Sut ydw i'n cael mynediad at Blackboard?

Rhowch gynnig ar chwilio'r we am enw eich sefydliad + Blackboard.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i safle eich sefydliad, cysylltwch â desg gymorth TG eich sefydliad. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth, neu edrychwch ar eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu fanylion cyswllt.


Mewngofnodi

Mae angen yr un tri darn o wybodaeth ar bawb i gael mynediad at Blackboard:

  • Cyfeiriad gwe safle Blackboard Learn eich sefydliad
  • Eich enw defnyddiwr
  • Eich cyfrinair

Yn y mwyafrif o achosion, mae'r cyfeiriad gwe yn eich cyfeirio i'r dudalen mewngofnodi. Os ydych yn cael eich cyfeirio at leoliad arall, edrychwch am fotwm mewngofnodi neu ardal arbennig y porth.

Beth sy'n digwydd ar ôl i fi fewngofnodi?

Mae defnyddwyr newydd yn gweld tudalen groeso sy'n eu gwahodd i greu proffil. Cyn i chi greu proffil, rhaid i chi dderbyn Telerau Defnyddio Proffiliau Blackboard yn y neidlen. Os nad ydych yn cytuno i'r telerau defnydd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at rai o'r offer. Gallwch ddewis creu proffil yn hwyrach.

Mae defnyddwyr cyfredol yn gweld tab Fy Sefydliad. O'r tab hwn, gallwch gael mynediad at y cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt neu yr ydych yn eu dysgu.


Sut ydw i’n newid fy nghyfrinair?

Gallwch newid eich cyfrinair gan ddefnyddio'r ddolen Wedi anghofio eich cyfrinair? ar y dudalen mewngofnodi. Os ydych eisoes wedi mewngofnodi, allgofnodwch i gael mynediad at y dudalen.

Teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw ac enw defnyddiwr. Mae angen cael cyfeiriad e-bost gweithredol yn gysylltiedig â'ch cyfrif i dderbyn cyfarwyddiadau. Neu, teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw a chyfeiriad e-bost.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, gallwch greu cyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau a dderbyniwch mewn e-bost. Mae'ch cyfrinair cyfredol yn parhau'n weithredol nes i chi ei newid.

Gallwch hefyd newid eich cyfrinair o'ch tudalen Proffil. Ewch i'ch proffil a dewiswch Newid Cyfrinair. Ar y panel Newid Cyfrinair, teipiwch eich hen gyfrinair a'ch cyfrinair newydd. Dewiswch Cadw pan rydych wedi gorffen.

Os ydych yn newid eich cyfrinair ar y system, ni fydd yn effeithio unrhyw gyfrifon allanol, megis Google, yr ydych yn eu defnyddio i fewngofnodi i Blackboard Learn.


Sut ydw i’n allgofnodi?

Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, dewiswch Allgofnodi yn y gornel chwith ar waelod y dudalen.