byd-eang. Mae'ch tasgau graddio yn cael eu trefnu yn ôl cwrs. Gallwch sganio eich cynnydd yn gyflym, pennu blaenoriaethau ar draws y bwrdd, a hyd yn oed dechrau graddio. Nid oes angen llywio i bob cwrs i weld beth sydd yn barod ar gyfer graddio.
Mae'r dudalen yn dangos gwybodaeth dim ond os oes angen i chi gymryd camau. Byddwch yn gweld pa aseiniadau sy’n barod i gael eu marcio, ynghyd â phwy sy’n hwyr yn dychwelyd gwaith.
Eisiau lleihau eich ffocws? Mewn cwrs gallwch gyrchu’r llyfr graddau ar y bar llywio. Gallwch weld pwy sydd wedi gwneud cyflwyniadau a dechrau graddio.
O'r ffrwd gweithgarwch, cewch eich hysbysu pan fydd cyflwyniadau myfyrwyr yn barod i gael eu graddio. Fel arall, dewiswch aseiniad ar dudalen Cynnwys y Cwrs i weld y nifer o fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno gwaith.
Gwylio fideo am raddio aseiniadau
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Mae Graddio aseiniadau yn esbonio sut i raddio aseiniadau.
A allaf olygu, ad-drefnu neu ddileu aseiniadau?
Gallwch! Gallwch lusgo a gollwng aseiniadau i leoliadau eraill yn amlinelliad y cwrs, a golygu neu ddileu aseiniadau!
Sut mae defnyddio SafeAssign?
Mae SafeAssign yn wasanaeth canfod llên-ladrad y gallwch ei alluogi mewn aseiniad a phrofion.
- Agorwch yr aseiniad lle hoffech ddefnyddio SafeAssign. Yn Gosodiadau'r Aseiniad, dewiswch Galluogi'r Adroddiad Gwreiddioldeb. Penderfynwch a ydych chi am ganiatáu i’r myfyrwyr weld yr Adroddiad Gwreiddioldeb ar gyfer pob un o’u hymgeisiau.
- Pan fydd y myfyrwyr yn dechrau ar y gwaith o gyflwyno aseiniadau, bydd SafeAssign yn mynd ati i ddadansoddi’r gwaith a’i atodiadau yn awtomatig. Tra bod yr Adroddiad Gwreiddioldeb yn prosesu, bydd y datganiad hwn yn ymddangos: Adroddiad ar y gweill... Bydd modd ichi weld yr Adroddiad Gwreiddioldeb yn y rhestr Cyflwyniadau ar ôl iddo orffen prosesu. Dewiswch ymgais i weld yr Adroddiad Gwreiddioldeb yng nghyd-destun cynnwys y cyflwyniad.
- Bydd y canrannau i’w gweld ym mhanel Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign. Mae SafeAssign yn dadansoddi pob rhan o'r ymgais, gan gynnwys ymatebion testun ac atodiadau. Dewiswch eitem ar restr yr Originality Report er mwyn gweld y canlyniadau hynny mewn ffenestr newydd.
Mae myfyriwr yn dweud eu bod wedi cyflwyno eu gwaith ond nid ydwyf yn ei weld. Sut allaf wybod a ydynt yn wir wedi gorffen yr aseiniad?
Rydym yn gwybod bod adegau pan fydd myfyrwyr yn credu eu bod wedi cyflwyno eu gwaith ond yn deall yn nes ymlaen ni chafodd eu gwaith ei anfon o gwbl, neu nid anfonwyd eu gwaith yn llwyddiannus. Ar ôl i fyfyriwr gyflwyno aseiniad neu brawf, bydd ffenestr foddol gyda rhif cadarnhau cyflwyno yn ymddangos. Anogir myfyrwyr i gadw'r rhif hwn fel prawf o'u gwaith, a thystiolaeth ar gyfer anghydfodau academaidd.
Gall hyfforddwyr chwilio am rif cadarnhau derbynneb ar frig gwedd cyflwyniadau'r llyfr graddau. Mae hyn yn helpu hyfforddwyr i ddod o hyd i gyflwyniadau myfyrwyr pan fydd angen gwiriad ychwanegol. Gan ddefnyddio rhif cadarnhau y dderbynneb, gall hyfforddwyr ddod o hyd i'r wybodaeth ganlynol:
- enw'r asesiad
- gradd yr asesiad
- y nifer o ymgeisiau ar gyfer asesiad a wnaed gan y myfyrwyr a gyflwynodd yr asesiad
- maint unrhyw ffeil sydd wedi'i chynnwys gyda'r cyflwyniad; mae hyn yn caniatáu i'r hyfforddwr ddeall beth mae myfyriwr wedi'i atodi i'w farcio
- stamp amser a dyddiad y cyflwyniad
I ddod o hyd i gyflwyniad â rhif y dderbynneb yn y llyfr graddau, dewiswch y botwm Chwilio yn ôl rhif derbynneb cyflwyniad ar frig y Llyfr Graddau.
Yn y panel chwilio am dderbynneb, rhowch rif y dderbynneb cyflwyniad mae'r myfyriwr wedi'i roi i chi i chwilio am y cyflwyniad cyfatebol.
Os canfyddir cyflwyniad, dewiswch y cyflwyniad i agor y dudalen graddio ar gyfer y cyflwyniad. Mae rhif y dderbynneb hefyd yn ymddangos ar y dudalen graddio.
Os na chanfyddir cyflwyniad, fe welwch y neges "Mae'n flin gennym! Ni chanfuwyd derbynneb cyflwyniad ar gyfer y rhif hwnnw. Gwiriwch rif y dderbynneb a rhowch gynnig arall arni."
Gwylio fideo am welliannau derbyneb cyflwyniad
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Gwelliannau derbyneb cyflwyniad yn dangos nodweddion derbynebau cyflwyniad estynedig ar gyfer hyfforddwyr a myfyrwyr.